Salm 140
140
1O Arglwydd, gwared fi rhag / pobl ddry/gionus :
cadw / fi rhag / rhai · sy’n gor/thrymu,
2Rhai sy’n cynllunio drygioni / yn eu / calon :
a phob / amser · yn / codi / cythrwfl.
3Y mae eu tafod yn / finiog · fel / sarff :
ac y mae gwenwyn / gwiber / dan · eu gwe/fusau.
4O Arglwydd, arbed fi rhag / dwylo’r · dryg/ionus :
cadw fi rhag rhai sy’n gorthrymu · rhai sy’n cyn/llunio · i / faglu · fy / nhraed.
‡ 5Bu rhai trahaus yn cuddio / magl i / mi :
a rhai dinistriol yn taenu rhwyd · ac yn gosod / maglau · ar / ymyl · y / ffordd.
6Dywedais wrth yr Arglwydd, “Fy / Nuw wyt / ti” :
gwrando, O / Arglwydd · ar / lef fy / ngweddi.
7O Arglwydd Dduw, fy iachaw/dwriaeth / gadarn :
cuddiaist fy / mhen yn / nydd – / brwydr.
8O Arglwydd, paid â rhoi eu dymuniad / i’r dryg/ionus :
paid â / llwyddo / eu – / bwriad.
9Y mae rhai o’m hamgylch yn / codi · eu / pen :
ond bydded i ddrygioni / eu gwe/fusau eu / llethu.
10Bydded i farwor tanllyd / syrthio / arnynt :
bwrier hwy i ffosydd / dyfnion · heb / allu / codi.
11Na fydded lle i’r enllibus / yn y / wlad :
bydded i ddrygioni ymlid y gorth/rymwr / yn ddi/arbed.
12Gwn y gwna’r Arglwydd gy/fiawnder · â’r / truan :
ac y / rhydd – / farn · i’r ang/henus.
13Yn sicr bydd y cyfiawn yn clod/fori · dy / enw :
bydd yr uniawn yn byw / yn dy / brese/noldeb.
Currently Selected:
Salm 140: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009