Bible App logo
Search Icon

Salm 149

149
1Molwch yr Arglwydd. · Canwch i’r / Arglwydd · gân / newydd :
ei foliant yng / nghynu/lleidfa’r · ffydd/loniaid.
2Bydded i Israel lawenhau yn / ei chre/awdwr :
ac i blant Seion orfo/leddu / yn eu / brenin.
3Molwch ei / enw · â / dawns :
canwch fawl / iddo · â / thympan · a / thelyn.
4Oherwydd y mae’r Arglwydd yn ymhyfrydu / yn ei / bobl :
y mae’n rhoi gwaredigaeth yn / goron · i’r / gosty/ngedig.
5Bydded i’r ffyddloniaid orfoleddu / mewn go/goniant :
a llawen/hau ar / eu clu/stogau.
6Bydded uchel-foliant Duw / yn eu / genau :
a chleddyf dau/finiog / yn eu / llaw
7I weithredu dial / ar y · cen/hedloedd :
a / cherydd / ar y / bobloedd;
8I rwymo eu brenhinoedd / mewn ca/dwynau :
a’u pendefigion / â ge/fynnau / haearn;
9I weithredu’r farn a nodwyd / ar eu / cyfer :
ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 149: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in