Salm 148
148
1Molwch yr Arglwydd. · Molwch yr / Arglwydd · o’r / nefoedd :
molwch ef / yn yr / uchel/derau.
2Molwch ef, ei / holl a/ngylion :
molwch / ef ei / holl – / luoedd.
3Molwch ef / haul a / lleuad :
molwch / ef yr / holl sêr / disglair.
4Molwch ef / nef y / nefoedd :
a’r / dyfroedd · sydd / uwch · y / nefoedd.
5Bydded iddynt foli / enw’r / Arglwydd :
oherwydd ef a orch/mynnodd · a / chrewyd / hwy;
6Fe’u gwnaeth yn / sicr fyth / bythoedd :
rhoes / iddynt / ddeddf nas / torrir.
7Molwch yr / Arglwydd · o’r / ddaear :
chwi / ddreigiau · a’r / holl ddyfn/derau,
8Tân a chenllysg / eira · a / mwg :
y gwynt / stormus · sy’n / ufudd · i’w / air;
9Y mynyddoedd / a’r holl / fryniau :
y coed / ffrwythau / a’r holl / gedrwydd;
10Anifeiliaid gwyllt a’r / holl rai / dof :
ym/lusgiaid · ac / adar · he/degog;
11Brenhinoedd y ddaear / a’r holl / bobloedd :
tywysogion / a holl / farnwyr · y / ddaear;
12Gwŷr ifainc / a gwy/ryfon :
hy/nafgwyr · a / llanciau / hefyd.
13Bydded iddynt foli enw’r Arglwydd · oherwydd ei enw ef yn unig sydd / ddyrcha/fedig :
ac y mae ei ogoniant ef / uwchlaw / daear · a / nefoedd.
14Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl · ac ef yw moliant ei / holl ffydd/loniaid :
pobl Israel, sy’n agos ato. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 148: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009