Bible App logo
Search Icon

Salm 146

146
1Mo/lwch yr / Arglwydd :
Fy / enaid / mola’r / Arglwydd.
2Molaf yr Arglwydd tra / byddaf / byw :
canaf / fawl i’m / Duw tra / byddaf.
3Peidiwch ag ymddiried mewn / tywy/sogion :
mewn unrhyw / un na / all wa/redu;
4Bydd ei anadl yn darfod ac yntau’n dy/chwelyd · i’r / ddaear :
a’r diwrnod hwnnw / derfydd / am · ei gyn/lluniau.
5Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei / gynor/thwyo :
ac y mae ei obaith / yn yr / Arglwydd · ei / Dduw,
6Creawdwr nefoedd a daear a’r môr · a’r / cyfan · sydd / ynddynt :
y mae ef yn / cadw’n / ffyddlon · hyd / byth,
7Ac yn gwneud barn â’r gorthrymedig · y mae’n rhoi bara / i’r ne/wynog :
y mae’r Arglwydd yn rhydd/hau – / carcha/rorion;
8Y mae’r Arglwydd yn rhoi golwg i’r deillion · ac yn codi pawb sydd wedi / eu da/rostwng :
y mae’r Arglwydd yn / caru’r / rhai – / cyfiawn.
9Y mae’r Arglwydd yn gwylio dros y dieithriaid · ac yn cynnal y weddw / a’r am/ddifad :
y mae’n di/fetha / ffordd · y dryg/ionus.
10Bydd yr Arglwydd yn teyr/nasu · hyd / byth :
a’th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 146: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in