Bible App logo
Search Icon

Salm 101

101
1Canaf am ffyddlondeb / a chyf/iawnder :
i ti / Arglwydd · y / pynciaf / gerdd.
2Rhof sylw i’r ffordd berffaith · pa bryd y / deui / ataf? :
Rhodiaf â chalon / gywir · y/mysg fy / nhylwyth;
3Ni osodaf fy llygaid ar / ddim an/nheilwng :
cas gennyf yr un sy’n twyllo · nid oes a / wnelwyf / ddim ag / ef.
4Bydd y gwyrgam o galon yn troi / oddi / wrthyf :
ac ni fyddaf yn / cymdei/thasu â’r / drwg.
5‡ Pwy bynnag sy’n enllibio’i gymydog yn ddirgel / rhof daw / arno :
y ffroenuchel a’r / balch, ni / allaf · ei / oddef.
6aOnd y mae fy llygaid ar ffydd/loniaid y / tir :
iddynt gael / trigo / gyda / mi;
6bY sawl a rodia / yn y · ffordd / berffaith :
a / fydd · yn fy / ngwasan/aethu.
7Ni chaiff unrhyw un sy’n twyllo drigo / yn fy / nhŷ :
nac unrhyw un sy’n dweud celwydd / aros / yn fy / ngŵydd.
8Fore ar ôl bore rhof daw ar holl rai dryg/ionus · y / wlad :
a thorraf ymaith o ddinas yr Arglwydd yr / holl wneu/thurwyr · dryg/ioni.

Currently Selected:

Salm 101: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 101