Bible App logo
Search Icon

Salm 105

105
1Diolchwch i’r Arglwydd. · Galwch / ar ei / enw :
gwnewch yn hysbys ei wei/thredoedd · y/mysg y / bobloedd.
2Canwch iddo, mol/iannwch / ef :
dywedwch / am ei / holl · ryfe/ddodau.
3Gorfoleddwch yn ei / enw / sanctaidd :
llawenhaed calon y / rhai sy’n / ceisio’r / Arglwydd.
4Ceisiwch yr / Arglwydd · a’i / nerth :
ceisiwch ei / wyneb / bob – / amser.
5Cofiwch y rhyfe/ddodau · a / wnaeth :
ei wyrthiau a’r barnedi/gaethau / a gy/hoeddodd,
6Chwi ddisgynyddion / Abraham · ei / was :
disgynyddion / Jacob · ei / etho/ledig.
7Ef yw’r / Arglwydd · ein / Duw :
ac y mae ei farnedigaethau / dros yr / holl – / ddaear.
8Y mae’n cofio ei gy/famod · dros / byth :
gair ei orchymyn hyd / fil o / gened/laethau,
9Sef y cyfamod a / wnaeth ag / Abraham :
a’i / lw – / i – / Isaac,
10Yr hyn a osododd yn / ddeddf i / Jacob :
ac yn gy/famod · tra/gwyddol · i / Israel,
11A dweud, “I chwi y / rhoddaf · wlad / Canaan :
yn / gyfran · eich / eti/feddiaeth.”
12Pan oeddent yn / fychan · o / rif :
yn ychydig, ac yn / grwydriaid / yn y / wlad,
13Yn crwydro o / genedl · i / genedl :
ac o un / deyrnas · at / bobl / eraill,
14Ni adawodd i neb / eu da/rostwng :
ond ce/ryddodd · fren/hinoedd · o’u / hachos, ‡
15A dweud, “Peidiwch â chyffwrdd / â’m he/neiniog :
na gwneud / niwed / i’m pro/ffwydi.”
16Pan alwodd am newyn / dros y / wlad :
a thorri ymaith / eu cyn/haliaeth · o / fara,
17Yr oedd wedi anfon / gŵr o’u / blaenau :
Joseff, a / wer–/thwyd yn / gaethwas.
18Doluriwyd ei draed / yn y / cyffion :
a rhoesant / haearn / am ei / wddf,
19Nes i’r hyn a ddywedodd ef / ddod yn / wir :
ac i air yr / Arglwydd · ei / brofi’n / gywir.
20Anfonodd y brenin / i’w rydd/hau :
brenin y cenhedloedd / yn ei / wneud yn / rhydd;
21Gwnaeth ef yn feistr / ar ei / dŷ :
ac yn llywodraethwr / ar ei / holl – / eiddo, ‡
22I hyfforddi ei dywysogion yn ôl / ei ddy/muniad :
ac i ddysgu doe/thineb / i’w he/nuriaid.
23Yna daeth Israel / hefyd · i’r / Aifft :
a Jacob i / grwydro / yn nhir / Ham.
24A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn / ffrwythlon / iawn :
ac aethant yn / gryfach / na’u ge/lynion.
25Trodd yntau eu calon i ga/sáu ei / bobl :
ac i ymddwyn yn ddi/chellgar / at ei / weision.
26Yna anfonodd ei / was – / Moses :
ac Aaron, yr / un yr · oedd / wedi · ei / ddewis,
27A thrwy eu geiriau hwy / gwnaeth ar/wyddion :
a / gwyrthiau / yn nhir / Ham.
28Anfonodd dywyllwch, ac / aeth yn / dywyll :
eto yr oeddent yn gwrthry/fela · yn / erbyn · ei / eiriau.
29Trodd eu / dyfroedd · yn / waed :
a / lla–/ddodd eu / pysgod.
30Llanwyd eu / tir â / llyffaint :
hyd yn oed ysta/felloedd / eu bren/hinoedd.
31Pan le/farodd / ef :
daeth haid o bryfed a / llau trwy’r / holl – / wlad.
32Rhoes iddynt genllysg / yn lle / glaw :
a mellt yn / fflachio / trwy eu / gwlad.
33Trawodd y gwinwydd / a’r ffi/gyswydd :
a ma/lurio’r / coed trwy’r / wlad.
34Pan le/farodd / ef :
daeth locustiaid a / lindys / heb ri/fedi,
35Nes iddynt fwyta’r holl / laswellt · trwy’r / wlad :
a / difa · holl / gynnyrch · y / ddaear.
36A thrawodd bob cyntafanedig / yn y / wlad :
blaen/ffrwyth eu / holl – / nerth.
37Yna dygodd hwy allan gydag / arian · ac / aur :
ac nid oedd un yn / baglu · y/mysg y / llwythau.
38Llawenhaodd yr Eifftiaid pan / aethant / allan :
oherwydd bod / arnynt · eu / hofn – / hwy.
39Lledaenodd gwmwl / i’w gor/chuddio :
a thân i oleuo / iddynt / yn y / nos.
40Pan fu iddynt ofyn, anfonodd / soflieir / iddynt :
a digonodd / hwy â / bara’r / nefoedd.
41Holltodd graig nes bod / dŵr yn · pis/tyllio :
ac yn llifo fel / afon / trwy’r di/ffeithwch.
42Oherwydd yr oedd yn cofio ei a/ddewid / sanctaidd :
i / Abra/ham ei / was.
43Dygodd ei bobl allan / mewn lla/wenydd :
ei rai etho/ledig / mewn gor/foledd.
44Rhoes iddynt diroedd / y cen/hedloedd :
a chymerasant feddiant o / ffrwyth / llafur / pobloedd, ‡
45Er mwyn iddynt / gadw · ei / ddeddfau :
ac ufuddhau i’w gyfreithiau · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 105: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in