Rhufeiniaid 10

10
Prawfion o Fethiant ac Euogrwydd Israel.
1Frodyr, ewyllys da fy nghalon a'm gweddi ar Dduw ar eu#10:1 Eu rhan א A B D F G Brnd.; ar ran Israel L. rhan yw er eu hiachawdwriaeth; 2canys yr wyf yn dyst iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw#10:2 Llyth., Sêl Duw., eithr nid yn ol gwybodaeth#10:2 Epignôsis, llawn‐wybodaeth. Hoff air Paul. Nid oedd ganddynt wybodaeth gyflawn o Dduw yng Nghrist.; 3canys heb wybod cyfiawnder Duw#10:3 Sef, ei dderbyniad o'r pechadur fel yn gyfiawn er mwyn Crist., ac yn ceisio sefydlu eu heiddo#10:3 Cyfiawnder א G; gad. A B D. eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 4Canys Crist yw diwedd deddf#10:4 Diwedd deddf, nid yn gymmaint Cyfraith Moses ag egwyddor deddf, yr hon a ddywed, ‘Gwna hyn, a byw fyddi.’ Crist yw diweddglo yr oll. Efe oedd gwrthrych, dyben, a chyflawniad y ddeddf trwy ddwyn i mewn gyfiawnhâd trwy ffydd. er cyfiawnder i bob un sydd yn credu. 5Canys y mae Moses yn ysgrifennu mai y dyn a wnel y cyfiawnder sydd o ddeddf a fydd byw trwyddo#10:5 Llyth., ynddo (Lef 18:5, LXX); gweler Gal 3:12.. 6Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd#10:6 Y mae ‘cyfiawnder ffydd’ yr un a ‘chyfiawnder Duw.’ Personolir ef yma fel Doethineb yn Diar 8. Rhydd ddyfyniad sydd yma o Deut 30:11–14. Cydnebydd Paul fod yna ail a dyfnach meddwl yng ngeiriau Moses. Y mae Deuteronomium yn ‘efengyleiddiad o'r Ddeddf.’ Y mae Crist yn cael ei awgrymmu os nid ei gyhoeddi yn yr Hen Destament. Y mae yn llawn o'r Messia. fel hyn, Na ddywed yn dy galon#10:6 Ymadrodd Hebreig yn golygu ‘Na feddwl, yn enwedig yr hyn sydd ddrwg neu gyfeiliornus.’, Pwy a esgyn i'r nef (hynny yw, i ddwyn Crist i waered#10:6 Yn ei Ymgnawdoliad.); 7neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder#10:7 Deut 30:13, “Ac nid o'r tu hwnt i'r mor y mae.” Newidia Paul y frawddeg er ei chyfaddasu i Ddisgyniad Crist i Hades. Credai yr Iuddew fod y ddaear yn gorphwys ar ddyfnder o ddyfroedd. Daeth Crist o uchder nef; aeth i ‘barthau isaf’ y ddaear. Y mae trefn yr Iachawdwriaeth yn gyflawn.? (hynny yw, i ddwyn Crist i fyny o blith y meirw). 8Na, pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair#10:8 Neu, y peth, yr Efengyl. Gair yw yn ei heglurder, symlrwydd, ei chynnwysfawredd, ei hawdurdod. yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd#10:8 Ffydd yw pwnc y gennadwri. Ni saif ffydd am yr Efengyl ond am egwyddor dufewnol cyfiawnhad. ‘Gair y ffydd’ yma yn unig., yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; 9sef, os cyffesi#10:9 Mae cyffesu yma o flaen credu, oblegyd y mae ‘genau’ yn Deut. o flaen ‘calon’; ond credu sydd gyntaf, cyffesu yn canlyn. I'r dychweledigion yr oedd y gyffes hon yn agwedd bwysig o Fedydd. a'th#10:9 Y gair B WH. enau yr Iesu yn Arglwydd#10:9 Yn y dadganiad ‘Iesu yn Arglwydd’ y gorwedd swm a sylwedd ‘ffydd ac iachawdwriaeth.’, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw#10:9 Cynnwysa yr Adgyfodiad holl ffeithiau eraill person a gwaith Iesu Grist., cadwedig fyddi; 10canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth; 11oblegyd dywed yr Ysgrythyr, Pob un sydd yn credu ynddo#10:11 Llyth., arno. ef, ni chywilyddir#Es 38:16. 12Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr; canys yr un yw Arglwydd#10:12 ‘Yr un Arglwydd yw Arglwydd pawb,’ sef, yr Arglwydd Iesu. pawb, yn gyfoethog i bawb sydd yn galw arno: 13canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
Yr Efengyl a wrthodwyd gan Israel yn cael ei phregethu i bawb.
14Pa fodd, ynte, y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant#10:14 Nid ‘am yr hwn ni chlywsant.’ Desgrifir Crist fel yn llefaru trwy ei genhadon.’? a pha fodd y clywant heb bregethwr? 15a pha fodd y pregethant onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth#10:15 Gweler ar Act 3:2, 10, ‘prydferthwch ieuenctyd ac yni,’ felly yn ddesgrifiadol o ‘draed cyflym’ yr efengylwyr, yn llammu ar y mynyddoedd, a gair Duw ‘yn rhedeg’ ac yn cael gogonedd. yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau#10:15 Tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu D E F G; gad. א A B C. Talfyra Paul y dyfyniad, rhydd ef yn y lluosog yn lle yn y rhif unigol, a gedy allan ‘ar y mynyddoedd.’ Ceidw at yr Hebraeg ac nid at y LXX. da! 16Eithr nid ufuddhasant hwy#10:16 Yn ol rhai, y Cenhedloedd; yn ol eraill, yr Iuddewon; yn debygol yr olaf. oll i'r efengyl; canys y mae Esaia yn dywedyd [[53:1]], Arglwydd, pwy a gredodd i'n cennadwri#10:16 Akoê, dau ystyr: (1) y gynneddf o glywed, y clyw; (2) cynnwys yr hyn a glywid, adroddiad, cennadwri.? 17Felly daw ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air#10:17 Crist א B C D Brnd.; Duw A. Crist#10:17 Nid efallai yn gymmaint yr Efengyl a gorchymyn a Chommissiwn Crist.. 18Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Do#10:18 Y mae y frawddeg yn y negyddol, ‘Onid yw yn ffaith nad ydynt wedi clywed? Nad yw, yn wir.’, yn wir,
Eu swn#10:18 Swn cerddorol neu felodaidd (offerynol neu leisiol). Dynoda phthonggos hefyd linyn mesur; hefyd, cord, tant. a aeth allan i'r holl ddaear,
A'u geiriau hyd derfynau y byd#10:18 Llyth., [y ddaear] gyfanneddol. Dengys yr Apostol gyffredinolrwydd yr Efengyl. Y mae ganddi gennadwri i'r byd. Nid yw pregeth y Sêr ond rhagymadrodd i esboniad cyflawn yr Efengyl o gariad Duw. Nid yw crefydd naturiol ond dammeg a rhagflaenydd o'r Dadguddiad mawr diweddol..#Salm 19:4, LXX.
19Eithr meddaf, Ai ni wybu Israel#10:19 ‘Ai ni chawsant rybudd prophwydol o'u hannghrediniaeth hwy a phregethiad o'r Efengyl i'r Cenhedloedd?? Moses a ddywed#10:19 Deut 32:21, fel yr Hebraeg a'r LXX, ond fod ‘chwi’ yn lle ‘hwy.’ yn gyntaf, Mi a'ch gwnaf yn eiddigus yn erbyn yr hyn nid yw genedl#10:19 Fel yr aeth Israel ar ol y rhai nad oeddynt dduwiau, felly gwnelid hwy yn is‐raddol i rai na chyfrifent hwy yn deilwng o'r enw cenedl.; yn erbyn cenedl anneallus mi a'ch gwnaf yn ddig. 20Eithr y mae Esaia yn ymhyfhâu#10:20 Apotolma [yma yn unig yn y T.N.] ac yn dywedyd,
Cafwyd fi gan y rhai na'm ceisient,
A gwnaethum fy hun yn eglur i'r rhai nad ymofynant am danaf#10:20 Es 65:1 (trawsddodir y brawddegau.).
21Ond wrth Israel y dywed efe,
Ar hyd y dydd yr estynais allan fy nwylaw#10:21 Gan ddangos taer‐ddeisyfiad a chyflawn roesaw. at bobl anufudd a gwrthwynebus#10:21 Llyth.: gwrth‐ddywedyd.#Es 65:2.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Rhufeiniaid 10: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้

วิดีโอสำหรับ Rhufeiniaid 10