YouVersion Logo
Search Icon

Salm 22

22
1Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt / wedi · fy / ngadael :
ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu
ac / oddi · wrth / eiriau · fy / ngriddfan?
2O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid / wyt yn / ateb :
a’r nos, ond / ni – / chaf lo/nyddwch.
3Eto, yr wyt / ti, y / Sanctaidd :
wedi dy or/seddu · yn / foliant · i / Israel.
4Ynot ti yr oedd ein hynafiaid / yn ym/ddiried :
yn ymddiried a / thithau’n / eu gwa/redu.
5Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac a/chubwyd / hwy :
ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac / ni · chywi/lyddiwyd / hwy.
6Pryfyn wyf fi / ac nid / dyn :
gwawd a / dir–/myg i / bobl.
7Y mae pawb sy’n fy / ngweld · yn fy / ngwatwar :
yn gwneud ystumiau arnaf / ac yn / ysgwyd / pen :
8“Rhoes ei achos i’r Arglwydd, · bydded iddo / ef ei / achub :
bydded iddo ef ei waredu,
o/herwydd · y / mae’n ei / hoffi!”
9Ond ti a’m tynnodd / allan · o’r / groth :
a’m / rhoi ar / fronnau · fy / mam;
10Arnat ti y bwriwyd fi ar fy / ngene/digaeth :
ac o groth fy / mam ti / yw fy / Nuw.
11Paid â phellhau oddi wrthyf ·
oherwydd y mae fy ar/gyfwng · yn / agos :
ac nid oes / neb i’m / cynor/thwyo.
12Y mae gyr o / deirw · o’m / cwmpas :
rhai cryfion o / Basan · yn / cau am/danaf;
13Y maent yn agor eu / safn am/danaf :
fel / llew yn / rheibio · a / rhuo.
14Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr ·
a’m holl esgyrn / yn ym/ddatod :
y mae fy nghalon fel / cwyr · ac yn / toddi · o’m / mewn;
15Y mae fy ngheg yn sych fel cragen ·
a’m tafod yn glynu wrth / daflod · fy / ngenau :
yr wyt wedi fy / mwrw · i / lwch mar/wolaeth.
16Y mae cŵn o’m hamgylch ·
haid o ddihirod yn / cau am/danaf :
y maent yn try/wanu · fy / nwylo · a’m / traed.
17Gallaf gyfrif pob / un o’m / hesgyrn :
ac y maent hwythau’n edrych / ac yn / rhythu / arnaf.
18Y maent yn rhannu fy nillad / yn eu / mysg :
ac yn bwrw / coelbren / ar fy / ngwisg.
19Ond ti, Arglwydd, paid â / sefyll / draw :
O fy nerth / brysia · i’m / cynor/thwyo.
20Gwared fi / rhag y / cleddyf :
a’m hunig / fywyd · o / afael · y / cŵn.
21‡ Achub fi o / safn y / llew :
a’m bywyd tlawd rhag / cyrn yr / ychen / gwyllt.
22Fe gyhoeddaf dy enw / i’m cyd/nabod :
a’th foli yng / nghanol · y / gynu/lleidfa :
23“Molwch ef, chwi sy’n / ofni’r / Arglwydd :
rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob ·
ofnwch / ef, holl / dylwyth / Israel.
24Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru
gorthrwm y / gorthry/medig :
ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho ·
ond / gwrando / arno · pan / lefodd.”
25Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynu/lleidfa / fawr :
a thalaf fy addunedau yng / ngŵydd y / rhai · sy’n ei / ofni.
26Bydd yr anghenus yn bwyta, ac / yn cael / digon :
a’r rhai sy’n ceisio’r Arglwydd yn ei foli ·
bydded i’w ca/lonnau / fyw – / byth!
27Bydd holl gyrrau’r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd / at yr / Arglwydd :
a holl dylwythau’r cenhedloedd yn ym/grymu / o’i – / flaen.
28Oherwydd i’r Arglwydd y / perthyn · bren/hiniaeth :
ac ef sy’n llywo/draethu / dros · y cen/hedloedd.
29Sut y gall y rhai sy’n cysgu yn y ddaear blygu / iddo / ef :
a’r rhai sy’n disgyn i’r llwch ymgrymu o’i flaen? · Ond / byddaf · fi / fyw · iddo / ef,
30A bydd fy mhlant yn ei / wasa/naethu :
dywedir am yr Arglwydd wrth / gened/laethau · i / ddod,
31A chyhoeddi ei gyfiawnder wrth / bobl · heb eu / geni :
mai / ef a / fu’n gwei/thredu.

Currently Selected:

Salm 22: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in