Salm 37
37
1Na fydd yn ddig wrth y / rhai dryg/ionus :
na chenfigennu wrth y / rhai sy’n / gwneud – / drwg.
2Oherwydd fe wywant yn / sydyn · fel / glaswellt :
a / chrino · fel / glesni / gwanwyn.
3Ymddiried yn yr Arglwydd a / gwna ddai/oni :
iti gael byw yn y / wlad · mewn cym/deithas · ddi/ogel.
4Ymhyfryda / yn yr / Arglwydd :
a rhydd / iti · ddei/syfiad · dy / galon.
5Rho dy / ffyrdd i’r / Arglwydd :
ymddiried / ynddo · ac / fe weith/reda.
6Fe wna i’th gywirdeb ddisgleirio / fel go/leuni :
a’th uniondeb fel / haul – / canol-/dydd.
7aDisgwyl yn dawel / am yr / Arglwydd :
aros yn / amy/neddgar · am/dano;
7bPaid â bod yn ddig wrth yr / un sy’n / llwyddo :
y / gŵr sy’n / gwneud cyn/llwynion.
8Paid â digio · rho’r / gorau i / lid :
paid â bod yn ddig, ni / ddaw ond / drwg o / hynny.
9Oherwydd dinistrir / y rhai / drwg :
ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr Arglwydd yn / etif/eddu’r / tir.
10Ymhen ychydig eto, ni / fydd · y dryg/ionus :
er iti edrych yn ddyfal am ei / le, ni / fydd ar / gael.
11Ond bydd y gostyngedig yn me/ddiannu’r / tir :
ac yn mwyn/hau – / heddwch / llawn.
12Y mae’r drygionus yn cynllwyn yn / erbyn · y / cyfiawn :
ac yn ys/gyrnygu · ei / ddannedd / arno;
13Ond y mae’r Arglwydd yn chwerthin / am ei / ben :
oherwydd / gŵyr · fod ei / amser · yn / dyfod.
14Y mae’r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn / plygu · eu / bwa :
i ddarostwng y tlawd a’r anghenus · ac i ladd yr / union / ei ger/ddediad;
15Ond fe drywana eu cleddyf i’w / calon · eu / hunain :
a / thorrir / eu – / bwâu.
16Gwell yw’r ychydig sydd / gan y / cyfiawn :
na / chyfoeth / mawr · y dryg/ionus;
17Oherwydd torrir / nerth · y dryg/ionus :
ond bydd yr / Arglwydd · yn / cynnal · y / cyfiawn.
18Y mae’r Arglwydd yn gwylio dros / ddyddiau’r · di/feius :
ac fe bery eu / heti/feddiaeth · am / byth.
19Ni ddaw cywilydd arnynt mewn / cyfnod / drwg :
a bydd ganddynt / ddigon · mewn / dyddiau · o / newyn.
20Oherwydd fe dderfydd / am y · dryg/ionus :
bydd gelynion yr Arglwydd fel cynnud mewn tân · pob un ohonynt yn dif/lannu / mewn – / mwg.
21Y mae’r drygionus yn benthyca heb / dalu’n / ôl :
ond y / cyfiawn · yn / rhoddwr · tru/garog.
22Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr Arglwydd yn eti/feddu’r / tir :
ond fe dorrir ymaith y / rhai · a fell/tithiwyd / ganddo.
23Yr Arglwydd sy’n cyfeirio / camau’r · di/feius :
y mae’n ei gynnal ac yn ymhy/frydu / yn ei · ger/ddediad;
24Er iddo syrthio, nis / bwrir · i’r / llawr :
oherwydd y mae’r / Arglwydd · yn ei / gynnal · â’i / law.
25Bûm ifanc, ac yn awr yr / wyf yn / hen :
ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael · na’i / blant · yn car/dota · am / fara;
26Y mae bob amser / yn dru/garog :
ac yn rhoi / benthyg · a’i / blant yn / fendith.
27Tro oddi wrth ddrwg / a gwna / dda :
a chei / gartref · di/ogel am / byth,
28aOherwydd y mae’r Arglwydd yn / caru / barn :
ac nid yw’n / gadael / ei ffydd/loniaid;
28bOnd difethir yr ang/hyfiawn · am / byth :
a thorrir / ymaith / blant · y dryg/ionus.
29Y mae’r cyfiawn yn eti/feddu’r / tir :
ac yn car/trefu / ynddo · am / byth.
30Y mae genau’r cyfiawn yn lle/faru · doe/thineb :
a’i dafod / yn my/negi / barn;
31Y mae cyfraith ei Dduw / yn ei / galon :
ac nid / yw ei / gamau’n / methu.
32Y mae’r drygionus yn / gwylio’r / cyfiawn :
ac yn / ceisio / cyfle · i’w / ladd;
33Ond nid yw’r Arglwydd yn ei adael / yn ei / law :
nac yn caniatáu ei gon/demnio · pan / fernir / ef.
34Disgwyl wrth yr Arglwydd a glŷn / wrth ei / ffordd :
ac fe’th ddyrchafa i etifeddu’r tir · a chei weld y drygionus yn / cael eu / torri / ymaith.
35Gwelais y drygionus / yn ddi/dostur :
yn taflu / fel bla/guryn / iraidd;
36Ond pan euthum heibio, nid oedd / dim o/hono :
er imi chwilio am/dano · nid / oedd i’w / gael.
37Sylwa ar y difeius, ac edrych / ar yr / uniawn :
oherwydd y mae disgy/nyddion / gan yr · he/ddychlon.
38Difethir y gwrthry/felwyr · i / gyd :
a dinistrir disgy/nyddion / y dryg/ionus.
39Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi / wrth yr / Arglwydd :
ef yw eu ham/ddiffyn · yn / amser / adfyd.
40Bydd yr Arglwydd yn eu cynorthwyo ac / yn eu / harbed :
bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub · am / iddynt · lo/chesu / ynddo.
Currently Selected:
Salm 37: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009