Salm 28
28
1aArnat ti / Arglwydd · y / gwaeddaf :
fy nghraig, paid â / thewi / tuag / ataf,
1bRhag, os / byddi’n / ddistaw :
imi fod fel y / rhai sy’n / disgyn · i’r / pwll.
2Gwrando ar lef fy ngweddi pan waeddaf / arnat · am / gymorth :
pan godaf fy nwylo / tua’th / gysegr / sanctaidd.
3aPaid â’m cipio ymaith / gyda’r · dryg/ionus :
a / chyda · gwneu/thurwyr dryg/ioni,
3bRhai sy’n siarad yn deg / â’u cym/dogion :
ond sydd â / chynnen / yn eu / calon.
4Tâl iddynt am eu gweithredoedd ac am ddryg/ioni · eu / gwaith :
tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo · / rho eu / haeddiant / iddynt.
5‡ Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr Arglwydd · na gwaith ei / ddwylo / ef :
bydded iddo’u dinistrio a pheidio â’u / hail–/adei/ladu.
6Bendigedig / fyddo’r / Arglwydd :
am iddo / wrando · ar / lef fy / ngweddi.
7aYr Arglwydd yw fy / nerth a’m / tarian :
ynddo / yr ym/ddiried · fy / nghalon;
7bYn sicr caf gymorth, a llawe/nycha · fy / nghalon :
a rhof / foliant / iddo · ar / gân.
8Y mae’r Arglwydd yn / nerth i’w / bobl :
ac yn gaer gware/digaeth / i’w e/neiniog.
9‡ Gwareda dy bobl, a bendithia dy / eti/feddiaeth :
bugeilia / hwy · a’u / cario · am / byth.
Currently Selected:
Salm 28: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009