YouVersion Logo
Search Icon

Salm 19

19
1Y mae’r nefoedd yn adrodd go/goniant / Duw :
a’r ffurfafen yn my/negi / gwaith ei / ddwylo.
2Y mae dydd yn lle/faru · wrth / ddydd :
a nos yn cy/hoeddi · gwy/bodaeth wrth / nos.
3Nid oes iaith na / geiriau / ganddynt :
ni / chlywir / eu – / llais;
4Eto fe â eu sain allan drwy’r holl ddaear ·
a’u lleferydd hyd ei/thafoedd / byd :
ynddynt go/sododd / babell · i’r / haul,
5Sy’n dod allan fel priodfab / o’i ys/tafell :
yn llon fel campwr yn / barod · i / redeg / cwrs.
6O eithaf y nefoedd y mae’n codi · a’i gylch hyd yr / eithaf / arall :
ac nid oes dim yn / cuddio / rhag ei / wres.
7Y mae cyfraith yr Arglwydd yn berffaith, yn ad/fywio’r / enaid :
y mae tystiolaeth yr Arglwydd yn sicr ·
yn / gwneud y / syml yn / ddoeth;
8Y mae deddfau’r Arglwydd yn gywir, yn / llawen·hau’r / galon :
y mae gorchymyn yr Arglwydd yn / bur · yn go/leuo’r / llygaid;
9Y mae ofn yr Arglwydd yn lân, yn / para · am / byth :
y mae barnau’r Arglwydd yn wir, yn / gyfiawn / bob – / un.
10Mwy dymunol ydynt nag aur · na llawer / o aur / coeth :
a melysach na mêl, ac na di/ferion / diliau / mêl.
11Trwyddynt hwy hefyd rhy/buddir / fi :
ac o’u cadw / y mae / gwobr / fawr.
12Pwy sy’n dirnad ei gamgy/meri/adau? :
Glanha fi oddi / wrth fy / meiau / cudd.
13aCadw dy was oddi wrth be/chodau / beiddgar :
rhag iddynt / gael y · llaw / uchaf / arnaf :
13bYna byddaf / yn ddif/eius :
ac yn ddi/euog · o / bechod / mawr.
14‡ Bydded geiriau fy ngenau’n dder/byniol / gennyt :
a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti,
O / Arglwydd · fy / nghraig a’m / prynwr.

Currently Selected:

Salm 19: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in