Bible App logo
Search Icon

Salm 137

137
1Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd / ac yn / wylo :
wrth / inni / gofio · am / Seion.
2Ar yr / helyg / yno :
bu inni / grogi / ein te/lynau,
3Oherwydd yno gofynnodd y rhai a’n cae/thiwai · am / gân :
a’r rhai a’n hanrheithiai am ddifyrrwch · “Canwch inni”, meddent / “rai · o ga/neuon / Seion.”
4Sut y medrwn ganu / cân yr / Arglwydd :
mewn / tir – / es–/tron?
5Os anghofiaf / di Je/rwsalem :
bydded / fy ne/heulaw’n / ddiffrwyth;
6Bydded i’m tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na / chofiaf / di :
os na osodaf Jerwsalem yn / uwch · na’m lla/wenydd / pennaf.
7,8O Arglwydd, dal yn erbyn pobl Edom ddydd / gofid Je/rwsalem :
am iddynt ddweud · “I lawr â hi, i lawr â / hi hyd / at · ei syl/feini.”
9O ferch Babilon / a ddis/trywir :
gwyn ei fyd y sawl sy’n talu’n ôl i ti am y / cyfan · a / wnaethost · i / ni.
10Gwyn ei fyd y sawl sy’n / cipio · dy / blant :
ac yn eu / dryllio · yn / erbyn · y / graig.

Currently Selected:

Salm 137: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in