Bible App logo
Search Icon

Salm 143

143
1Arglwydd, clyw fy ngweddi · gwrando / ar fy · nei/syfiad :
ateb fi yn dy ffydd/londeb / yn · dy gyf/iawnder.
2Paid â mynd i / farn â’th / was :
oherwydd nid oes neb / byw yn / gyfiawn · o’th / flaen di.
3aY mae’r gelyn / wedi · fy / ymlid :
ac wedi / sathru · fy / mywyd · i’r / llawr;
3bGwnaeth imi eistedd / mewn ty/wyllwch :
fel / rhai · wedi / hen – / farw.
4Y mae fy ysbryd yn / pallu / ynof :
a’m calon / wedi · ei / dal gan / arswyd.
5Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt · yn myfyrio ar y / cyfan · a / wnaethost :
ac yn / meddwl · am / waith dy / ddwylo.
6Yr wyf yn estyn fy nwylo / atat / ti :
ac yn sychedu am/danat / fel tir / sych.
7aBrysia i’m / hateb · O / Arglwydd :
y / mae fy / ysbryd · yn / pallu;
7bPaid â chuddio dy wyneb / oddi / wrthyf :
neu byddaf fel y / rhai sy’n / disgyn · i’r / pwll.
8aPâr imi glywed yn y bore / am dy / gariad :
oherwydd yr wyf wedi ym/ddiried / ynot / ti;
8bGwna imi wybod pa / ffordd i’w / cherdded :
oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy / enaid / atat / ti.
9O Arglwydd, gwareda fi oddi / wrth · fy nge/lynion :
oherwydd atat ti yr / wyf · wedi / ffoi am / gysgod.
10Dysg imi wneud dy ewyllys, oherwydd / ti · yw fy / Nuw :
bydded i’th ysbryd daionus fy / arwain · ar / hyd tir / gwastad.
11Er mwyn dy enw, O Arglwydd / cadw · fy / einioes :
yn dy gyfiawnder / dwg fi / o’m cy/fyngder,
12Ac yn dy gariad di/fetha · fy nge/lynion :
dinistria’r holl rai sydd yn fy ngorthrymu, o/herwydd · dy / was wyf / fi.

Currently Selected:

Salm 143: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in