Bible App logo
Search Icon

Salm 103

103
1Fy enaid, ben/dithia’r / Arglwydd :
a’r cyfan sydd / ynof · ei / enw / sanctaidd.
2Fy enaid, ben/dithia’r / Arglwydd :
a phaid ag ang/hofio’i / holl – / ddoniau :
3Ef sy’n maddau fy / holl gam/weddau :
yn ia/cháu fy / holl af/iechyd;
4Ef sy’n gwaredu fy / mywyd · o’r / pwll :
ac yn fy nghoroni â / chariad / a thru/garedd;
5Ef sy’n fy nigoni â daioni dros fy / holl – / ddyddiau :
i adne/wyddu · fy ieu/enctid fel / eryr.
6Y mae’r Arglwydd yn gweithredu cyf/iawnder · a / barn :
i’r / holl rai / gorthry/medig.
7Dysgodd ei / ffyrdd i / Moses :
a’i weith/redoedd / i blant / Israel.
8Trugarog a / graslon · yw’r / Arglwydd :
araf i / ddigio · a / llawn ffydd/londeb.
9Nid yw’n ce/ryddu’n · ddi/ddiwedd :
nac yn / meithrin · ei / ddicter · am / byth.
10Ni wnaeth â ni yn / ôl · ein pe/chodau :
ac ni thalodd i / ni yn / ôl · ein cam/weddau.
11Oherwydd fel y mae’r nefoedd uwch/ben y / ddaear :
y mae ei gariad ef / dros y / rhai · sy’n ei / ofni;
12Cyn belled ag y mae’r dwyrain / o’r gor/llewin :
y pellhaodd ein pe/chodau / oddi / wrthym.
13Fel y mae tad yn tosturio / wrth ei / blant :
felly y tosturia’r Arglwydd / wrth y / rhai · sy’n ei / ofni.
14Oherwydd y mae ef yn / gwybod · ein / deunydd :
yn / cofio · mai / llwch – / ydym.
15Y mae dyddiau dyn / fel glas/welltyn :
y mae’n blodeuo / fel blo/deuyn y / maes,
16Pan â’r gwynt drosto / fe ddi/flanna :
ac nid yw ei / le’n · ei ad/nabod / mwyach.
17Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb · ar y rhai / sy’n ei / ofni :
a’i gyf/iawnder · i / blant eu / plant,
18I’r rhai sy’n cadw / ei gy/famod :
yn cofio’i orchmynion / ac yn / ufudd/hau.
19Gosododd yr Arglwydd ei orsedd / yn y / nefoedd :
ac y mae ei frenhiniaeth / ef · yn rhe/oli · pob / peth.
20Bendithiwch yr Arglwydd / ei an/gylion :
y rhai cedyrn sy’n gwneud ei air · ac yn / ufudd/hau i’w / eiriau.
21Bendithiwch yr Arglwydd / ei holl / luoedd :
ei / weision · sy’n / gwneud · ei e/wyllys.
22Bendithiwch yr Arglwydd, ei / holl weith/redoedd :
ym mhob man o dan ei lywodraeth · fy / enaid · ben/dithia’r / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 103: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in