Salm 144
144
1Bendigedig yw yr / Arglwydd · fy / nghraig :
ef sy’n dysgu i’m dwylo ymladd / ac i’m / bysedd · ry/fela;
2aFy nghâr / a’m ca/dernid :
fy / nghaer – / a’m gwa/redydd,
2bFy / nharian · a’m / lloches :
sy’n da/rostwng / pobloedd · o/danaf.
3O Arglwydd, beth yw meidrolyn, i ti o/falu · am/dano :
a’r teulu / dynol · i / ti · ei y/styried?
4Y mae’r meidrol yn / union · fel / anadl :
a’i ddyddiau fel / cysgod / yn mynd / heibio.
5Arglwydd, agor y nefoedd a / thyrd i / lawr :
cyffwrdd â’r mynyddoedd / nes eu / bod yn / mygu;
6Saetha allan fellt nes / eu gwas/garu :
anfon dy saethau nes / peri / iddynt · ar/swydo.
7Estyn allan dy law o’r u/chelder · i’m / hachub :
ac i’m gwaredu o ddyfroedd lawer / ac o / law es/troniaid
‡ 8Sy’n dweud / celwydd · â’u / genau :
a’u de/heulaw’n / llawn – / ffalster.
9Canaf gân newydd i / ti O / Dduw :
canaf gyda’r o/fferyn / dectant · i / ti,
10Ti sy’n rhoi gwaredigaeth / i fren/hinoedd :
ac yn / achub / Dafydd · ei / was.
11aAchub fi oddi wrth y / cleddyf / creulon :
gwared / fi o / law es/troniaid,
11bSy’n dweud / celwydd · â’u / genau :
a’u de/heulaw’n / llawn – / ffalster.
12aBydded ein meibion / fel plan/higion :
yn tyfu’n / gryf yn / eu hieu/enctid,
12bA’n merched fel pi/leri · cer/fiedig :
mewn / adei/ladwaith / palas.
13aBydded ein hysgu/boriau · yn / llawn :
o / luniaeth / o bob / math;
13bBydded ein / defaid · yn / filoedd :
ac yn fyrdd/iynau / yn ein / meysydd;
14Bydded ein gwartheg yn drymion · heb anap / nac er/thyliad :
ac na fydded / gwaedd – / ar ein / strydoedd.
15Gwyn eu byd y bobl / sydd fel / hyn :
gwyn eu byd y bobl y mae’r / Arglwydd · yn / Dduw – / iddynt.
Currently Selected:
Salm 144: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009