Salm 36
36
1Llefara pechod wrth y drygionus yn / nyfnder · ei / galon :
nid oes ofn / Duw – / ar ei / gyfyl.
2Llwydda i’w / dwyllo · ei / hun :
na ellir canfod ei ddryg/ioni / i’w ga/sáu.
3Niwed a thwyll yw ei / holl – / eiriau :
peidiodd ag / ymddwyn · yn / ddoeth · ac yn / dda.
4Cynllunia ddrygioni / yn ei / wely :
y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir · ac / nid yw’n / gwrthod · y / drwg.
5Ymestyn dy gariad, Arglwydd / hyd y / nefoedd :
a’th ffydd/londeb / hyd y · cy/mylau;
6Y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel · a’th farnau fel y / dyfnder / mawr :
cedwi ddyn ac a/nifail / O – / Arglwydd.
7Mor werthfawr yw dy / gariad · O / Dduw! :
Llochesa pobl dan / gysgod / dy a/denydd.
8Fe’u digonir â / llawnder · dy / dŷ :
a diodi hwy o / afon / dy gy/suron;
9Oherwydd gyda thi y mae / ffynnon / bywyd :
ac yn d’oleuni / di y / gwelwn · o/leuni.
10Parha dy gariad at y / rhai · sy’n d’ad/nabod :
a’th gyfiawnder at y / rhai – / uniawn · o / galon.
11Na fydded i’r troed / balch fy / sathru :
nac i’r llaw ddryg/ionus · fy / nhroi – / allan.
12Dyna’r gwneuthurwyr drygioni / wedi / cwympo :
wedi eu bwrw i’r / llawr · a heb / allu / codi!
Currently Selected:
Salm 36: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009