Eseia 19
19
Esaiah XIX.
Dedfryd yr Aipht.
(Lle y cair darluniad cywir o gyflwr presennol y wlad hòno.)
1 # 19:1 Y mae y brophwydoliaeth hon yn agawr gyda darluniad ardderchawg yn gosod allan Lywodraethwr y byd, mal brenin, yn marchogaeth ar gwmwl fal mewn cerbyd (Ps. 104:3) i geryddu yr Aipht. Mae yn myned gyda brys, canys â ar gwmwl ysgafn. Y dull hwn o ymadroddi a gymerir oddiwrth waith brenin neu amherawdur daearawl yn marchogaeth mewn cerbyd buan i gospi deiliaid afreolus ac yn anufyddhau cyfreithiau y tir mewn rhan bell o’i lywodraeth. Wele Iehofah yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn,
Ac yn dyfod i’r Aipht:
Ac eilunod yr Aipht a gynhyrfant rhagddo,
A chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol.
2Arfogaf hefyd yr Aiphtiaid yn erbyn yr Aiphtiaid,
A hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd,
A phob un yn erbyn ei gymydog:
Dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
3Ac ysbryd yr Aipht a balla#19:3 Ac ysbryd yr Aipht a balla— a dywelltir, Heb. Wrth yr ysbryd y deallir yma, yr enaid; yn enwedig y synwyr, y pwyll neu y callineb ag oedd gan yr Aipht i fwriadu pethau, ac i ymgynghori ar faterion. yn ei chanol,
A minnau a ddyddymaf#19:3 A minnau a ddyddymaf— a lyncaf, Heb. Hyny yw, gwnaf ei chynghor yn ofer, yn ddirym, ac yn ddiwerth; a bydd fal dwfr, neu lyn, a arllwysir, neu a dywelltir o lestr ar y llawr. ei chynghor:
Yna yr ymofynant âg eilunod ac â swynyddion,#19:3 swynyddion, Bol-siaradwyr, sef rhai yn sibrwd, ac yn gwneyd swn dieithr, trwy fol-ymsiarad, ac wrth hyn yn twyllaw pobl ofergoelus, y rhai a dybient eu bod yn ymgyfrinachu âg ysbrydion, neu fodau anweledig.
Ac â gorcheiniaid,#19:3 gorcheiniaid,Dewiniaid, y rhai drwy fath o gân riniedig, a rhyw ddull o gyfaredd a gymerent arnynt yngynghori â’r meirw ynghylch y byw; ac am bethau i ddyfod. Gwel 1 Sam. 28:7. ac â brudwyr#19:3 brudwyr, Gwyr doeth, a elwir hefyd gwyr gwyhodus, neu wyr cyfarwydd, y rhai oeddynt yn arfer daroganu pethau rhagllaw..
4Ac mi a gauaf yr Aipht yn llaw arglwydd caled,#19:4 arglwydd caled, Arglwyddi caled, Heb. Arglwyddi caledion, Dr. Morgan. Yma, fal mewn eraill leoedd, nid oes, i lawer o eiriau, er eu hod yn yr Hebraeg yn y rhif liosawg, ond ystyr unigawl; megys, “Yn y dechreuad y creodd Duw,” Duwiau, Heb. (Gen. 1:1) “A’r asyn breseb ei berchenog,” Berchenogion, Heb. (Esa. 1:4)
A brenin cadarn a lywodraetha arnynt;
Medd Arglwydd Iehofah y lluoedd.
5Ac y dyfroedd a ddarfyddant o’r môr,
Yr afon#19:5 Yr Afon, sef y Nil. hefyd a â yn hesb, ac yn sech:
6Ac wele yr afonydd a yrant allan ddrewdawd,
Ffrydiau yr Aipht#19:6 Ffrydiau yr Aipht, sef y dyfr-ffosydd a gloddiesid cr mwyn cadw dyfroedd y Nil ar ol ei llifeiriant. Gelwir hwynt hefyd Breichiau yr afon; canals. a dreuliant ac a sychant:
Pob corsen a hesgen a wywant.
7Y meusydd wrth y ffrwd, ar fin y ffrwd,
A phob hadiad y ffrwd#19:7 A phob hadiad y ffrwd,Hyny yw, pob rhyw dyfiant ar lànau y ffrwd.,
A sychir i fyny, a chwelir, ac ni bydd dim o honynt.
8Y pysgodwyr hefyd a dristâant, ac a alarant,
Oll o’r sawl a fwriant fach i ffrwd:
A thaenwyr rhwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgâant.
9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant lîn heislanedig,#19:9 llin heislanedig, Llin wedi ei heisylltu — gwedi ei gribaw; combed flax:meinllin.
Ac y sawl a wëant liain gwỳn.
10Yna y byddant eu seiliau yn ddrylliedig#19:10 Yna y byddant ei seiliau yn ddrylliedig. Yna y bydd ei rhwydau hi’n ddrylliedic, Dr. Morgan. — Colofnau, Shroeder, seiliau, Gesenius, a Winer. O barth cyfieithiad y geiriau hyn y mae anghyfod nid bychan ymhlith yr amrywiawl gyfieithwyr; ond tueddir ni i gydochri â’r sawl a darddant y gair Hebraeg, “ei seiliau hi” — ponere: gosodi seiliau. Dygwydda yr un gair yn Ps. 11:3, lle ei troir fal y gwnaethom yma, seiliau. Dull o ymadrawdd ydyw yn arwyddaw penaethiaid gwlad, sef y rhai y gorphwysa arnynt bwys y llywodraeth. Ac felly ystyr y geiriau ydyw y penaethiaid a fyddant yn friwedig o ysbryd; ac y werinos yn drist o galon.,
Ac holl weithwyr cyflog yn drist o galon.
11Diau ynfydion tywysogion Soan;
Cynghor doethion gynghorwyr Pharaoh a aeth yn ynfyd:
Pa fodd y dywedwch wrth Pharaoh,
Mab y doethion ydwyf fi,
Mab hen freninoedd?
12Mae hwynt weithion? dy ddoethion!
A mynegent atolwg, os gwyddant,
Pa gynghor a gymerodd Iehofah y lluoedd yn erbyn yr Aipht.
13Tywysogion Soan a ynfydasant,
Twyllwyd tywysogion Noph:
A phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aipht.
14 Iehofah a gymysgodd yn ei chanol hi ysbryd pendröad;
A hwy a wnaethant i’r Aipht gyfeiliorni yn ei holl waith,
Mal y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.
15Ac ni bydd gwaith i’r Aipht,
Yr hwn a wnelo y pen, na’r gloren, y gangen, na’r frwynen.
16Yn y dydd hwnw y bydd yr Aipht fàl gwragedd;
Canys hi a ddychryna, ac a ofna,
Rhag ysgydwad llaw Iehofah y lluoedd,
Yr hon a ysgadwa efe yn ei herbyn hi.
17A bydd tir Iudah yn arswyd i’r Aipht:
Pwy bynag a’i coffa hi a ofna ynddo ei hun;
Rhag cynghor Iehofah y lluoedd,
Yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.
18Yn y dydd hwnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aipht,
Yn llefaru iaith Canaan,
Ac yn tyngu i Iehofah y lluoedd:
Dinas Dystryw y gelwir un.
19Yn y dydd hwnw y bydd allor i Iehofah,
Ynghanol tir yr Aipht;
A cholofn i Iehofah gerllaw ei therfyn hi.
20Ac er arwydd y bydd, ac er tystiolaeth,
I Iehofah y lluoedd yn nhir yr Aipht;
Oblegid llefain o honynt ar Iehofah rhag eu gorthrymwyr#19:20 rhag eu gorthrymwyr. Felly hefyd y Dr. Morgan.,
Ac iddo ef anfon iddynt waredwr, ac amddiffynwr, ac eu hachub hwynt.
21Ac adwaenir Iehofah gan yr Aipht,
Ië yr Aiphtiaid a adwaenant Iehofah yn y dydd hwnw;
Gwnant hefyd aberth, ac offrwm,
Ac a addunant adduned i Iehofah, ac a’i talant.
22 Iehofah hefyd a darawa yr Aipht, gan daraw ac iachâu;
Hwythau a droant at Iehofah;
Ac ymbilir ef ganddynt, ac efe a’u hiachâa hwynt.
23Yn y dydd hwnw y bydd prif-ffordd o’r Aipht i Assyria,
Ac yr â yr Assyriaid i’r Aipht,
Ac yr Aiphtiaid i Assyria;
Ac yr Aipht gydag Assyria a wasanaethant.#19:23 a wasanaethant. A’r Aipht gyd ag Assyria wasanaethant [Dduw]. Dr. Morgan.
24Yn y dydd hwnw y bydd Israel yn drydedd#19:24 yn drydedd. Yn y dydd hwnw y bydd Israel yn drydedd i’r Aipht. Dr. Morgan.
I’r Aipht ac i Assyria;
Er bendith o fewn y tir.
Đang chọn:
Eseia 19: TEGID
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.