Salm 29
29
1Rhowch i’r Arglwydd / fodau / nefol :
rhowch i’r / Arglwydd · o/goniant · a / nerth.
2Rhowch i’r Arglwydd o/goniant · ei / enw :
ymgrymwch i’r Arglwydd yn ys/blander / ei sanc/teiddrwydd.
3Y mae llais yr Arglwydd yn / uwch na’r / dyfroedd :
Duw’r gogoniant sy’n taranu · y mae’r Arglwydd yn / uwch na’r / dyfroedd / cryfion!
4Y mae llais yr / Arglwydd · yn / nerthol :
y mae llais yr / Arglwydd · yn / ogo/neddus.
5Y mae llais yr Arglwydd yn / dryllio / cedrwydd :
dryllia’r / Arglwydd / gedrwydd / Lebanon.
6,7Gwna i Lebanon lamu fel llo a Sirion / fel ych / ifanc :
y mae llais yr Arglwydd yn / fflachio’n / fflamau / tân.
8Y mae llais yr Arglwydd yn gwneud i’r an/ialwch / grynu :
gwna’r Arglwydd i an/ialwch / Cades / grynu.
9Y mae llais yr Arglwydd yn gwneud i’r ewigod lydnu · ac yn prysuro / geni’r / llwdn :
yn ei deml / dywed / pawb, “Go/goniant.”
10Y mae’r Arglwydd wedi ei orseddu / uwch · y lli/feiriant :
y mae’r Arglwydd wedi ei or/seddu’n / frenin / byth.
11Rhodded yr Arglwydd / nerth i’w / bobl :
Bendithied yr / Arglwydd · ei / bobl â / heddwch!
Currently Selected:
Salm 29: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009