YouVersion Logo
Search Icon

Salm 23

23
Siant sengl
1Yr Arglwydd / yw fy / mugail :
ni / bydd – / eisiau / arnaf.
2Gwna imi orwedd mewn / porfeydd / breision :
a thywys fi / gerllaw / dyfroedd / tawel,
3Ac y mae ef / yn · fy ad/fywio :
fe’m harwain ar hyd llwybrau cyf/iawnder · er / mwyn ei / enw.
4aEr imi gerdded trwy ddyffryn / tywyll / du :
nid / ofnaf / unrhyw / niwed,
4bOherwydd yr wyt ti / gyda / mi :
a’th wialen a’th / ffon yn / fy nghy/suro.
5aYr wyt yn arlwyo / bwrdd o’m / blaen :
yng / ngŵydd / fy nge/lynion;
5bYr wyt yn eneinio fy / mhen ag / olew :
y / mae fy / nghwpan · yn / llawn.
6Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob / dydd o’m / bywyd :
a byddaf yn byw yn nhŷ’r / Arglwydd / weddill · fy / nyddiau.

Currently Selected:

Salm 23: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in