Rhufeiniaid 4

4
Ffydd Abraham.
1Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein cyndâd#4:1 Yma yn unig yn y T. N. ei gael#4:1 Ennill, meddiannu. Neu darllener, ‘ein cyndâd yn ol y cnawd.’ yn ol y cnawd#4:1 Cyfiawnhâwyd Abraham dair‐blynedd‐ar‐ddeg cyn sefydliad enwaediad.? 2Canys os Abraham a gyfiawnhâwyd trwy#4:2 Llyth., allan o. weithredoedd, y mae ganddo fater ymffrost; ond nid mewn perthynas â Duw#4:2 Ymadrodd tywyll: (1) “Nid oes ganddo fater ymffrost gerbron Duw; oblegyd, fel mater o ffaith, ni chafodd ei gyfiawnhau trwy weithredoedd”; (2) Eraill: “Nid oes ganddo fater i ymffrostio mewn perthynas â Duw, oblegyd ei waith ei hun a'i cyfiawnhâodd.” Y cyntaf yw y mwyaf tebygol.. 3Canys beth a ddywed yr ysgrythyr? A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder#Gen 15:6, LXX. 4Ond i'r hwn sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gyflog o#4:4 ‘Mewn ffordd o.’ ras#4:4 Neu, ‘ffafr.’ ond o#4:4 ‘Mewn ffordd o.’ ddyled. 5Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn#4:5 Llyth., ar. yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder#4:5 Ffydd yw yr hedyn, cyfiawnder yw y ffrwyth addfed.. 6Megys y mae Dafydd hefyd yn llefaru am ddedwyddiad#4:6 Golyga makarismos nid dedwyddwch, ond dadganiad o ddedwyddwch, cyhoeddiad fod un yn ddedwydd; hawddamor, dedwyddiad. y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo ar wahan oddiwrth weithredoedd: 7Gwyn fyd y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau#4:7 Llyth., annghyfreithderau., ac y cuddiwyd eu pechodau. 8Gwyn fyd y gŵr i'r hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod o gwbl#Salm 32:1, 2, LXX#4:8 Cyfansoddwyd y Salm ar ddiwedd blwyddyn o ing, a'r li. pan yn ei ganol. Salm 32 oedd hoff Salm Awstin..
Cyfiawnhad ac Enwaediad.
9A ddaeth y dedwyddiad hwn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd fod ffydd wedi ei chyfrif i Abraham yn gyfiawnder. 10Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd mewn enwaediad, ynte mewn dienwaediad? Nid mewn enwaediad, ond mewn dienwaediad. 11Ac efe a dderbyniodd arwydd#4:11 Gen 18:2. Yr arwydd yw y weithred allanol, y sêl, yr arwyddocad crefyddol. Am gyfammod gesyd Paul cyfiawnder y ffydd, yr hyn oedd ei gynnwys. enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai yn dâd pawb a'r sydd yn credu, er eu bod mewn dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt; 12ac yn dâd yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r rhai hefyd ydynt yn cerdded yn olion ffydd ein tâd Abraham yr hon oedd ganddo mewn dienwaediad.
Cyfiawnhad yn annybynol ar Ddeddf.
13Canys nid trwy ddeddf yr oedd yr Addewid i Abraham neu i'w hâd, y byddai yn etifedd y byd#4:13 Yr oedd Abraham i feddiannu y byd yn ei ddisgynyddion, ‘pob llwyth, iaith a phobl.’ Yr oedd ei hâd yng Nghrist i fod fel y ser., eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14Canys os y rhai sydd o'r ddeddf yw yr etifeddion, y mae ffydd wedi ei gwneyd yn wag#4:14 ‘Yn ddisylwedd, dim ond enw yn unig., a'r Addewid yn ddirym; 15ond y mae y ddeddf yn gweithredu digofaint#4:15 Ac felly y mae cyfiawnhad ac etifeddiaeth allan o gyrhaedd dyn, canys y mae yn cyfansoddi pechod yn ‘drosedd’ i'w gospi.; ond lle nad oes deddf, nid oes trosedd. 16Am hynny o ffydd y mae#4:16 Sef, yr Etifeddiaeth neu yr Addewid, neu y drefn newydd o gyfiawnhau Iuddew a Chenedl‐ddyn trwy ffydd. Cyfyd yr oll o “rad ras.”, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd#4:16 Yr hon oedd yn rhaid i'r Cenedl‐ddyn ei meddiannu yn ogystal a'r Iuddew. Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll, 17(fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer#4:17 Gen 17:5.) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw#4:17 Gan gyfeirio at enedigaeth Isaac, at ei adferiad i Abraham pan oedd ‘gystal a marw,’ ac at Adgyfodiad Crist (ad. 24)., ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent#4:17 Trwy lefaru am hâd Abraham pan nad oedd ganddo blentyn.; 18yr hwn tuhwnt i obaith mewn#4:18 Llyth., ar, ar sylfaen. Gobeithiodd Abraham pan oedd pob ymddangosiad yn ei erbyn. gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di#4:18 Gen 15:5.. 19Ac heb fod yn egwan mewn ffydd, efe a ystyriodd#4:19 Felly א A B C Brnd.; nid ystyriodd D F G. ei gorph ei hun eisoes#4:19 Eisoes A א C D; gad. B F G. wedi ei farweiddio (ac efe ynghylch can mlwydd oed), a marweidd‐dra bru Sara#4:19 Yr oedd Abraham yn ddiobaith, oblegyd gwyddai fod ei gorph ei hun wedi marweiddio a bod bru Sara yn farw o'r dechreu, etto gobeithiodd yn ddiysgog yn addewid Duw.; 20ond gyda golwg ar Addewid Duw nid ammheuodd#4:20 Yr oedd Abraham yn ddiobaith, oblegyd gwyddai fod ei gorph ei hun wedi marweiddio a bod bru Sara yn farw o'r dechreu, etto gobeithiodd yn ddiysgog yn addewid Duw. trwy annghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd#4:20 Nid ‘efe a nerthwyd yn y ffydd,’ ond efe a alluogwyd i fod yn dâd trwy ei ffydd. “Trwy ffydd Sara … a dderbyniodd nerth i ymddwyn hâd” (Heb 11:11) trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, 21ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd; 22ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23Eithr nid ysgrifennwyd hyn er ei fwyn ef yn unig, Y cyfrifwyd iddo, 24eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw, 25yr hwn a draddodwyd o achos ein troseddau ni, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Rhufeiniaid 4: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้

วิดีโอสำหรับ Rhufeiniaid 4