Eseia 5
5
ISAIAH — Pen. V. 1-7
1Canaf, yr awr hon, i fy Anwylyd,
Ganiad fy Anwylyd am ei winllan.
Gwinllan oedd i fy Anwylyd
Mewn bryn tra ffrwythlawn.
2Palai hi, a digaregai hi,
A phlanai hi âg y winwydden oreu,
Ac adeiladai dŵr yn ei chanol hi,
A thrychai winwryf ynddi:
Ac efe a ddisgwyliai iddi ddwyn grawn gwin,
Ond hi a ddygodd rawn gwenwynig.
3Ac yr awr hon, trigolion Ierusalem, a gwyr Iudah,
Barnwch, atolwg, rhyngof fi a fy ngwinllan!
4Pa beth oedd i ei wneuthur ychwaneg i fy ngwinllan,
Nog a wneuthym iddi?
O herwydd paham dysgwyliwn iddi ddwyn grawn gwin,
Ond hi a ddygodd rawn gwenwynig.
5Ac yr awr hon hysbysaf ichwi
Yr hyn a wnaf i fy ngwinllan:
Tynu ymaith ei chae, a bydd yn borfa;
Drylliaw ei magwyr, a bydd yn sathrfa;
6Gosodaf hi hefyd yn ddifrawd:
Nid ysgythrir hi, ac nis ceibir,
A thyfa i fynu yn fieri a drain;
Ac idd y cymylau y gorchymynaf
Na wlawiont wlaw arni.
7Canys gwinllan Iehofah y lluoedd yw tŷ Israel,
A gwyr Iudah planigyn ei hyfrydwch.
Ac efe a ddisgwyliai am farn, ac wele gyflafan;
Am gyfiawnder, ac wele waedd.
Đang chọn:
Eseia 5: TEGID
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.