Salm 18
18
1Caraf di, O / Arglwydd · fy / nghryfder :
yr Arglwydd yw fy nghraig · fy ngha/dernid / a’m gwa/redydd;
2Fy Nuw yw fy nghraig / lle llo/chesaf :
fy nharian, fy amddi/ffynfa / gadarn · a’m / caer.
3Gwaeddaf ar yr Arglwydd sy’n / haeddu / mawl :
ac fe’m gwa/redir / rhag · fy nge/lynion.
4Pan oedd clymau angau’n tyn/hau am/danaf :
a llifeiriant / distryw / yn fy / nal,
5Pan oedd clymau Sheol / yn f’am/gylchu :
a / maglau / angau · o’m / blaen,
6aGwaeddais ar yr Arglwydd / yn fy · nghy/fyngder :
ac ar fy Nuw / iddo fy / nghynor/thwyo;
‡ 6bClywodd fy / llef o’i / deml :
a / daeth fy / ngwaedd i’w / glustiau.
7Crynodd y / ddaear · a / gwegian :
ysgydwodd sylfeini’r mynyddoedd ·
a siglo o/herwydd · ei / ddicter / ef.
8Cododd mwg o’i ffroenau · yr oedd tân yn / ysu · o’i / enau :
a / marwor · yn / cynnau · o’i / gwmpas.
9Fe agorodd y ffur/fafen · a / disgyn :
ac yr oedd ty/wyllwch · o / dan ei / draed.
10Marchogodd ar / gerwb · a / hedfan :
gwibiodd / ar a/denydd · y / gwynt.
11Gosododd o’i amgylch dy/wyllwch · yn / guddfan :
a chy/mylau / duon · yn / orchudd.
12O’r disgleirdeb o’i flaen daeth / allan · gy/mylau :
a / chenllysg · a / cherrig / tân.
13Taranodd yr / Arglwydd · o’r / nefoedd :
a lle/farodd / llais y · Go/ruchaf.
14Bwriodd allan ei saethau / yma · ac / acw :
saethodd / fellt a / gwneud · iddynt / atsain.
15aDaeth gwaelodion y / môr i’r / golwg :
a di/noethwyd · syl/feini’r / byd,
15bOherwydd dy gerydd / di, O / Arglwydd :
a / chwythiad / anadl · dy / ffroenau.
16Ymestynnodd o’r u/chelder · a’m / cymryd :
tynnodd fi / allan · o’r / dyfroedd / cryfion.
17Gwaredodd fi rhag fy / ngelyn / nerthol :
rhag y rhai sy’n fy nghasáu pan / oeddent ·
yn / gryfach · na / mi.
18Daethant i’m herbyn yn / nydd · fy ar/gyfwng :
ond bu’r Arglwydd / yn gyn/haliaeth · i / mi.
19Dygodd fi allan i / le a/gored :
a’m gwaredu / am ei / fod · yn fy / hoffi.
20Gwnaeth yr Arglwydd â mi yn / ôl · fy nghyf/iawnder :
a thalodd i mi yn / ôl – / glendid · fy / nwylo.
21Oherwydd cedwais / ffyrdd yr / Arglwydd :
heb droi oddi / wrth fy / Nuw · at ddryg/ioni;
22Yr oedd ei holl / gyfreithiau · o’m / blaen :
ac ni / fwriais · ei / ddeddfau · o’r / neilltu.
23Yr oeddwn yn ddi-fai / yn ei / olwg :
a / chedwais · fy / hun · rhag tro/seddu.
24Talodd yr Arglwydd i mi yn / ôl · fy nghyf/iawnder :
ac yn ôl glendid fy / nwylo / yn ei / olwg.
25Yr wyt yn / ffyddlon · i’r / ffyddlon :
yn ddi/feius / i’r di/feius,
26Ac yn bur / i’r rhai / pur :
ond i’r cyfei/liornus · yr / wyt yn / wyrgam.
27Oherwydd yr wyt yn gwaredu’r rhai / gosty/ngedig :
ac / yn da/rostwng · y / beilchion.
28Ti sy’n goleuo fy / llusern / Arglwydd :
fy Nuw sy’n / troi · fy nhy/wyllwch · yn / ddisglair.
29Oherwydd trwot ti y gallaf or/esgyn / llu :
trwy fy Nuw / gallaf / neidio · dros / fur.
30Y Duw hwn, y mae’n berffaith ei ffordd ·
ac y mae gair yr Arglwydd wedi ei / brofi’n / bur :
y mae ef yn darian i / bawb · sy’n llo/chesu / ynddo.
31Pwy sydd Dduw / ond yr / Arglwydd :
a phwy sydd / graig ond / ein Duw / ni,
32Y Duw sy’n fy ngwre/gysu · â / nerth :
ac yn gwneud fy / ffordd yn / ddi–/feius?
33Gwna fy nhraed / fel rhai / ewig :
a’m gosod yn / gadarn / ar y · my/nyddoedd.
34Y mae’n dysgu i’m / dwylo · ry/fela :
i’m breichiau / dynnu / bwa / pres.
35Rhoist imi dy darian i’m gwaredu · a’m cynnal / â’th dde/heulaw :
a’m gwneud yn / fawr – / trwy dy / ofal.
36Rhoist imi le / llydan · i’m / camau :
ac / ni – / lithrodd · fy / nhraed.
37Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac / yn eu / dal :
ni ddych/welaf / nes eu · di/fetha.
38Yr wyf yn eu trywanu fel na / allant / godi :
ac y maent yn / syrthio · o / dan fy / nhraed.
39Yr wyt wedi fy ngwregysu â / nerth i’r / frwydr :
a dar/ostwng · fy nge/lynion · o/danaf.
40Gosodaist fy / nhroed · ar eu / gwddf :
a gwneud imi ddifetha’r / rhai sy’n / fy ngha/sáu.
41Y maent yn gweiddi, ond / nid oes · gwa/redydd :
yn galw ar yr Arglwydd / ond nid / yw’n eu / hateb.
42Fe’u maluriaf cyn faned â llwch o / flaen y / gwynt :
a’u sathru fel / llaid – / ar y / strydoedd.
43Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl ·
ac yn fy ngwneud yn ben / ar y · cen/hedloedd :
pobl nad oeddwn yn eu had/nabod · sy’n / weision / i mi.
44Pan glywant amdanaf, maent yn ufudd/hau i / mi :
ac estroniaid / sy’n ym/greinio · o’m / blaen.
45Y mae estroniaid yn / gwanga/lonni :
ac yn dyfod dan / grynu / o’u – / lloches.
46Byw yw’r Arglwydd · bendigedig / yw fy / nghraig :
dyrchafedig fyddo’r / Duw sy’n / fy ngwa/redu,
47Y Duw sy’n rhoi i/mi · ddi/aledd :
ac yn da/rostwng / pobloedd · o/danaf,
48Sy’n fy ngwaredu rhag fy ngelynion ·
yn fy nyrchafu uwchlaw fy / ngwrthwy/nebwyr :
ac yn fy / arbed / rhag · y gor/thrymwyr.
49Oherwydd hyn, clodforaf / di, O / Arglwydd :
ymysg y cenhedloedd, a / chanaf / fawl i’th / enw.
50‡ Y mae’n gwaredu ei / frenin · yn / helaeth :
ac yn cadw’n ffyddlon i’w eneiniog ·
i / Ddafydd · ac i’w / had am / byth.
Currently Selected:
Salm 18: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009