Salm 109
109
1,2O Dduw fy moliant / paid â / thewi :
oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn · a llefaru / wrthyf · â / thafod · ce/lwyddog,
3A’m hamgylchu â / geiriau · ca/sineb :
ac y/mosod / arnaf · heb / achos.
4Am fy ngharedigrwydd / y’m cy/huddant :
a / minnau’n · gwe/ddïo / drostynt.
5Talasant imi / ddrwg am / dda :
a cha/sineb / am – / gariad.
6Apwyntier un drwg / yn ei / erbyn :
a chyhuddwr i / sefyll / ar ei / dde.
7Pan fernir ef, caffer / ef yn / euog :
ac ys/tyrier · ei / weddi’n / bechod.
8Bydded ei / ddyddiau’n · y/chydig :
a chy/mered / arall · ei / swydd;
9Bydded ei blant / yn am/ddifad :
a’i / wraig – / yn – / weddw.
10Crwydred ei blant / i gar/dota :
wedi eu troi / allan / o’u had/feilion.
11Cymered y benthyciwr / bopeth · sydd / ganddo :
a dyged es/troniaid / ei e/nillion.
12Na fydded i neb drugar/hau – / wrtho :
na gwneud / ffafr â’i / blant am/ddifad.
13Torrer / ymaith · ei / linach :
a’i henw wedi ei ddi/leu o / fewn cen/hedlaeth.
14Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid ger/bron yr / Arglwydd :
ac na ddi/leer · pe/chodau · ei / fam.
15Bydded hyn mewn cof gan yr / Arglwydd · yn / wastad :
a bydded iddo dorri / ymaith · eu / coffa · o’r / tir.
16Oherwydd ni chofiodd hwn / fod yn / ffyddlon :
ond erlidiodd y gorthrymedig a’r tlawd · a’r dryll/iedig · o / galon · hyd / angau.
17Carodd felltithio · doed melltith / arno / yntau :
ni hoffai fendithio · pell y bo bendith / oddi / wrtho / yntau.
18Gwisgodd felltith amdano / fel di/lledyn :
suddodd i’w gnawd fel dŵr, · ac fel / olew / i’w – / esgyrn. ‡
19Bydded fel y / dillad · a / wisga :
ac fel y gwregys / sydd am/dano · bob / amser.
20Hyn fyddo tâl yr Arglwydd / i’m cy/huddwyr :
sy’n llefaru dryg/ioni / yn fy / erbyn.
21Ond tydi, fy Arglwydd Dduw, gweithreda drosof er / mwyn dy / enw :
oherwydd daioni dy / gariad · gwa/reda / fi.
22Yr wyf yn / druan · a / thlawd :
a’m / calon · mewn / gwewyr / ynof.
23Yr wyf yn darfod fel / cysgod / hwyrddydd :
fe’m / gyrrir / ymaith · fel / locust.
24Y mae fy ngliniau’n / wan gan / ympryd :
a’m corff yn / denau · o / ddiffyg / braster.
25Deuthum yn / gyff gwawd / iddynt :
pan welant fi, ys/gydwant / eu – / pennau.
26Cynorthwya, fi, O / Arglwydd · fy / Nuw :
achub / fi yn / ôl · dy dru/garedd,
27A gad iddynt wybod mai dy / law di / ydyw :
mai ti / Arglwydd / a’i – / gwnaeth.
28Pan fônt hwy’n melltithio, ben/dithia / di :
cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a / bydded · dy / was yn / llawen.
29Gwisger fy nghy/huddwyr · â / gwarth :
bydded eu cy/wilydd · fel / mantell · am/danynt.
30Clodforaf fi yr / Arglwydd · â’m / genau :
a moliannaf / ef yng / ngŵydd · cynu/lleidfa.
31Oherwydd saif ef ar dde/heulaw’r / tlawd :
i’w / achub / rhag · ei gy/huddwyr.
Currently Selected:
Salm 109: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009