Bible App logo
Search Icon

Salm 138

138
1Clodforaf di / â’m holl / galon :
canaf fawl i / ti yng / ngŵydd / duwiau.
2Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd · a chlodforaf dy enw am dy gariad / a’th ffydd/londeb :
oherwydd dyrchefaist dy enw a’th / air uwch/law po/peth.
3Pan elwais arnat, a/tebaist / fi :
a chy/nyddaist · fy / nerth – / ynof.
4Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glod/fori · O / Arglwydd :
am iddynt / glywed / geiriau · dy / enau;
5Bydded iddynt ganu am / ffyrdd yr / Arglwydd :
oherwydd / mawr · yw go/goniant · yr / Arglwydd.
6Er bod yr Arglwydd yn uchel, fe gymer / sylw · o’r / isel :
ac fe dda/rostwng · y / balch o / bell.
7Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, ad/fywiaist / fi :
estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion · a gwa/redaist / fi · â’th dde/heulaw.
8Bydd yr Arglwydd yn gweithredu / ar fy / rhan :
O Arglwydd, y mae dy gariad hyd byth · paid â / gadael / gwaith dy / ddwylo.

Currently Selected:

Salm 138: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in