Salm 31
31
1Ynot ti, Arglwydd, y ceisiais loches · na fydded cywilydd / arnaf / byth :
achub / fi yn / dy gyf/iawnder,
2Tro dy glust ataf, a brysia / i’m gwa/redu :
bydd i mi’n graig noddfa · yn / amddi/ffynfa · i’m / cadw.
3Yr wyt ti’n graig ac yn amddi/ffynfa · i / mi :
er mwyn dy enw / arwain · a / thywys / fi.
4Tyn fi o’r rhwyd a guddiwyd / ar fy / nghyfer :
o/herwydd / ti · yw fy / noddfa.
5Cyflwynaf fy / ysbryd · i’th / law di :
gwaredaist fi / Arglwydd / y Duw / ffyddlon.
6Yr wyf yn casáu’r rhai sy’n glynu wrth ei/lunod / gwag :
ac ymddir/iedaf / fi · yn yr / Arglwydd.
7Llawenychaf a gorfoleddaf yn / dy ffydd/londeb :
oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi / sylw · imi / yn fy · nghy/fyngder.
8Ni roddaist fi yn / llaw fy / ngelyn :
ond gosodaist fy / nhraed mewn / lle a/gored.
9Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd, oherwydd y mae’n / gyfyng / arnaf :
y mae fy llygaid yn pylu gan ofid · fy / enaid · a’m / corff – / hefyd;
10Y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch a’m bly/nyddoedd · gan / gwynfan :
fe sigir fy nerth gan drallod, ac y / mae fy / esgyrn · yn / darfod.
11I’m holl elynion yr wyf yn ddirmyg · i’m cym/dogion · yn / watwar :
ac i’m cyfeillion yn arswyd · y mae’r rhai sy’n fy ngweld ar y / stryd yn / ffoi · oddi / wrthyf.
12Anghofiwyd fi, fel un marw wedi / mynd dros / gof :
yr wyf fel / llestr – / wedi / torri.
13aOherwydd clywaf / lawer · yn / sibrwd :
y mae / dychryn / ar bob / llaw;
13bPan ddônt at ei / gilydd · yn / f’erbyn :
y maent yn / cynllwyn · i / gymryd · fy / mywyd.
14Ond yr wyf yn ymddiried ynot / ti – / Arglwydd :
ac yn / dweud, “Ti / yw fy / Nuw.”
15Y mae fy amserau / yn dy / law di :
gwared fi rhag fy nge/lynion / a’m her/lidwyr.
16Bydded llewyrch dy wyneb / ar dy / was :
achub / fi yn / dy ffydd/londeb.
17Arglwydd, na fydded cywilydd arnaf pan / alwaf / arnat :
doed cywilydd ar y drygionus · rhodder / taw – / arnynt · yn / Sheol.
18Trawer yn fud y gwe/fusau · cel/wyddog :
sy’n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn mewn / balchder / a sar/had.
19aMor helaeth yw / dy dda/ioni :
sydd ynghadw / gennyt i’r / rhai · sy’n dy / ofni,
19bAc wedi ei amlygu i’r rhai sy’n cys/godi / ynot :
a / hynny · yng / ngŵydd – / pawb!
20Fe’u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y / rhai sy’n / cynllwyn :
fe’u cedwi dan dy gysgod / rhag ym/ryson · ta/fodau.
21Bendi/gedig · yw’r / Arglwydd :
a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol / ataf · yn / nydd cy/fyngder.
22Yn fy nychryn fe ddywedais, “Torrwyd fi / allan · o’th / olwg.” :
Ond clywaist lef fy ngweddi pan / waeddais / arnat · am / gymorth.
23Carwch yr Arglwydd, ei / holl ffydd/loniaid :
y mae’r Arglwydd yn cadw’r rhai ffyddlon · ond yn / talu’n / llawn i’r · rhai / balch.
24Byddwch gryf a / gwrol · eich / calon :
yr holl rai sy’n / disgwyl / wrth yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 31: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009