Rhufeiniaid 8
8
Dyogelwch yr hwn a Gyfiawnheir: Meddwl yr Yspryd a Meddwl y Cnawd.
1Nid oes gan hynny yn wir yn awr ddim condemniad#8:1 Katakrima (term cyfreithiol), dedfryd yn erbyn, collfarniad. i'r rhai sydd yng#8:1 Mewn undeb â Christ, wedi ymgorphori ynddo, aros ynddo. Dyna gam yn nes ymlaen yn y bywyd ysprydol. Pan y llefara Paul am yr undeb hwn, ni ddefnyddia y gair Iesu wrtho ei hun, na chwaith yn gyntaf. Pwysleisia urddas a gallu Dwyfol y ‘Crist.’ Nghrist Iesu#8:1 Y rhai sydd yn rhodio nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd. Gad. א A B C D F G Brnd. Dygwyd i mewn o adnod 4.. 2Canys Deddf Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu#8:2 Nid ‘bywyd yng Nghrist Iesu’ yn gymmant ag ‘a'th ryddhâodd di [pan] yng Nghrist Iesu.’ a'th rhyddhâodd di#8:2 i A C D Tr. Diw.; di א B F G Ti. WH. oddiwrth Ddeddf pechod a marwolaeth#8:2 Deddf pechod yn dedfrydu ei deiliad i farwolaeth. Nid Deddf Moses, ond rheolaeth dufewnol egwyddor pechod.. 3Canys y peth ammhosibl i'r Ddeddf wneyd#8:3 Sef, condemnio pechod yn y cnawd., yn yr hyn#8:3 Neu, ‘o herwydd ei bod.’ yr oedd yn wan trwy y cnawd, Duw, wedi danfon ei Fab ei hun#8:3 Pwysleisir ei Fabolaeth arbennig, fel ei ‘Unig‐anedig Fab,’ ei rag‐fodolaeth; ‘wedi ei anfon,’ ei genhedliad goruwchnaturiol gan iddo feddiannu corph dibechod. Os na enwir yn olaf gan Paul, etto awgrymmir ef ganddo. yng nghyffelybiaeth cnawd#8:3 Yr oedd yr Ymgnawdoliad yn wirioneddol, ac yr oedd ei natur ddynol yn ‘gyffelyb’ i'r cnawd oedd wedi pechu, er yn bur. pechadurus#8:3 Llyth., cnawd pechod, cnawd wedi ei feddiannu neu ei ddarostwng gan bechod., ac am bechod#8:3 Peri amartias, ‘am bechod.’ Defnyddir y frawddeg yn fynych yn yr Hen Destament am ‘bech‐aberth’ — dros 50 o weithiau yn Lefiticus (Lef 4:33; 5:6, 7; 7:37, &c.). Felly y cyfieitha rhai yma, “Ac efe, fel aberth am bechod, a gondemniodd,” &c. Ond y mae yr ymadrodd yn eangach yma, gan y cyfeiria nid yn unig at yr Iawn, ond hefyd at gondemniad ymarferol o bechod yn natur ddibechod Crist., a gondemniodd bechod yn y cnawd, 4fel y cyflawnid rheol gyfiawn#8:4 Dikaiôma, ordinhâd, gorchymyn, yr hyn a osodir i lawr fel yn gyfiawn. y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd. 5Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synio#8:5 Phronein, gosod y meddwl a'r serch; gweithred y serchiadau, yr ewyllys a'r rheswm.; eithr y rhai sydd yn ol yr Yspryd, am bethau yr Yspryd. 6Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; eithr syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd#8:6 (1) Rhwng dyn a Duw; (2) y mwynhâd sanctaidd ym mynwes dawel a digythrudd y credadyn. yw; 7oblegyd syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw, canys nid yw yn ymostwng i Ddeddf#8:7 Yn ei dau ofyniad mawr, Mat 22:37–39. Duw, oblegyd yn wir nis gall#8:7 Hunan ac nid Duw yw canolbwynt holl feddwl y cnawd.. 8A'r rhai sydd yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw. 9Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo#8:9 Neu, ymgartrefu. ynoch. Ond os oes neb heb Yspryd Crist#8:9 Yspryd Crist, am y danfonir ef ganddo; efe yw cyfrwng presennoldeb Dwyfol Crist ym mhlith dynion. Danfonir ef hefyd gan y Tâd, ‘Yspryd Duw.’ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10Ond os yw Crist ynoch, y mae y corph#8:10 Y corph materol; nid yw yn gyfystyr a'r ‘cnawd.’ Y mae y corph trwy bechod wedi ei dynghedu i farwolaeth. yn wir yn farw, o herwydd pechod; eithr yr yspryd#8:10 Yspryd dynol y dyn newydd. yn fywyd, o herwydd cyfiawnder#8:10 Cyfiawnder dirprwyol Crist, ei Iawn yn sicrhau cyfiawnhâd.. 11Ac os Yspryd yr hwn#8:11 Sef, y Tâd. a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist#8:11 Iesu yr Adgyfodedig wrtho ei hun; Crist yr Adgyfodedig yn ei berthynas a'i bobl fel eu Pen.#8:11 Iesu א A D; gad. B F G. o feirw a fywhâ hefyd eich cyrph marwol#8:11 Y mae y corph yn deml yr Yspryd, ac felly i'w gyfnewid er bod yn anfarwol. chwi o#8:11 o herwydd B D F G; trwy א A C. herwydd ei Yspryd#8:11 Ni ddywedir yn y T.N. mai yr Yspryd yw y goruchwylydd yn adgyfodiad y meirw. Cyfododd Crist trwy allu y Tâd (Eph 1:20) ac yn ei nerth ei hun (Eph 2:19, 21). yr hwn sydd yn trigo ynoch. 12Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ol y cnawd; 13canys os byw yr ydych yn ol y cnawd, yr ydych ar fedr marw#8:13 “Ar ffordd marwolaeth.” Dengys y frawddeg ganlyniadau sicr achos digonol.; eithr os trwy yr Yspryd y marwhêwch weithredoedd y corph, byw fyddwch.
Meibion ac Etifeddion.
14Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn yw meibion#8:14 Nid ‘plant.’ Gwahaniaetha ‘mab’ oddiwrth ‘blentyn,’ gan ei fod yn golygu un ar raddeg uwch a mwy addfed yn nheulu Duw (Gal 4:1–6). Ni elwir Crist byth yn ‘blentyn,’ ond ‘Mab’ Duw. Duw. 15Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad#8:15 “Gosod yn safle mab.” Cyfeiria Paul at Gyfraith Rhufain ac nid at arferiad yr Iuddewon. Yn ol y blaenaf, yr oedd yr etifedd dewisedig, nid yn unig yn dyfod i feddiant o gyfoeth ond hefyd i safle y rhoddwr ym mhob ystyr. Mor fawr a lluosog, felly, oedd y rhagorfreintiau!, trwy#8:15 Llyth., yn yr hwn, gan gael ein hamgylchynu a'n bywiogi gan ei ddylanwad. yr hwn y llefwn, Abba#8:15 Hefyd yn Marc 14:36 a Gal 4:6. Abba yw y Caldaeg am ‘Tâd.’ Tebygol fod y Cristionogion Cenhedlig yn defnyddio y gair yn eu gweddiau a'u mawl. Iddynt hwy yr oedd Abba fel enw priodol braidd. Una y ddau air y Cenedl‐ddyn a'r Iuddew dan aden eang a gwresog yr un Tâd nefol. Ni fynnodd ein Harglwydd gael enw o'r Hebraeg yn unig, ond cafodd Iesu o honi, a Christ o iaith y Cenedl‐ddyn. Dau enw i wneyd y byd yn un!, Dâd! 16Y mae yr Yspryd ei hun yn cyd‐dystiolaethu â'n hyspryd ni ein bod yn blant#8:16 Tekna, plant, gan awgrymmu y bywyd a'r anian a gynyrchir ynom gan Yspryd Duw; huioi, meibion, gan ddynodi ein safle a'r anrhydedd a roddir arnom. i Dduw; 17ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, a chyd‐etifeddion#8:17 Gwnelai Cyfraith Rhufain bawb o'r plant a'r rhai a fabwysiedid yn gyd‐gyfrannogion cyfartal. â Christ; os yn wir yr ydym yn cyd‐ddyoddef gydag ef, fel y'n cyd‐ogonedder hefyd.
Dyoddefaint y Ffordd i Ogoniant.
18Oblegyd yr ydwyf yn cyfrif nad yw dyoddefiadau yr adeg bresennol hon yn haeddu eu cyferbynu â'r gogoniant sydd ar fedr cael ei ddadguddio mewn perthynas i ni#8:18 ‘Y mae y gogoniant i ddysgleirio hyd attom ni, ac yr ydym i sefyll ynghanol ei ysplander!’. 19Canys dwys‐awyddfryd#8:19 Apokaradokia, ‘un yn edrych allan, neu, yn dysgwyl am beth, a'i ben yn estynedig ymlaen, gan droi ei lygaid i ffwrdd oddiwrth pob gwrthrych arall.’ Defnyddir y gair yma, ac yn Phil 1:20. y greadigaeth#8:19 Ktisis: dynoda y weithred o greu, creadigaeth, a chynnyrch y weithred, creadur. Llawer o farnau ynghylch ei ystyr yma: (1) y greadigaeth ddifywyd; (2) y byd o ddynion nad ydynt gredinwyr; (3) Cenhedloedd annychweledig; (4) Iuddewon annychweledig; (5) Cristionogion; (6) y greadigaeth ar wahan â dyn, sef creaduriaid direswm a'r greadigaeth faterol a difywyd. Y mae yn amlwg mai yr olaf sydd iawn. Melldithiwyd y ddaear trwy bechod (Gen 3:17, 18). Dyoddefa'r byd o'i herwydd. Y mae fel rhyw ochenaid am ymwared yn esgyn o fynwes natur ei hun. Y mae dyhead am nefoedd newydd a daear newydd. Y mae buddugoliaeth a rhyddid meibion Duw i fod yn adnewyddiad i natur ei hun. Y mae sancteiddrwydd dyn a ffrwythlondeb a phrydferthwch byd yn gydfynedol. sydd yn taer‐ddysgwyl#8:19 Defnyddir y gair gan Paul ac yn Heb 9:28. ‘Ymgolli mewn dysgwyliad,’ gan ddangos angerddoldeb yr hiraeth am yr Adgyfodiad. am ddadguddiad meibion Duw. 20Canys y greadigaeth a ddarostyngwyd i oferedd#8:20 Mataiotes, segurdod, diffrwythder, methiant; y greadigaeth, heb gyrhaedd ei hamcan., nid o'i bodd#8:20 Y mae natur megys yn ymgilio oddiwrth lygredd., eithr oblegyd yr hwn#8:20 Nid y Diafol, yr hwn a achlysurodd y Cwymp, neu ddyn, yr hwn a syrthiodd, ond Duw, yr Hwn a gyssylltodd â'r darostyngiad obaith adferiad hefyd. Rhai a ddarllenant, ‘yr hwn a'i darostyngodd mewn gobaith.’ a'i darostyngodd, mewn#8:20 Llyth., ar, ar dir gobaith, gobaith fel sylfaen. gobaith 21y rhyddheir y greadigaeth ei hun o gaethiwed llygredigaeth#8:21 Neu, dadfeiliad. i ryddid gogoniant plant Duw. 22Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cyd‐ocheneidio ac ynghyd mewn gwewyr‐esgor#8:22 Y mae y greadigaeth mewn ing a phoen, ond pangfeydd esgor ar y bywyd newydd ydynt. hyd yn awr. 23Ac nid hynny yn unig, eithr ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth#8:23 Fel ernes o'r cynhauaf toreithiog ydym i'w fedu yn ‘nydd y gogoniant.’ yr Yspryd, — yr ydym ninnau hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan daer‐ddysgwyl#8:23 Defnyddir y gair gan Paul ac yn Heb 9:28. ‘Ymgolli mewn dysgwyliad,’ gan ddangos angerddoldeb yr hiraeth am yr Adgyfodiad. am y mabwysiad#8:23 Sef llawn sylweddoliad o holl ganlyniadau gogoneddus y mabwysiad., sef prynedigaeth ein corph. 24Canys mewn#8:24 Neu trwy obaith. Ond ffydd yw offeryn iachawdwriaeth. Ffydd a drodd ein llygaid at haul gobaith. Rhai a gyfieithant, ‘ni a achubwyd i obaith.’ gobaith y'n hachubwyd: eithr gobaith a welir nid yw obaith: canys pwy sydd yn gobeithio am yr hyn y mae yn ei weled? 25Ond os ydym yn gobeithio am yr hyn nid ydym yn ei weled, yr ydym trwy ddewr‐ymaros#8:25 Hupomonê, dal i fyny dan, dyoddefgarwch dewr, amynedd gwrol. yn taer‐ddysgwyl am dano.
Dyben a Chyflawniad Gogoneddus Cariad Duw.
26Yr un modd hefyd y mae yr Yspryd yn cynnorthwyo#8:26 Sunantilambanetai, ‘cymmeryd gafael gyferbyn gyda,’ fel y fam yn cymmeryd gafael yn y plentyn er ei ddal i fyny neu ei ddysgu i rodio. Yma ac yn Luc 10:40. ein gwendid ni: canys ni wyddom ni am beth y gweddiom megys y dylem#8:26 Rhai a gyfieithant ‘yn ol ein hanghen.’: eithr y mae yr Yspryd ei hun yn erfyn#8:26 Llyth., ‘syrthio i mewn ag’ un, cyfarfod ag un ar ran, er ymddiddan, ymbil, erfyn, deisyf.#8:26 Trosom C L P; gad. א A B D F G Brnd. âg ocheneidiau annhraethadwy#8:26 Yn holl ddyfnderau eu hystyr a'u dymuniad pell‐gyrhaeddol.. 27A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28Ac ni a wyddom fod pob#8:28 Felly א C D Ti. Tr. Diw.; mai Duw sydd yn cyd‐weithio pob peth, A B La. WH. peth#8:28 Nid yn unig dyoddefiadau, ond pob amgylchiad a dygwyddiad. Geiriau Chrysostom pan yn marw oeddynt, ‘Diolch i Dduw am bob peth.’ yn cyd‐weithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef. 29Oblegyd y rhai a rag‐wybu a rag‐ordeiniodd efe hefyd i'w cyd‐ffurfio#8:29 Y mae y saint wedi eu rhag‐ordeinio i feddiannu dynoliaeth ogoneddedig Mab Duw. â delw ei Fab ef, fel y byddai efe y cyntaf‐anedig#8:29 (1) mewn amser; (2) mewn urddas. ym mhlith brodyr lawer: 30a'r rhai a rag‐ordeiniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhâodd efe; a'r rhai a gyfiawnhâodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd#8:30 Edrycha yr Apostol yn ol o saf‐bwynt llawn‐gyflawniad gwaith gras. Cawn yn y gyfres yma feddwl a gweithred Duw yn nhragywyddoldeb, ac mewn amser. Cawn yma (1) rag‐wybodaeth yn y meddwl Dwyfol; (2) rag‐ordeiniad yn yr ewyllys Dwyfol; (3) alwad yn y dynesiad Dwyfol at yr enaid; (4) gyfiawnhâd (gan gynnwys sancteiddhâd) yn y gwaith Dwyfol ar yr enaid; a (5) gogoneddiad fel Coron Ddwyfol ar ben yr oll. efe. 31Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? 32Yr hwn nid arbedodd ei briod fab, ond a'i traddododd drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na rad‐rodda efe i ni bob peth? 33Pwy a ddyg gyhuddiad#8:33 Egkalesei, term cyfreithiol, cyhuddo, galw i gyfrif. yn erbyn etholedigion Duw? Ai Duw, yr hwn sydd yn cyfiawnhau? 34Pwy sydd yn condemnio? Ai Crist Iesu#8:34 Iesu א A C T G; gad. B D. a fu farw, ïe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd o feirw, yr hwn sydd ar ddeheulaw#8:34 Hwn yw yr unig gyfeiriad uniongyrchol at Esgyniad Crist yn yr Epistol. Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni#8:34 Gwell cymmeryd y pedair brawddeg fel gofyniad. Rhai a'u cymmerant fel gofyniad ac atteb.? 35Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad#8:35 Cariad Crist tuag attom ni. Crist? Ai gorthrymder? neu ing? neu erledigaeth? neu newyn? neu noethni? neu berygl? neu gleddyf? 36Megys y mae yn ysgrifenedig#8:36 Peryglon a gorthrymderau yn ddiau a awgrymwyd gan brofiad yr Apostol ei hun. Salm 44:22 (yn llythyrennol o'r LXX), gan gyfeirio yn neillduol at y ‘cleddyf.’:
Er dy fwyn di y lleddir ni ar hyd y dydd,
Cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.#Salm 44:22
37Na! yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na gorchfygwyr#8:37 Ni cheir yr ymadrodd mewn Groeg Clasurol, ond y mae anghen y gair i ddadgan goruchafiaeth tra‐ogoneddus y saint. Y maent yn gorchfygu nid yn unig y gelynion, ond gelyniaeth y gelynion, trwy eu gwneyd yn gyfeillion i Grist. Dyma urdd newydd o orchfygwyr, sef gorchfygu trwy offerynoliaeth eu gelynion! trwy yr hwn a'n carodd#8:37 Yn enwedig trwy arddangosiad y Groes. ni. 38Canys yr wyf yn sicr#8:38 Llyth., ‘wedi fy mherswadio.’ na all nac angau, nac einioes, nac angelion, na thywysogaethau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, na#8:38 Na nerthoedd. Felly א A B C Brnd. [ar ol ‘pethau i ddyfod,’ ac nid ar ol ‘tywysogaethau.’] nerthoedd, 39nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall#8:39 Llyth., gwahanol. ‘Os oes creadigaeth arall o'r golwg, yn bodoli mewn rhywle, nis gall ymyraeth âg etifeddion Duw.’ — Origen. Gweler Eph 1:21. Dyma derfyn Molawd Cariad Duw yng Nghrist, fel diweddglo godidog i esboniad yr Apostol o gyfiawnhad y credadyn trwy ffydd (1–5) a'i sancteiddiad trwy ras (6–8)., ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Rhufeiniaid 8: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.