Salm 107
107
1Diolchwch i’r Arglwydd, o/herwydd · da / yw :
ac y mae ei / gariad / hyd – / byth.
2Fel yna dyweded y rhai a waredwyd / gan yr / Arglwydd :
y rhai a waredodd / ef o / law’r – / gelyn,
3A’u cynnull yng/hyd o’r / gwledydd :
o’r dwyrain a’r gor/llewin · o’r / gogledd · a’r / de.
4Aeth rhai ar goll mewn anialdir / a di/ffeithwch :
heb gael ffordd at / ddinas · i / fyw – / ynddi;
5Yr oeddent yn newynog / ac yn · sy/chedig :
ac yr / oedd eu / nerth yn / pallu.
6Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn / eu cy/fyngder :
a gwa/redodd / hwy o’u / hadfyd;
7Arweiniodd hwy ar / hyd ffordd / union :
i fynd i / ddinas / i fyw / ynddi.
8Bydded iddynt ddiolch i’r Arglwydd / am ei / gariad :
ac am ei ryfe/ddodau / i ddy/nolryw. ‡
9Oherwydd rhoes eu digon / i’r sy/chedig :
a llenwi’r ne/wynog · â / phethau · da/ionus.
10Yr oedd rhai yn eistedd mewn ty/wyllwch / dudew :
yn / gaethion · mewn / gofid · a / haearn,
11Am iddynt wrthryfela yn erbyn / geiriau / Duw :
a dirmygu / cyngor / y Go/ruchaf.
12Llethwyd eu / calon · gan / flinder :
syrth/iasant · heb / neb i’w / hachub.
13Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn / eu cy/fyngder :
a gwa/redodd · ef / hwy o’u / hadfyd;
14Daeth â hwy allan o’r ty/wyllwch / dudew :
a / drylliodd / eu ge/fynnau.
15Bydded iddynt ddiolch i’r Arglwydd / am ei / gariad :
ac am ei ryfe/ddodau / i ddy/nolryw.
16Oherwydd / torrodd · byrth / pres :
a / drylliodd / farrau / heyrn.
17Yr oedd / rhai yn / ynfyd :
oherwydd eu ffyrdd pechadurus a’u / camwedd / fe’u cy/studdiwyd;
18Aethant i gasáu pob / math o / fwyd :
a daethant yn / agos / at byrth / angau.
19Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn / eu cy/fyngder :
a gwa/redodd · ef / hwy o’u / hadfyd;
20Anfonodd ei air ac ia/chaodd / hwy :
a gwa/redodd / hwy o / ddistryw.
21Bydded iddynt ddiolch i’r Arglwydd / am ei / gariad :
ac am ei ryfe/ddodau / i ddy/nolryw.
22Bydded iddynt ddod ag o/ffrymau / diolch :
a dweud am ei weith/redoedd / mewn gor/foledd.
23Aeth rhai i’r / môr mewn / llongau :
a gwneud eu gor/chwylion · ar / ddyfroedd / mawr;
24Gwelsant hwy weith/redoedd · yr / Arglwydd :
a’i ryfe/ddodau / yn y / dyfnder.
25Pan lefarai ef / deuai · gwynt / stormus :
a pheri i’r / tonnau / godi’n / uchel.
26Cawsant eu codi i’r nefoedd a’u / bwrw · i’r / dyfnder :
a phallodd eu / dewrder / yn y · try/bini;
27Yr oeddent yn troi yn / simsan · fel / meddwyn :
ac wedi / colli / eu holl / fedr.
28Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn / eu cy/fyngder :
a gwa/redodd · ef / hwy o’u / hadfyd;
29Gwnaeth i’r / storm da/welu :
ac / aeth y / tonnau’n / ddistaw;
30Yr oeddent yn llawen am / iddi · lo/nyddu :
ac arweiniodd hwy i’r / hafan / a ddy/munent.
31Bydded iddynt ddiolch i’r Arglwydd / am ei / gariad :
ac am ei ryfe/ddodau / i ddy/nolryw.
32Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynu/lleidfa’r / bobl :
a’i foliannu yng / nghyngor / yr hen/uriaid.
33Y mae ef yn troi afonydd / yn ddi/ffeithwch :
a ffyn/honnau / dyfroedd · yn / sychdir;
34Y mae ef yn troi tir / ffrwythlon · yn / grastir :
oherwydd drygioni’r / rhai sy’n / byw – / yno.
35Y mae ef yn troi diffeithwch yn / llynnau / dŵr :
a / thir sych / yn ffyn/honnau.
36Gwna i’r ne/wynog · fyw / yno :
a sefydlant / ddinas i / fyw – / ynddi;
37Heuant feysydd a / phlannu / gwinwydd :
a / chânt – / gnydau · to/reithiog.
38Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu / haml–/hau :
ac ni fydd yn / gadael · i’w / gwartheg · lei/hau.
39Pan fyddant / yn llei/hau :
ac wedi eu darostwng trwy / orthrwm / helbul · a / gofid,
40Bydd ef yn tywallt gwarth ar / dywy/sogion :
ac yn peri iddynt grwydro / trwy’r an/ialwch · di/arffordd.
41Ond bydd yn codi’r / tlawd o’i / ofid :
ac yn / gwneud ei / deulu · fel / praidd.
42Bydd yr uniawn yn gweld ac yn / llawen/hau :
ond pob un dryg/ionus · yn / atal · ei / dafod. ‡
43Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i’r / pethau / hyn :
bydded iddynt y/styried · ffydd/londeb · yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 107: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009