Salm 17
17
1aGwrando, Arglwydd / gri · am gyf/iawnder :
rho / sylw / i’m – / llef
1bA gwran/dawiad · i’m / gweddi :
oddi / ar we/fusau · di/dwyll.
2Doed fy marn oddi / wrthyt / ti :
edryched dy / lygaid · ar yr / hyn sy’n / iawn.
3Profaist fy nghalon a’m / gwylio · yn y / nos :
chwiliaist fi ond heb / gael dryg/ioni / ynof.
4Ni throseddodd fy ngenau fel y / gwna – / eraill :
ond fe gedwais / eiriau / dy we/fusau.
5Ar lwybrau’r anufudd byddai fy / nghamau’n / pallu :
ond ar dy lwybrau di nid / yw fy / nhraed yn / methu.
6Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn / f’ateb · O / Dduw :
tro dy glust ataf / gwran–/do fy / ngeiriau.
7Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol ·
ti, sy’n gwaredu / â’th dde/heulaw :
y rhai sy’n llochesu ynot / rhag eu / gwrthwy/nebwyr.
8Cadw fi fel / cannwyll · dy / lygad :
cuddia fi dan / gysgod / dy a/denydd
9Rhag y drygionus / sy’n · fy nis/trywio :
y gelynion sydd yn eu / gwanc – / yn f’am/gylchu.
10Maent wedi / mygu tos/turi :
y mae eu / genau’n · lle/faru / balchder;
11Y maent ar fy sodlau ac ar / gau am/danaf :
wedi gosod eu / bryd · ar fy / mwrw · i’r / llawr;
‡ 12Y maent fel llew yn / barod · i / larpio :
fel llew ifanc yn / llechu / yn ei / guddfan.
13Cyfod, Arglwydd, saf yn eu herbyn a’u / bwrw · i / lawr :
â’th gleddyf gwared fy / mywyd / rhag y · dryg/ionus;
14aÂ’th law, Arglwydd, gwna / ddiwedd / arnynt :
difa hwy o’u / rhan yng / nghanol / bywyd.
14bLlanwer eu bol â’r hyn sydd gennyt / ar eu / cyfer :
bydded i’w plant gael digon · a chadw / gweddill / i’w ba/banod!
15Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn / gweld dy / wyneb :
pan ddeffroaf, digonir / fi o / weld dy / wedd.
Currently Selected:
Salm 17: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009