YouVersion Logo
Search Icon

Salm 24

24
1Eiddo’r Arglwydd yw’r / ddaear · a’i / llawnder :
y byd a’r / rhai sy’n / byw – / ynddo;
2Oherwydd ef a’i sylfaenodd / ar y / moroedd :
a’i se/fydlu / ar yr · a/fonydd.
3Pwy a esgyn i / fynydd · yr / Arglwydd :
a phwy a / saif · yn ei / le – / sanctaidd?
4Y glân ei ddwylo a’r / pur o / galon :
yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll · a / heb – / dyngu’n · gel/wyddog.
5Fe dderbyn fendith / gan yr / Arglwydd :
a chyfiawnder gan / Dduw ei / iachaw/dwriaeth.
6Dyma’r genhedlaeth / sy’n ei / geisio :
sy’n / ceisio / wyneb · Duw / Jacob.
7Codwch eich pennau, O byrth! · Ymddyrchefwch, O / ddrysau · tra/gwyddol :
i frenin y go/goniant / ddod i / mewn.
8Pwy yw’r brenin go/goniant / hwn? :
Yr Arglwydd, cryf a chadarn · yr / Arglwydd / cadarn · mewn / rhyfel.
9Codwch eich pennau, O byrth! · Ymddyrchefwch, O / ddrysau · tra/gwyddol :
i frenin y go/goniant / ddod i / mewn.
10Pwy yw’r brenin go/goniant / hwn? :
Arglwydd y Lluoedd · ef / yw / brenin · y go/goniant.

Currently Selected:

Salm 24: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in