YouVersion Logo
Search Icon

Salm 27

27
1Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth · rhag / pwy yr / ofnaf? :
Yr Arglwydd yw cadernid fy mywyd · rhag / pwy – / y dych/rynaf?
2Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i’m / hysu i’r / byw :
hwy, fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, fydd yn / baglu / ac yn / syrthio.
3Pe bai byddin yn gwersyllu i’m herbyn, nid / ofnai · fy / nghalon :
pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf · eto, fe / fyddwn / yn hy/derus.
4aUn peth a ofynnais / gan yr / Arglwydd :
dyma’r / wyf – / yn ei / geisio:
4bCael byw yn / nhŷ’r – / Arglwydd :
holl / ddyddiau / fy – / mywyd,
4cI edrych ar hawdd/garwch · yr / Arglwydd :
ac i y/mofyn / yn ei / deml.
5Oherwydd fe’m ceidw yn ei gysgod yn / nydd – / adfyd :
a’m cuddio i mewn yn ei / babell · a’m / codi · ar / graig.
6aAc yn awr, fe / gyfyd fy / mhen :
goruwch fy nge/lynion / o’m – / hamgylch;
6bAc offrymaf finnau yn ei deml aberthau / llawn gor/foledd :
canaf, can/mo–/laf yr / Arglwydd.
7Gwrando arnaf / Arglwydd · pan / lefaf :
bydd drugarog / wrthyf · ac / ateb / fi.
8Dywedodd fy nghalon amdanat / “Ceisia · ei / wyneb,” :
am hynny ceisiaf dy / wyneb / O – / Arglwydd.
9aPaid â chuddio dy wyneb / oddi / wrthyf :
na throi / ymaith · dy / was mewn / dicter,
9bOherwydd buost yn / gymorth · i / mi :
paid â’m gwrthod na’m gadael · O / Dduw – / fy Ngwa/redwr.
10Pe bai fy nhad a’m mam yn / cefnu / arnaf :
byddai’r / Arglwydd / yn fy / nerbyn.
11Dysg i mi dy / ffordd, O / Arglwydd :
arwain fi ar hyd llwybr union · o/herwydd · fy / ngwrthwy/nebwyr.
12Paid â’m gadael i fympwy / fy nge/lynion :
oherwydd cododd yn f’erbyn dystion cel/wyddog · sy’n / bygwth / trais.
13Yr wyf yn sicr y caf weld da/ioni’r / Arglwydd :
yn / nhir y / rhai – / byw.
14Disgwyl / wrth yr / Arglwydd :
bydd gryf a gwrol dy galon · a / disgwyl / wrth yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 27: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in