Bible App logo
Search Icon

Salm 104

104
1Fy enaid, ben/dithia’r / Arglwydd :
O Arglwydd fy Nuw, mawr iawn wyt ti · yr wyt wedi dy wisgo ag ys/blander / ac an/rhydedd,
2A’th orchuddio â go/leuni · fel / mantell :
yr wyt yn / taenu’r / nefoedd · fel / pabell,
3Yn gosod tulathau dy balas / ar y / dyfroedd :
yn cymryd y cymylau’n gerbyd · yn marchogaeth / ar a/denydd · y / gwynt,
4Yn gwneud y gwyntoedd / yn ne/geswyr :
a’r / fflamau / tân yn / weision.
5Gosodaist y ddaear ar / ei syl/feini :
fel na / fydd yn / symud · byth / bythoedd;
6Gwnaethost i’r dyfnder ei gorchuddio / fel di/lledyn :
ac y mae dyfroedd yn / sefyll · go/ruwch · y my/nyddoedd.
7Gan dy gerydd / di fe / ffoesant :
gan sŵn dy da/ranau · ci/liasant / draw,
8A chodi dros fynyddoedd a disgyn / i’r dy/ffrynnoedd :
i’r / lle a / bennaist · ti / iddynt;
9Rhoist iddynt derfyn nad / ydynt · i’w / groesi :
rhag iddynt ddychwelyd / a gor/chuddio’r / ddaear.
10Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau / darddu · mewn / hafnau :
yn gwneud iddynt / lifo / rhwng · y my/nyddoedd;
11Rhônt ddiod i holl fwyst/filod · y / maes :
a chaiff asynnod / gwyllt eu / disy/chedu;
12Y mae adar y nefoedd yn nythu / yn eu / hymyl :
ac yn / trydar · y/mysg · y cang/hennau.
13Yr wyt yn dyfrhau’r my/nyddoedd · o’th / balas :
digonir y / ddaear / trwy · dy ddar/pariaeth.
14Yr wyt yn gwneud i’r gwellt / dyfu · i’r / gwartheg :
a phlanhigion at wasanaeth pobl · i ddwyn / allan / fwyd o’r / ddaear,
15A gwin i lonni calonnau pobl · olew i ddis/gleirio’u · hwy/nebau :
a bara i / gynnal / eu ca/lonnau.
16Digonir y / coedydd / cryfion :
y cedrwydd / Leban/on a / blannwyd,
17Lle mae’r / adar · yn / nythu :
a’r ciconia yn car/trefu / yn eu / brigau.
18Y mae’r mynyddoedd uchel ar / gyfer / geifr :
ac y mae’r clo/gwyni·yn / lloches · i’r / brochod.
19Yr wyt yn gwneud i’r lleuad / nodi’r · tym/horau :
ac i’r haul / wybod / pryd i / fachlud.
20Trefnaist dywyllwch / fel bod / nos :
a holl anifeiliaid y goedwig / yn ym/lusgo / allan,
21Gyda’r llewod ifanc yn / rhuo · am ys/glyfaeth :
ac yn ceisio eu / bwyd / oddi · wrth / Dduw.
22Ond pan gyfyd yr haul, y / maent yn · mynd / ymaith :
ac yn gor/ffwyso / yn eu / ffeuau.
23A daw pobl / allan i / weithio :
ac at eu / llafur / hyd yr / hwyrnos.
24Mor niferus yw dy weith/redoedd · O / Arglwydd :
gwnaethost y cyfan mewn doethineb · y mae’r ddaear yn / llawn o’th / grea/duriaid.
25Dyma’r môr / mawr a / llydan :
gydag ymlusgiaid dirifedi a chrea/duriaid / bach a / mawr.
26Arno y mae’r llongau / yn tram/wyo :
a Lefiathan, a / greaist · i / chwarae / ynddo.
27Y mae’r cyfan ohonynt yn dibynnu / arnat / ti :
i roi iddynt eu / bwyd / yn ei / bryd.
28Pan roddi iddynt, y maent yn ei / gasglu · yng/hyd :
pan agori dy law / cânt · eu di/wallu’n / llwyr.
29Ond pan guddi dy / wyneb · fe’u / drysir :
pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant / a dych/welyd · i’r / llwch. ‡
30Pan anfoni dy anadl / cânt eu / creu :
ac yr wyt yn adne/wyddu / wyneb · y / ddaear.
31Bydded gogoniant yr / Arglwydd · dros / byth :
a bydded iddo lawen/hau yn / ei weith/redoedd.
32Pan yw’n edrych ar y ddaear / y mae’n / crynu :
pan yw’n cyffwrdd â’r my/nyddoedd · y / maent yn / mygu.
33Canaf i’r Arglwydd tra / byddaf / byw :
rhof / foliant · i / Dduw tra / byddaf.
34Bydded fy myfyrdod yn gymer/adwy / ganddo :
yr wyf yn llawen/hau – / yn yr / Arglwydd. ‡
35Bydded i’r pechaduriaid ddarfod o’r tir · ac na fydded y dryg/ionus / mwyach :
fy enaid, bendithia’r Arglwydd. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 104: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in