Salm 16
16
1Cadw / fi, O / Dduw :
oherwydd llo/chesaf / ynot / ti.
2Dywedais / wrth yr / Arglwydd :
“Ti yw f’arglwydd · nid oes imi dda/ioni · ond / ynot / ti.”
3Ac am y duwiau sanctaidd sydd / yn y / wlad :
melltith ar bob un sy’n / ymhy/frydu / ynddynt.
4Amlhau gofidiau y mae’r un sy’n blysio / duwiau / eraill :
ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm ·
na chymryd eu / henwau / ar fy · ngwe/fusau.
5Ti, Arglwydd, yw fy / nghyfran · a’m / cwpan :
ti sy’n / dio/gelu · fy / rhan;
6Syrthiodd y llinynnau i mi mewn / mannau · dy/munol :
ac y mae gennyf / eti/feddiaeth · ra/gorol.
7Bendithiaf yr Arglwydd a roddodd / gyngor · i / mi :
yn y nos y mae fy me/ddyliau’n / fy hy/fforddi.
8Gosodais yr Arglwydd o’m / blaen yn / wastad :
am ei fod ar fy ne/heulaw / ni’m sy/mudir.
9Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfo/ledda / f’ysbryd :
a chaiff fy / nghnawd – / fyw’n ddi/ogel.
10Oherwydd ni fyddi’n gadael fy / enaid · i / Sheol :
ac ni chaiff yr un / teyrngar · i ti / weld Pwll / Distryw.
‡ 11Dangosi i mi lwybr bywyd ·
yn dy bresenoldeb di y mae digonedd / o la/wenydd :
ac yn dy dde/heulaw / fwyniant / bythol.
Currently Selected:
Salm 16: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009