Salm 108
108
1Y mae fy nghalon yn / gadarn · O / Dduw :
fe ganaf, a rhoi mawl. · / Deffro / fy – / enaid.
2Deffro di / nabl a / thelyn :
fe dde/ffroaf · ar / doriad / gwawr.
3Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, y/mysg y / bobloedd :
a chanmolaf / di y/mysg · y cen/hedloedd,
4Oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn / hyd y / nefoedd :
a’th wir/ionedd / hyd · y cy/mylau.
5Dyrchafa’n uwch na’r / nefoedd · O / Dduw :
a bydded dy ogoniant / dros yr / holl – / ddaear.
6Er mwyn gwaredu / dy an/wyliaid :
achub â’th dde/heulaw · ac / ateb / ni.
7Llefarodd Duw / yn ei / gysegr :
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem · a mesur / dyffryn / Succoth · yn / rhannau;
8Eiddof fi yw Gilead / a Ma/nasse :
Effraim yw fy helm, a Jwda / yw fy / nheyrnwi/alen;
9Moab yw fy nysgl ymolchi · ac at Edom y / taflaf · fy / esgid :
ac yn erbyn Phi/listia · y / gorfo/leddaf.”
10Pwy a’m dwg i’r / ddinas / gaerog? :
Pwy a’m / har–/wain i / Edom?
11Onid ti, O Dduw, er / iti’n / gwrthod :
a pheidio â mynd / allan / gyda’n · by/ddinoedd?
12Rho inni gymorth / rhag y / gelyn :
oherwydd ofer / yw ym/wared / dynol. ‡
13Gyda Duw fe / wnawn wr/hydri :
ef fydd yn / sathru / ein ge/lynion.
Currently Selected:
Salm 108: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009