YouVersion Logo
Search Icon

Salm 11

11
Siant sengl
1Yn yr Arglwydd y / cefais / loches :
sut y gallwch ddweud wrthyf, ·
“Ffo / fel a/deryn i’r / mynydd,
2Oherwydd y mae’r drygionus yn plygu’r bwa ·
ac yn gosod eu saethau / yn y / llinyn :
i saethu yn y ty/wyllwch / at yr / uniawn”?
3Os dinistrir / y syl/feini :
pa/beth a / wna’r – / cyfiawn?
4aY mae’r Arglwydd yn ei / deml / sanctaidd :
a gorsedd yr / Arglwydd / yn y / nefoedd;
4bY mae ei lygaid yn edrych / ar y · ddy/nolryw :
a’i o/lygon / yn ei / phrofi.
5Profa’r Arglwydd y cyfiawn / a’r dryg/ionus :
a chas ganddo’r / sawl sy’n / caru / trais.
6Y mae’n glawio marwor tanllyd a brwmstan
/ ar y · dryg/ionus :
gwynt / deifiol / fydd eu / rhan.
7Oherwydd y mae’r Arglwydd yn gyfiawn
ac yn / caru · cyf/iawnder :
a’r / uniawn · sy’n / gweld ei / wyneb.

Currently Selected:

Salm 11: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in