Bible App logo
Search Icon

Salm 106

106
1Molwch yr Arglwydd. · Diolchwch i’r Arglwydd, o/herwydd · da / yw :
ac y mae ei / gariad / hyd – / byth.
2Pwy all draethu gweithredoedd / nerthol · yr / Arglwydd :
neu gy/hoeddi / ei holl / foliant?
3Gwyn eu byd y rhai sy’n / cadw / barn :
ac yn / gwneud · cyf/iawnder · bob / amser.
4Cofia fi, Arglwydd, pan wnei / ffafr â’th / bobl :
ymwêl â / mi pan / fyddi’n · gwa/redu,
5‡ Imi gael gweld llwyddiant y / rhai · a dde/wisi :
a llawenhau yn llawenydd dy genedl · a gorfoleddu gyda’th / eti/feddiaeth / di.
6Yr ydym ni, fel ein hynafiaid / wedi / pechu :
yr ydym wedi tro/seddu · a / gwneud dryg/ioni.
7aPan oedd ein hynafiaid / yn yr / Aifft :
ni wnaethant / sylw · o’th / ryfe/ddodau,
7bNa chofio maint / dy ffydd/londeb :
ond gwrthryfela yn erbyn y Go/ruchaf / ger y · Môr / Coch.
8Ond gwaredodd ef hwy er / mwyn ei / enw :
er / mwyn / dangos · ei / rym.
9Ceryddodd y Môr Coch / ac fe / sychodd :
ac arweiniodd hwy trwy’r / dyfnder · fel / pe · trwy’r an/ialwch.
10Gwaredodd hwy o law’r rhai oedd yn / eu ca/sáu :
a’u / harbed / o law’r / gelyn.
11Caeodd y dyfroedd am eu / gwrthwy/nebwyr :
ac nid ar/bedwyd · yr / un o/honynt. ‡
12Yna cre/dasant · ei / eiriau :
a / chanu / mawl – / iddo.
13Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio / ei weith/redoedd :
ac nid oeddent yn / aros / am ei / gyngor.
14Daeth eu blys drostynt / yn yr · an/ialwch :
ac yr oeddent yn profi / Duw yn / y di/ffeithwch.
15Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent / yn ei / ofyn :
ond an/fonodd / nychdod · i’w / mysg.
16Yr oeddent yn cenfigennu yn y / gwersyll · wrth / Moses :
a hefyd wrth Aaron, un / sanc–/taidd yr / Arglwydd.
17Yna agorodd y ddaear a / llyncu / Dathan :
a gor/chuddio / cwmni · A/biram.
18Torrodd tân allan ymh/lith y / cwmni :
a llosgwyd y dryg/ionus / yn y / fflamau.
19Gwnaethant / lo yn / Horeb :
ac ym/grymu / i’r – / ddelw,
20Gan newid yr un oedd yn o/goniant / iddynt :
am ddelw o / ych yn / pori / gwellt.
21Yr oeddent wedi anghofio Duw / eu Gwa/redydd :
a oedd wedi gwneud pethau / mawrion / yn yr / Aifft,
22Pethau rhyfeddol / yng ngwlad / Ham :
a phethau of/nadwy / ger y · Môr / Coch.
23Felly dywedodd ef y byddai’n eu dinistrio · oni bai i Moses, yr un a ddewisodd, sefyll yn y / bwlch o’i / flaen :
i droi’n ôl ei ddi/gofaint / rhag · eu di/nistrio.
24Yna bu iddynt ddi/lorni’r · wlad / hyfryd :
ac nid / oeddent · yn / credu · ei / air;
25Yr oeddent yn grwgnach / yn eu / pebyll :
a heb / wrando · ar / lais yr / Arglwydd.
26Cododd yntau ei / law a / thyngu :
y byddai’n peri iddynt / syrthio / yn yr · an/ialwch,
27Ac yn gwasgaru eu disgynyddion i / blith · y cen/hedloedd :
a’u / chwalu / trwy’r – / gwledydd.
28Yna aethant i gyfathrach / â Baal-/peor :
a / bwyta / ebyrth · y / meirw;
29Yr oeddent wedi cythruddo’r Arglwydd / â’u gweith/redoedd :
a thorrodd / pla · allan / yn eu / mysg.
30Ond cododd / Phinees · a’u / barnu :
ac a/ta–/liwyd y / pla.
31A chyfrifwyd hyn yn gyf/iawnder / iddo :
dros y / cened/laethau · am / byth.
32Bu iddynt gythruddo’r Arglwydd hefyd wrth / ddyfroedd / Meriba :
a bu’n / ddrwg ar / Moses · o’u / plegid,
33Oherwydd gwnaethant ei / ysbryd · yn / chwerw :
ac fe le/farodd / yntau · yn / fyrbwyll.
34Ni fu iddynt ddi/nistrio’r / bobloedd :
y dy/wedodd · yr / Arglwydd · am/danynt,
35Ond cymysgu / gyda’r · cen/hedloedd :
a / dysgu / gwneud fel / hwythau.
36Yr oeddent yn a/ddoli · eu / delwau :
a bu / hynny’n / fagl – / iddynt.
37Yr oeddent yn a/berthu · eu / meibion :
a’u / merched / i’r de/moniaid.
38aYr oeddent yn tywallt / gwaed di/euog :
gwaed eu / meibion / a’u – / merched
38bYr oeddent yn eu haberthu i / ddelwau / Canaan :
a ha/logwyd y / ddaear â’u / gwaed.
39Felly aethant yn aflan trwy’r / hyn a / wnaent :
ac yn bu/teiniaid · trwy / eu gweith/redoedd.
40Yna cythruddodd dicter yr Arglwydd yn / erbyn · ei / bobl :
a ffi/eiddiodd · ei / eti/feddiaeth;
41Rhoddodd hwy yn / llaw’r cen/hedloedd :
a llywodraethwyd hwy gan y / rhai · oedd yn / eu ca/sáu;
42Fe’u gorthrymwyd gan / eu ge/lynion :
a’u da/rostwng / dan eu · haw/durdod.
43Lawer gwaith y gwaredodd hwy · ond yr oeddent hwy yn wrthry/felgar · eu / bwriad :
ac yn cael eu darostwng o/herwydd / eu dryg/ioni.
44Er hynny, cymerodd sylw / o’u cy/fyngder :
pan / glywodd · eu / cri am / gymorth;
45Cofiodd ei gy/famod · â / hwy :
ac edifarhau o/herwydd · ei / gariad / mawr;
46Parodd iddynt / gael tru/garedd :
gan bawb / oedd yn / eu cae/thiwo.
47aGwareda ni, O / Arglwydd · ein / Duw :
a chynnull / ni o / blith · y cen/hedloedd,
47bInni gael rhoi diolch i’th / enw / sanctaidd :
ac ymhy/frydu / yn dy / fawl.
48aBendigedig fyddo’r / Arglwydd · Duw / Israel :
o dragwy/ddoldeb · hyd / dragwy/ddoldeb;
48bDyweded yr / holl – / bobl :
“Amen”. / Mo–/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 106: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in