Salm 147
147
1Molwch yr Arglwydd. · Da yw canu / mawl i’n / Duw ni :
oherwydd / hyfryd · a / gweddus · yw / mawl.
2Y mae’r Arglwydd yn adei/ladu · Je/rwsalem :
y mae’n casglu rhai / gwasga/redig / Israel.
3Y mae’n iacháu’r rhai dryll/iedig · o / galon :
ac yn / rhwymo / eu do/luriau.
4Y mae’n pennu / nifer · y / sêr :
ac yn rhoi / enwau / arnynt · i / gyd.
5Mawr yw ein Harglwydd ni, a / chryf o / nerth :
y mae ei ddoe/thineb / yn ddi/fesur.
6Y mae’r Arglwydd yn codi’r rhai / gosty/ngedig :
ond yn / bwrw’r · dryg/ionus · i’r / llawr.
7Canwch i’r / Arglwydd · mewn / diolch :
canwch / fawl i’n / Duw â’r / delyn.
8aY mae ef yn gorchuddio’r nefoedd / â chy/mylau :
ac yn dar/paru / glaw i’r / ddaear;
8bY mae’n gwisgo’r my/nyddoedd · â / glaswellt :
a phlanhigion / at wa/sanaeth / pobl.
9Y mae’n rhoi eu porthiant i’r / ani/feiliaid :
a’r hyn a o/fynnant · i / gywion · y / gigfran.
10Nid yw’n ymhyfrydu / yn nerth / march :
nac yn cael / pleser · yng / nghyhy·rau / gŵr;
11Ond pleser yr Arglwydd yw’r rhai / sy’n ei / ofni :
y rhai sy’n go/beithio / yn ei / gariad.
12Molianna yr Arglwydd / O Je/rwsalem :
mola dy / Dduw – / O – / Seion,
13Oherwydd cryfhaodd / farrau · dy / byrth :
a ben/dithiodd · dy / blant o’th / fewn.
14Y mae’n rhoi heddwch / i’th der/fynau :
ac yn dy ddi/goni / â’r ŷd / gorau.
15Y mae’n anfon ei or/chymyn · i’r / ddaear :
ac y mae ei / air yn / rhedeg · yn / gyflym.
16Y mae’n rhoi / eira · fel / gwlân :
yn / taenu / barrug · fel / lludw,
17Ac yn gwasgaru ei / rew fel / briwsion :
pwy a all / ddal ei / oerni / ef?
18Y mae’n anfon ei air, ac / yn eu / toddi :
gwna i’w wynt chwythu / ac fe / lifa’r / dyfroedd.
19Y mae’n mynegi ei / air i / Jacob :
ei / ddeddfau · a’i / farnau · i / Israel;
‡ 20Ni wnaeth fel hyn ag / unrhyw / genedl :
na dysgu iddynt ei farnau. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 147: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009