Rhufeiniaid 9

9
Annghrediniaeth yr Iuddew. Gofid yr Apostol.
1Y gwirionedd#9:1 ‘Rhaid deall a theimlo yn brofiadol wirioneddau mawrion Pennodau 1–8 cyn y gellir gwerthfawrogi Pennodau 9–11.’ yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, fy nghydwybod yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân#9:1 Y mae ganddo dri thyst: (1) efe ei hun; (2) ei gydwybod — llefara am dani fel tyst annybynol, ‘y dyn o fewn y fynwes’; (3) yr Yspryd. Nid oedd y ddau flaenaf ond ‘adlais yr Yspryd Glân.’, 2fod i mi dristwch mawr a phoen#9:2 Y mae ‘poen’ (odunê, alaeth, tristwch difaol) yn fwy llym a phoenus i'r meddwl na ‘thristwch’ (lupê). dibaid i'm calon; 3canys dymunwn#9:3 Yr amser ammherffaith, ‘yr oeddwn yn dymuno,’ ‘yr oeddwn ar ddymuno.’ Gallai ddymuno (neu weddio) pe yn bosibl, ond nid oedd yn ymarferol. Yr oedd ‘ar y ffordd’ i ddymuno. Cawn ddau beth: (1) y duedd, (2) y rhwystr, i ddymuno. Nid oedd bosibl i'w wahanu oddiwrth Grist. fod fy hun yn anathema#9:3 Felldigedig, un neu beth wedi ei ddiofrydu i'w golli. (Gweler 1 Cor 12:3; 16:2; Gal 1:8, 9) Yr oedd teimlad Paul yn angerddol. Nid ymadrodd rhesymeg sydd yma, ond gormodiaith cariad dwfn. Dywedodd Moses, “Os amgen, dilea fi allan o'th lyfr” (Ex 32:32). oddiwrth Grist er mwyn fy mrodyr, fy nghyd‐genedl yn ol y cnawd, 4y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw y Mabwysiad#9:4 Sef Etholedigaeth y genedl fel Pobl neillduol Duw., a'r Gogoniant#9:4 Sef Gogoniant Jehofah, Shecina y Rabiniaid (Ex 16:10; 24:16)., a'r Cyfammodau#9:4 Y gwahanol gyfammodau a wnaeth Duw âg Abraham a'i olynwyr., a Rhoddiad y Ddeddf#9:4 Deddfwriaeth Sinai, yr hon a gyhoeddwyd yng nghanol arddangosia l o fawredd a sancteiddrwydd Duw., a'r Gwasanaeth#9:4 Latreia, a ddynoda yn neillduol wasanaeth y Deml, y defodau a'r offrymmau., a'r Addewidion#9:4 Yn enwedig am y Messia.; 5eiddo y rhai yw y Tadau, ac o'r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb#9:5 Neu, dros bob peth., yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd#9:5 Hwn y cyfieithiad goreu ag ystyried y grammadeg, cyssylltiad y meddwl, a naturioldeb yr oll. Credwn nad awgrymmid cyfieithiad arall onibai dadleuaeth. Cyferbynna Paul Dduwdod Crist a'i ddynoliaeth. Dywed am dano yn Titus 2:10, “Duw ein Hiachawdwr.” Byddai Molawd i'r Tâd yma yn sydyn ac annaturiol, gan ddwyn i mewn gyfnewidiad clogyrnog. Yn ychwanegol i'r drefn uchod, ceir y canlynol: (1) (gan osod diweddnod ar ol cnawd) ‘Bydded yr hwn sydd Dduw uwchlaw pawb yn fendigedig yn oes oesoedd’; (2) ‘Yr hwn sydd uwchlaw pawb yw Duw, yn fendigedig yn oes oesoedd’; (3) (gan osod gwahanai ar ol cnawd) ‘yr hwn sydd uwchlaw pawb. Duw sydd (neu fyddo) fendigedig yn oes oesoedd.’. Amen.
Methiant Israel ac Addewidion Duw.
6Eithr nid yw yr achos y fath ag i air Duw fod wedi syrthio#9:6 Wedi methu, myned yn ddirym, ‘Gair Duw,’ ei fwriad dadganedig. i'r llawr; canys nid Israel yw pawb sydd o Israel; 7ac nid ydynt, oblegyd eu bod yn hâd i Abraham, i gyd yn blant, eithr, Yn Isaac yr enwir i ti hâd#9:7 Gen 21:12, LXX; hefyd yn Heb 11:18.; 8hynny yw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw, eithr plant yr addewid#9:8 Isaac ac nid Ismael oedd plentyn yr addewid. Yr oedd ei enedigaeth yn ymddybynnu ar Air Duw. a gyfrifir yn hâd. 9Canys y gair hwn yw gair yr addewid, Yn ol y pryd hwn#9:9 Sef y tymhor hwn o'r flwyddyn nesaf (Gen 18:10). y deuaf, a bydd mab i Sara. 10Ac nid yn unig hyn, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, Isaac ein Tâd ni 11(canys a hwy heb etto eu geni, a gwneuthur o honynt dda na drwg#9:11 Phaulos א A B (iselwael, diwerth, coeg); kakos (drwg) D F G. Gweler Ioan 3:20., fel y byddai i arfaeth#9:11 Prothesis (‘yr hyn a esyd un o'i flaen’), bwriad. Defnyddia Paul y gair am ‘fwriad neu arfaeth Duw er achub dynion’ cyn seiliad y byd. Defnyddia eraill boulê, ‘cynghor’ (Luc 7:30; Act 2:23), yr hwn ni ddefnyddir gan Paul ond unwaith (Eph 1:11). Duw yn ol etholedigaeth sefyll, 12nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw#9:12 Nid yw yr ymadrodd yn adnod 10 yn orphenedig. Y mae gair megys ‘amlygwyd’ (i Rebecca) yn ddealledig.) dywedwyd wrthi, Y mwyaf a wasanaetha y lleiaf#9:12 Gen 25:23, LXX. Nid yn gymmaint “yr hynaf a wasanaetha yr ieuengaf.” Cyfeiria y frawddeg at ddwy genedl yn y groth, a'r cryfaf oedd i wasanaethu'r gwanaf.; 13megys y mae yn ysgrifenedig, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseâis#9:13 Mal 1:2, 3. Ni chyfeiria yr ymadrodd at wrthodiad ysprydol y ddau frawd. Ni feddylir yn gymmaint am y ddau frawd a'r ddwy genedl. Dewisodd Duw Israel i feddiannu yr Addewid o'r Messia. Rhoddodd Duw fendith fawr i Esau, ac felly nid yw ei ystyr waethaf i'w roddi i'r gair ‘cashau.’ Dadl yr Apostol ydyw fod yr addewid o ras ac nid o weithredoedd. Dewisodd Duw Isaac ac nid Ismael; nid hynny yn unig. Dewisodd Jacob ac nid Esau er eu bod o'r un dad a'r un fam, a hwy hefyd yn efelliaid..
Nid oes Annghyfiawnder gyda Duw.
14Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes annghyfiawnder gyda Duw? Na atto Duw#9:14 Llyth., na fydded.. 15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Trugarhâf wrth yr hwn y trugarhâwyf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf#9:15 Ex 33:19, LXX. Caniataodd Duw ddymuniad Moses trwy weithred o ras diammodol, i'r hon nid oedd gan hyd y nod Moses hawl. Cyssylltir hwn â'r diweddglo (Ex 34:6, “Y Duw trugarog a graslawn,” &c.).. 16Gan hynny, ynte, nid yw#9:16 Sef, cyfrannogiad o ffafr Duw. o'r hwn sydd yn ewyllysio, nac o'r hwn sydd yn rhedeg#9:16 Gan ddangos ymdrech galed. Nid ewyllys neu weithred dyn yw ffynnonnell trugaredd. chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhâu. 17Canys dywed yr ysgrythyr wrth Pharaoh, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot, ac fel y dadgenid fy enw yn yr holl ddaear#9:17 Dyfyniad rhydd o Ex 9:16. Llyth., ‘Mi a'th wnaethum i sefyll’ (Hebraeg); ‘mi a'th gedwais yn fyw.’ Y meddwl yma: ‘mi a'th osodais ar lwyfan hanesyddiaeth.’. 18Felly gan hynny wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarhâ efe, a'r hwn a ewyllysia a galeda#9:18 Diwedd y pechadur gwrthnysig yw caledrwydd calon..
Cyfiawnder a Thrugaredd Duw.
19Tydi a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe etto yn beio? Canys pwy a saif yn erbyn ei gynghor#9:19 Boulema (gair anfynych yn yr Ysgrythyr, yma yn unig gan Paul). Golyga ‘gynghor,’ barn bwyllog a thawel. Ffrwyth yr ewyllys. ef? 20Na, yn hytrach, O ddyn! pwy wyt ti yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywed y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn? 21Neu, onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y clai, o'r un telpyn i wneuthur un rhan yn llestr i barch, ac i arall ammharch? 22Beth os Duw, er yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a gwneyd ei allu#9:22 Llyth., alluogrwydd. yn adnabyddus, a oddefodd gyda llawer o hir‐ymaros lestri digofaint wedi eu cymhwyso i golledigaeth: 23fel#9:23 Ac א A D; gad. B. y gwnelai yn adnabyddus olud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag‐barottôdd efe i ogoniant, 24y rhai a alwodd efe hefyd, sef nyni, nid yn unig o'r Iuddewon, ond hefyd o'r Cenhedloedd?
Galwad y Cenhedloedd a Gwrthodiad yr Iuddewon.
25Megys hefyd y dywed efe yn Hosea:
Mi#9:25 Hosea 2:23. Dyfyniad rhydd; newidir trefn y ddwy frawddeg, ond gydag amcan uchel. Cyfeiria y frawddeg gyntaf, ‘nid yw bobl i mi,’ at Israel, a'r ail at y Cenhedloedd. Felly y mae addewidion Duw yn gorlifo dros ei fygythion, a phan yn adferu Israel y mae Efe hefyd yn cofleidio y byd ym mreichiau ei drugaredd. a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi yn bobl i mi:
A'r hon nid yw anwyl yn anwyl.
26A#9:26 Dyfyniad cywir o Hosea 1:10. bydd, yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl ydych chwi,
Yno#9:26 Lle y gwasgariad oedd lle eu hadferiad. y gelwir hwy yn feibion y Duw byw.
27Esaia hefyd sydd yn llefain#9:27 Gan ddangos ei deimlad dwfn a'i angerddoldeb. ar ran#9:27 Llyth., dros, ar ran, megys yn galaru dros y genedl. Llefara Hosea am dderbyniad y Cenhedloedd; griddfana Esaia o herwydd gwrthodiad corph mawr yr Iuddewon. yr Israel,
Er#9:27 Es 10:22, 23. Mabwysiada Paul yn agos eiriau y LXX. pe byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir;
28Canys yr Arglwydd a gyflawna ei air ar y ddaear#9:28 Mewn cyfiawnder, oblegyd byrwaith D F G; gad. א A B Brnd., gyda llŵyrder a chyflymdra#9:28 Llyth., gan gwblhau a thorri yn fyr..
29Ac megys y dywedodd Esaia o'r blaen#9:29 O'r blaen, mewn prophwydoliaeth., Oni#9:29 Es 1:9, LXX. (hâd, Hebraeg, ‘ychydig iawn o weddill.’) buasai i Arglwydd Sabaoth#9:29 Trawslythyreniad o'r gair Hebraeg, Ts'vaoth, ‘lluoedd,’ ‘byddinoedd.’ adael i ni hâd, fel Sodom y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorrah.
30Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd nad oeddynt yn dylyn cyfiawnder, wedi dod o hyd#9:30 Katalambanô, cymmeryd gafael, cyrhaeddyd, goddiweddyd, dyfod o hyd i. i gyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd; 31ond Israel gan ddylyn deddf cyfiawnder, ni ddaethant i fyny#9:31 Phthanô, rhagflaenu, yna cyhoeddi, dyfod i fyny (ä gofynion y ddeddf). â'r ddeddf#9:31 Cyfiawnder; gad. א A B D Brnd.. 32Paham? O herwydd ni ddylynasant o ffydd ond megys o weithredoedd#9:32 Y ddeddf D; gad. א A B Brnd.. Tramgwyddasant#9:32 Tarawsant (eu traed) yn erbyn. wrth y maen‐tramgwydd, 33megys y mae yn ysgrifenedig:
Wele#9:33 Es 8:14 ac 28:16 (gan ddylyn yr Hebraeg), “Wele, yr wyf yn sefydlu Brenin, y Messia, yr hwn a fydd yn Sion yn faen prawf.” — Rabbi Rashi., yr wyf yn gosod yn Sion faen‐tramgwydd a chraig rwystr.
A'r hwn sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Rhufeiniaid 9: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้

วิดีโอสำหรับ Rhufeiniaid 9