Bible App logo
Search Icon

Salm 102

102
1Arglwydd / clyw fy / ngweddi :
a / doed fy / nghri – / atat.
2Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf yn nydd / fy nghy/fyngder :
tro dy glust ataf · brysia i’m hateb / yn y / dydd y / galwaf.
3Oherwydd y mae fy nyddiau’n / darfod · fel / mwg :
a’m / hesgyrn · yn / llosgi · fel / ffwrn.
4Yr wyf wedi fy nharo, ac yn / gwywo · fel / glaswellt :
yr wyf yn / darfod · o / beidio · â / bwyta.
5Oherwydd sŵn / fy och/neidio :
y mae fy esgyrn yn / glynu / wrth fy / nghnawd.
6Yr wyf fel pelican / mewn an/ialwch :
ac fel ty/lluan / mewn ad/feilion.
7Yr wyf yn / methu / cysgu :
ac fel a/deryn / unig · ar / do.
8Y mae fy ngelynion yn fy / ngwawdio · trwy’r / amser :
a’m gwatwarwyr yn def/nyddio · fy / enw · fel / melltith.
9Yr wyf yn bwyta / lludw · fel / bara :
ac yn cy/mysgu · fy / niod · â / dagrau,
10O achos dy lid / a’th ddi/gofaint :
oherwydd cydiaist / ynof · a’m / bwrw · o’r / neilltu.
11Y mae fy mywyd fel / cysgod / hwyrddydd :
yr wyf yn / gwywo / fel glas/welltyn.
12Ond yr wyt ti, Arglwydd, wedi dy or/seddu · am / byth :
a phery dy enw / dros y / cened/laethau.
13Byddi’n codi ac yn trugar/hau wrth / Seion :
y mae’n adeg i dosturio wrthi · o/herwydd · fe / ddaeth yr / amser.
14Y mae dy weision yn / hoffi · ei / meini :
ac yn to/sturio / wrth ei / llwch.
15Bydd y cenhedloedd yn ofni / enw’r / Arglwydd :
a holl frenhinoedd y / ddaear / dy o/goniant.
16Oherwydd bydd yr Arglwydd yn adei/ladu / Seion :
bydd yn ym/ddangos / yn ei · o/goniant;
17Bydd yn gwrando ar weddi’r / gorthry/medig :
ac ni fydd yn diy/styru / eu her/fyniad.
18Bydded hyn yn ysgrifenedig i’r gen/hedlaeth · i / ddod :
fel bod pobl sydd eto heb eu / geni · yn / moli’r / Arglwydd:
19Ddarfod iddo edrych i lawr o’i u/chelder / sanctaidd :
i’r Arglwydd edrych o’r / nefoedd / ar y / ddaear,
20I wrando ocheneidiau / carchar/orion :
a rhydd/hau’r rhai / oedd i / farw,
21Fel bod cyhoeddi enw’r / Arglwydd · yn / Seion :
a’i / foliant / yn Jer/wsalem,
22Pan fo pobloedd / a theyr/nasoedd :
yn ymgynnull yng/hyd · i a/ddoli’r / Arglwydd.
23Y mae wedi sigo fy / nerth · ar y / daith :
ac / wedi · byr/hau fy / nyddiau.
24Dywedaf, “O fy Nuw, paid â’m cymryd yng / nghanol · fy / nyddiau :
oherwydd y mae dy flynyddoedd di / dros yr / holl · gened/laethau.
25Gynt fe osodaist syl/feini’r / ddaear :
a / gwaith dy / ddwylo · yw’r / nefoedd.
26aY maent hwy yn darfod, ond yr wyt / ti yn / aros :
y maent i gyd yn / treulio / fel di/lledyn.
26bYr wyt yn eu / newid · fel / gwisg :
ac y / maent – / yn di/flannu;
27Ond yr wyt / ti yr / un :
a’th fly/nyddoedd / heb – / ddiwedd.
28‡ Bydd plant dy weision yn / byw’n ddi/ogel :
a’u disgy/nyddion · yn / sicr · o’th / flaen.”

Currently Selected:

Salm 102: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 102