Salm 30
30
1Dyrchafaf di, O Arglwydd, am i/ti · fy ngwa/redu :
a pheidio â gadael i’m gelynion / orfol/eddu · o’m / hachos.
2O Arglwydd fy Nuw / gwaeddais / arnat :
a / bu i/ti · fy ia/cháu.
3O Arglwydd, dygaist fi i / fyny · o / Sheol :
a’m hadfywio o blith y / rhai sy’n / disgyn · i’r / pwll.
4Canwch fawl i’r Arglwydd / ei ffydd/loniaid :
a rhowch / ddiolch · i’w / enw / sanctaidd.
5Am ennyd y mae ei ddig · ond ei / ffafr am / oes :
os erys dagrau gyda’r hwyr · daw lla/wenydd / yn y / bore.
6Yn fy / hawdd–/fyd :
fe ddywedwn / “Ni’m sy/mudir / byth.”
7Yn dy ffafr, Arglwydd, gosodaist fi ar / fynydd / cadarn :
ond pan guddiaist dy / wyneb · bra/wychwyd / fi.
8Gelwais / arnat · ti / Arglwydd :
ac ymbiliais ar fy / Arglwydd / am dru/garedd :
9“Pa les a geir o’m marw os dis/gynnaf · i’r / pwll? :
A fydd y llwch yn dy foli ac yn cy/hoeddi / dy wir/ionedd?
10Gwrando, Arglwydd, a bydd dru/garog / wrthyf :
Arglwydd, bydd yn / gynor/thwywr · i / mi.”
11Yr wyt wedi troi fy / ngalar · yn / ddawns :
wedi datod fy sachliain a’m / gwisgo / â lla/wenydd,
12Er mwyn imi dy foli/annu’n · ddi-/baid :
O Arglwydd fy Nuw, di/olchaf · i / ti hyd / byth!
Currently Selected:
Salm 30: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009