Salm 21
21
1O Arglwydd, fe lawenycha’r brenin / yn dy / nerth :
mor fawr yw ei orfoledd / yn dy / ware/digaeth!
2Rhoddaist iddo ddy/muniad · ei / galon :
ac ni wrthodaist iddo ddei/syfiad / ei we/fusau.
3Daethost i’w gyfarfod â ben/dithion · da/ionus :
a rhoi coron o / aur coeth / ar ei / ben.
4Am fywyd y go/fynnodd / iti :
ac fe’i rhoddaist iddo hir / ddyddiau / byth – / bythoedd.
5Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy / ware/digaeth :
yr wyt yn rhoi iddo ys/blander / ac an/rhydedd,
6Yr wyt yn rhoi bendithion / iddo · dros / byth :
ac yn ei lawenhau â gor/foledd · dy / brese/noldeb.
7‡ Y mae’r brenin yn ymddiried / yn yr / Arglwydd :
ac oherwydd ffyddlondeb y Go/ruchaf / nis sy/mudir.
8Caiff dy law afael ar dy / holl e/lynion :
a’th ddeheulaw ar y / rhai sy’n / dy ga/sáu.
9Byddi’n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan / ymdda/ngosi :
bydd yr Arglwydd yn eu difa yn ei lid ·
a’r / tân – / yn eu / hysu.
10Byddi’n dinistrio’u hepil oddi / ar y / ddaear :
a’u / plant o / blith · y ddy/nolryw.
11Yr oeddent yn bwriadu / drwg yn / d’erbyn :
ac yn cyn/llunio / niwed · heb / lwyddo;
12Oherwydd byddi di’n gwneud / iddynt / ffoi :
ac yn anelu at eu hwy/nebau / â’th – / fwa.
13Dyrchafa, Arglwydd / yn dy / nerth :
cawn ganu a’th / ganmol / am dy / gryfder!
Currently Selected:
Salm 21: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009