Bible App logo
Search Icon

Salm 145

145
1Dyrchafaf di, fy / Nuw, O / Frenin :
a ben/dithiaf · dy / enw · byth / bythoedd.
2Bob dydd ben/dithiaf / di :
a moliannu dy / enw / byth – / bythoedd.
3Mawr yw’r Arglwydd, a theilwng / iawn o / fawl :
ac y mae ei / fawredd · yn / anchwil/iadwy.
4Molianna’r naill genhedlaeth dy waith / wrth y / llall :
a mynegi / dy weith/redoedd / nerthol.
5Am ysblander gogoneddus dy fawredd / y dy/wedant :
a myfyrio / ar dy / ryfe/ddodau.
6Cyhoeddant rym dy weith/redoedd · of/nadwy :
ac / adrodd / am dy / fawredd.
7Dygant i gof dy dda/ioni / helaeth :
a / chanu / am · dy gyf/iawnder.
8Graslon a thru/garog · yw’r / Arglwydd :
araf i / ddigio · a / llawn ffydd/londeb.
9Y mae’r Arglwydd yn / dda wrth / bawb :
ac y mae ei drugaredd tuag / at ei / holl – / waith.
10Y mae dy holl waith yn dy / foli / Arglwydd :
a’th / saint yn / dy fen/dithio.
11Dywedant am o/goniant · dy / deyrnas :
a / sôn – / am dy / nerth,
12Er mwyn dangos i bobl dy weith/redoedd / nerthol :
ac ysblander / gogo/neddus · dy / deyrnas.
13aTeyrnas dragwyddol / yw dy / deyrnas :
a saif dy ly/wodraeth / byth – / bythoedd.
13bY mae’r Arglwydd yn ffyddlon / yn ei · holl / eiriau :
ac yn drugarog / yn ei / holl weith/redoedd.
14Fe gynnal yr Arglwydd / bawb sy’n / syrthio :
a chodi pawb sydd / wedi / eu da/rostwng.
15Try llygaid pawb mewn gobaith / atat / ti :
ac fe roi iddynt eu / bwyd / yn ei / bryd;
16Y mae dy law / yn a/gored :
ac yr wyt yn diwallu popeth / byw yn / ôl d’e/wyllys.
17Y mae’r Arglwydd yn gyfiawn / yn ei · holl / ffyrdd :
ac yn ffyddlon / yn ei / holl weith/redoedd.
18Y mae’r Arglwydd yn agos at bawb sy’n / galw / arno :
at bawb sy’n galw / arno / mewn gwir/ionedd.
19Gwna ddymuniad y rhai / sy’n ei / ofni :
gwrendy ar eu / cri · a gwa/reda / hwy.
20Gofala’r Arglwydd am bawb / sy’n ei / garu :
ond y mae’n dis/trywio’r / holl · rai dryg/ionus.
21Llefara fy ngenau / foliant · yr / Arglwydd :
a bydd pob creadur yn bendithio’i enw / sanctaidd / byth – / bythoedd.

Currently Selected:

Salm 145: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in