Bible App logo
Search Icon

Salm 139

139
1,2Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio / a’m had/nabod :
Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi · yr wyt wedi / deall · fy / meddwl · o / bell;
3Yr wyt wedi mesur fy / ngherdded · a’m / gorffwys :
ac yr wyt yn gy/farwydd · â’m / holl – / ffyrdd.
4Oherwydd nid oes air / ar fy / nhafod :
heb i ti / Arglwydd · ei / wybod · i / gyd.
5Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl / ac ym/laen :
ac wedi / gosod dy / law – / drosof.
6Y mae’r wybodaeth hon yn rhy / ryfedd · i / mi :
y mae’n rhy / uchel · i / mi ei / chyrraedd.
7I ble yr af oddi / wrth dy / ysbryd :
i ble y / ffoaf · o’th / brese/noldeb?
8Os dringaf i’r nefoedd, yr / wyt / yno :
os cyweiriaf wely yn Sheol, yr / wyt / yno / hefyd.
9Os cymeraf a/denydd · y / wawr :
a thrigo / ym mhe/llafoedd y / môr,
10Yno hefyd fe fydd dy law / yn fy / arwain :
a’th dde/heulaw / yn fy / nghynnal.
11Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch / yn fy / nghuddio :
a’r / nos yn / cau am/danaf ”,
12Eto nid yw tywyllwch yn dy/wyllwch · i / ti :
y mae’r nos yn goleuo fel dydd · a’r un yw ty/wyllwch / a go/leuni.
13Ti a greodd fy / ymys/garoedd :
a’m / llunio · yng / nghroth fy / mam.
14Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy / a rhy/feddol :
ac y mae dy weith/redoedd / yn rhy/feddol;
15aYr wyt yn fy ad/nabod · mor / dda :
ni chuddiwyd fy ngwneu/thuriad / oddi / wrthyt
15bPan oeddwn yn cael fy / ngwneud · yn y / dirgel :
ac yn cael fy llunio / yn nyfn/deroedd · y / ddaear.
16aGwelodd dy lygaid fy / nefnydd / di-lun :
y mae’r cyfan wedi ei ysgri/fennu / yn dy / lyfr;
16bCafodd fy / nyddiau · eu / ffurfio :
pan nad / oedd yr / un o/honynt.
17Mor ddwfn i mi yw dy fe/ddyliau · O / Dduw :
ac / mor llu/osog · eu / nifer!
18Os cyfrifaf hwy, y maent yn / amlach · na’r / tywod :
a phe gorffennwn hynny, byddit / ti’n par/hau · gyda / mi.
19Fy Nuw, O na fyddit ti’n / lladd · y dryg/ionus :
fel y byddai rhai / gwaedlyd · yn / troi · oddi / wrthyf,
20Y rhai sy’n dy herio / di · yn ddi/chellgar :
ac yn gwrthryfela’n / ofer / yn dy / erbyn.
21Onid wyf yn casáu, O Arglwydd, y rhai sy’n dy ga/sáu – / di :
ac yn ffieiddio’r / rhai sy’n / codi · yn dy / erbyn?
22Yr wyf yn eu casáu / â chas / perffaith :
ac y / maent · fel ge/lynion · i / mi.
23Chwilia fi, O Dduw, iti ad/nabod · fy / nghalon :
profa fi, iti / ddeall / fy me/ddyliau.
24Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn / loes i / mi :
ac arwain / fi · yn y / ffordd dra/gwyddol.

Currently Selected:

Salm 139: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in