Actau 27
27
Mordaith Paul i Rufain: cyrhaedd Creta, 1–12.
1A phan benderfynwyd i ni hwylio ymaith i'r Ital, traddodasant Paul a rhai carcharorion eraill#27:1 llyth: gwahanol. Rhai a farnant felly mai nid Cristionogion oeddent. Defnyddia Luc allos, arall, a heteros, gwahanol, yn fynych un am y llall. Yr oedd yn arferiad lled gyffredin gan y Rhaglawiaid i anfon Carcharorion at yr Amherawdwr i gael eu profi ganddo. Danfonodd Ffelix rai offeiriaid am drosedd dibwys. i Ganwriad o'r enw Julius#27:1 Ni wyddis dim am dano; ond y mae ei garedigrwydd yn peraroglu eto. Efallai iddo gael awgrym gan ryw un mewn awdurdod i ddangos tynerwch tu ag at Paul., o fintai#27:1 Gweler 10:1; 21:31. Efallai un o'r pum mintai yn Cesarea, y rhai a wasanaethent yr Amherawdwr ar brydiau fel ei osgordd‐lu, ac hefyd mewn cyfeiriadau eraill. Gelwid Samaria Sebaste, a barna rhai mai milwyr Samaria a olygir yma; ond nid yw hyn yn debygol. Ni ddywedir fod y fintai y perthynai Julius iddi yn Cesarea. Y mae dewisolion yr Amherawdwr i ofalu am genad Duw; ac y mae dygwyddiadau y Fordaith i barotoi y ffordd i dderbyniad yr Efengyl yn ‘Mhalas Cesar.’ Augustaidd#27:1 Porthladd yn Mysia, yn ngorllewin Asia Leiaf, gyferbyn a Lesbos. Nid yr un, o gwrs, ag Adrumetum yn Affrica. Yr oedd llawer o fasnach yn cael ei ddwyn yn mlaen yn y lle, ac yr oedd yn dal cysylltiad â lleoedd pwysig eraill, megys Ephesus, Miletus, Pergamus, a Troas.. 2Ac wedi myned i long o Adramyttium#27:2 Porthladd yn Mysia, yn ngorllewin Asia Leiaf, gyferbyn a Lesbos. Nid yr un, o gwrs, ag Adrumetum yn Affrica. Yr oedd llawer o fasnach yn cael ei ddwyn yn mlaen yn y lle, ac yr oedd yn dal cysylltiad â lleoedd pwysig eraill, megys Ephesus, Miletus, Pergamus, a Troas., yr hon oedd ar fedr hwylio i leoedd ar lanau#27:2 llyth: ar hyd, hyny yw, ar arfordir, arforol. Yr oedd y llong ar y ffordd gartref, a chelid cyfle cyn hir i drosglwyddo y carcharorion i long arall ar ei ffordd i Rufain. Asia#27:2 sef, yn benaf, Asia Leiaf. Cawn yn y bennod hon y desgrifiad llawnaf a chywiraf o unrhyw fordaith a gofnodir yn yr hen amseroedd. Y llyfr safonol ar y bennod hon yw Smith: On the voyage and shipwreck of St. Paul., ni a aethom i'r môr#27:2 llyth: ni a arweinwyd i fyny [ar y môr]., a chyda ni yr oedd Aristarchus#27:2 Enwyd ef yn 19:29; daliwyd ef gan yr Ephesiad yn yr ymosodiad a wnaethant ar Paul. Bu gyda yr Apostol yn Ewrop, a dychwelodd gydag ef i Asia (20:4). Enwir ef hefyd gan yr Apostol, Philem ad. 24, Col 4:10. Y mae Luc yn rhoddi enw Aristarchus, ond nid ei enw ei hun., Macedoniad o Thessalonica. 3A thranoeth#27:3 Cawsant dywydd ffafriol. ni a ddaethom#27:3 llyth: a arweiniwyd i waered, sef dyfod at y tir o'r môr; golyga naill a'i glanio neu gyffwrdd. i Sidon#27:3 Tref henafol (Gen 10:19) a phwysig gynt (Jos 11:8; 19:28), a roddwyd yn nosraniad y tir i Aser, ond ni chymerwyd meddiant o honi (Barn 1:31; 10:12). Bu yn llewyrchus iawn dan yr Amherodraeth Bersiaidd, ac yn amser Crist yr oedd yn dref boblog a llwyddianus. Ei henw presenol yw Satda, a'i phoblogaeth tua 6,000.: a Julius a ymddygodd#27:3 llyth: a ddefnyddiodd. yn ddyngarol#27:3 yma yn unig yn y T.N., ‘yn gyfeillgar,’ ‘yn garedig.’ tu ag at Paul, ac a ganiataodd iddo i fyned at ei gyfeillion i gael o'u caredigrwydd#27:3 llyth: i dderbyn sylw, gofal, mewn lletygarwch, lluniaeth, adnerthiad, adfywiad. Tebygol mai Cristionogion oeddent. Yr oedd yr Efengyl wedi ei phregethu yn Phoenicia (11:19); yr oedd ‘brodyr’ yn Tyrus (21:3).. 4Ac wedi myned oddiyno, ni a hwyliasom dan#27:4 fel y byddai Cyprus rhyngddynt a'r gwynt, ar y llaw aswy. Trwy hwylio i'r gogledd nid oedd y gwynt yn eu gwyneb, ac yr oedd rhediad y môr o'u tu. Cyprus, o herwydd fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. 5Ac wedi i ni hwylio dros#27:5 llyth: trwy. y môr ar lanau#27:5 llyth: ar hyd [glanau]. Cilicia#27:5 sef talaethau de‐ddwyreiniol Asia Leiaf. a Pamphylia#27:5 sef talaethau de‐ddwyreiniol Asia Leiaf., daethom i Myra#27:5 Myra, dinas bwysig un amser yn Lycia, yn awr yn adfeilion. Un adeg hi oedd prif‐ddinas eglwysyddol a gwleidyddol Lycia. Hynodid hi am ei beddau a'i chladdfeydd, teilwng o frenhinoedd. Noder y gwahanol ddarlleniadau. Yr oedd Smyrna a Lystra yn rhy bell i fod y lle a nodir yma.#27:5 Myrrha B; Myra L; Moirôn H; Smyrna, 31; Lystra א A. sydd yn Lycia#27:5 Lycia, talaeth dde‐orllewinol Asia Leiaf.. 6Ac yno y Canwriad, wedi cael llong o Alexandria#27:6 Yr oedd Rhufain fel ein dinasoedd mawrion ni, yn ddybynol ar yd o barthau pellenig, yn enwedig yr Aipht. Yr oedd y llong hon yn ‘ymgysgodi’ yn Myra, o achos y tywydd tymhestlog. Dychwelodd Titus i Rufain, ar ol Dinystr Jerusalem, yn un o'r fath longau. Yr oedd hon yn long fawr. yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi. 7Ac wedi hwylio yn araf lawer o ddyddiau#27:7 llyth: mewn dyddiau ddigon., a dyfod trwy anhawsder#27:7 molis (o molos, llafur, lludded), yn anhawdd. gyferbyn a Cnidus#27:7 Dinas yn Caria, gyferbyn a Chios (20:15), yn enwog am addoliad Venus. Yr oedd iddi ddau borthladd cyfleus. Yr oedd 130 o filltiroedd o Myra, ac felly, gyda thywydd ffafriol, gallesid cyrhaedd Cnidus mewn diwrnod neu ddau. Yr oedd y gwynt gwrthwynebus o'r gogledd‐orllewin., am na adawai#27:7 Yma yn unig yn y T.N. Efallai y golyga y frawddeg, ‘am na adawai y gwynt i ni fyned i mewn,’ sef glanio yn Mhorthladd Cnidus. Felly rhaid oedd dychwelyd i gysgod tir Creta, yn nghyfeiriad Salmone. y gwynt i ni, ni a hwyliasom dan#27:7 Ystyr y term morwrol yw, hwylio yr ochr gysgodol i'r gwynt, yn awr i'r ochr ddeheu o Creta. Y mae hon yn un o'r ynysoedd mwyaf yn y Canoldir, tua 150 milltir o hyd a 30 o led. Daeth rhai o'r Cretiaid i Jerusalem i Wyl y Pentecost (2:11), ac yr oedd llawer o honynt yn gredinwyr (Titus 1:10; 3:9). Rhaid fod Paul wedi pregethu yno, er na cheir hanes am hyny. Creta gyferbyn a Salmone#27:7 Pigyn dwyreiniol Ynys Creta.; 8ac wedi morio heibio iddi gydag anhawsder, daethom i ryw le a elwir Porthladdoedd Prydferth#27:8 Machwy bychan i'r dwyrain o benryn Matala. Y mae yn gysgodol oddiwrth y gwynt pan yn chwythu o'r gogledd‐ddwyrain., i'r hwn yr oedd dinas Lasea#27:8 Yn debygol tua phum milltir i'r dwyrain o'r Porthladdoedd Prydferth. yn agos.
9Ac wedi treulio llawer o amser, a'r fordaith eisoes yn beryglus#27:9 Fel rheol, rhoddid morio i fyny am fisoedd y gauaf. Yn ol Vegetius gwnaed hyn o Tachwedd 9fed hyd Mawrth 8fed. Nid oedd y cwmpawd wedi ei ddarganfod, ac os cuddid yr haul, y lloer, a'r sêr, nid oedd gan y morwyr ond ychydig ar y goreu i ddynodi y cyfeiriad yr hwylient., o herwydd fod yr Ympryd#27:9 sef Dydd Mawr y Cymod, ar y 10fed o Tisri, sef tua diwedd Medi neu ddechreu Hydref (Lef 16:29; 23:27; Num 29:7). Hwn oedd yr unig ympryd a ordeiniodd Duw i'r genedl. Arosai yr Iuddew gartref o'r môr rhwng Gwyl y Pebyll a Gwyl y Cysegriad. eisoes wedi myned heibio, Paul a gynghorodd#27:9 Yn y bennod hon yn unig yn y T.N. (yma ac ad 22). Golyga cymeradwyo, cynghori, yn enwedig mewn cynulliad cyhoeddus., 10gan ddywedyd wrthynt, O wyr, yr wyf yn gweled#27:10 theóreó, craffu, dal sylw, gweled yn eglur, ar ol sylwadaeth fanol a llawer o brofiad. Daw ei wybodaeth oruwch‐naturiol i fewn yn ad 23. y bydd y fordaith gyda rhyfyg#27:10 hubris, sarhâd, haerllygrwydd, gorhyfder, rhyfyg. Rhai a gyfieithant niwed, y niwed a gyfyd o weithred ryfygus un arall. Rhai a farnant mai ffyrnigrwydd neu greulondeb yr ystorm a olygir, ond credwn mai rhyfyg y bobl a fynent forio yn ngwyneb y perygl a olygir. a llawer o golled, nid yn unig o'r llwyth a'r llong, eithr o'n bywydau ni hefyd. 11Eithr y Canwriad a ddarbwyllwyd gan lywydd a pherchen y llong#27:11 Yr oedd o bwys i berchen y llong i ddadlwytho mor fuan ag oedd bosibl, er nad oedd yn gobeithio cyrhaedd Rhufain cyn y gwanwyn. yn hytrach na chan y pethau a lefarwyd gan Paul. 12A chan fod y porthladd yn anghyfleus#27:12 yma yn unig; llyth: heb ei osod yn dda. er gauafu, y mwyrif a roisant gynghor i forio oddiyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phœnix#27:12 Tebygol yr un a Lutro, 40 milltir i'r gorllewin o'r Porthladdoedd Prydferth. Hwn yw yr unig le dyogel i longau mawrion ar y glanau hyn o Creta., i auafu yno, porthladd yn Creta sydd yn edrych tua'r gogledd‐ddwyrain#27:12 llyth: yn edrych i lawr wynt y de‐orllewin ac i lawr wynt y gogledd‐orllewin, hyny yw, i'r cyfeiriad y chwythent. Lips, gwynt y de‐orllewin, Chorus, gwynt y gogledd‐orllewin. Rhai a farnant y dylem ddarllen yn y testyn, ‘yn edrych tua'r deheu‐orllewin a'r gogledd‐orllewin.’ Y mae yr oll yn ymddybynu ar ystyr kata o flaen y geiriau hyn; os golyga tu ag at, gan bwysleisio y cyfeiriad o ba un y daw y gwynt, yna ‘deheu‐orllewin a'r gogledd‐orllewin’ a ddylai fod; os golyga kata, i lawr, hyny yw, y cyfeiriad i'r hwn y maent yn chwythu, yna cyfieither fel yn y Testyn. Y mae ffurf porthladd Lutro yn cyfateb yn hollol i'r olaf. a'r deheu‐ddwyrain#27:12 llyth: yn edrych i lawr wynt y de‐orllewin ac i lawr wynt y gogledd‐orllewin, hyny yw, i'r cyfeiriad y chwythent. Lips, gwynt y de‐orllewin, Chorus, gwynt y gogledd‐orllewin. Rhai a farnant y dylem ddarllen yn y testyn, ‘yn edrych tua'r deheu‐orllewin a'r gogledd‐orllewin.’ Y mae yr oll yn ymddybynu ar ystyr kata o flaen y geiriau hyn; os golyga tu ag at, gan bwysleisio y cyfeiriad o ba un y daw y gwynt, yna ‘deheu‐orllewin a'r gogledd‐orllewin’ a ddylai fod; os golyga kata, i lawr, hyny yw, y cyfeiriad i'r hwn y maent yn chwythu, yna cyfieither fel yn y Testyn. Y mae ffurf porthladd Lutro yn cyfateb yn hollol i'r olaf..
Y Llong‐ddrylliad.
13A phan chwythodd y deheu‐wynt yn fwynaidd#27:13 llyth: chwythodd danodd, yn isel, araf, mwynaidd; anadlodd yn dyner. Yn ad 7, 8, yr oedd gwynt y gogledd yn chwythu. Felly y mae wedi troi., a hwy yn tybied eu bod wedi enill#27:13 ‘wedi cael yn eu gafael.’ eu hamcan, wedi codi#27:13 llyth: codi (megys angor, hwyliau, &c.), yna symud, symud yn mlaen, naill ai ar dir neu fôr. (Thucydides 1:52)., yr angor, moriasant yn mlaen yn agosach#27:13 Gr. Asson. Rhai (o'r Vulgate i lawr) a gamsyniasant yr adferf asson, ‘yn agosach,’ am enw priodol, Assos, ‘a hwy wedi hwylio [llaesu] o Assos.’ Hwn oedd cyfieithiad y Cyfieithiadau Seisnig cyn 1611, gyda'r eithriad o'r Geneva. i Creta. 14Ond nid ar ol llawer o amser curodd i lawr oddiwrthi#27:14 Nid (1) yn erbyn eu hamcan, neu (2) yn erbyn y llong, neu (3) yn erbyn yr ynys, ond (4) i lawr o'r ynys. Y mae hyn yn gyson a'r desgrifiad, oblegyd cawsant eu gyru allan i'r môr. wynt tymhestlog#27:14 Tuphônikos, o tuphôn (typhoon), corwynt, trowynt, gyrwynt, corwynt y moroedd dwyreiniol. yr hwn a elwir Euracwilo#27:14 sef gwynt y gogledd‐ddwyrain (yn y Groeg, Coecias), neu, yn fwy cywir, gwynt y dwyrain‐ogledd‐ddwyrain.#27:14 Euracwilo א A B Brnd.; Euryclydon B2; Euroclydon Test. Derb.. 15A phan gipiwyd#27:15 neu, a ddaliwyd, megys yn nghrafangau y corwynt, fel bwystfil rheibus a chreulon. y llong, a hi heb allu i wrth‐wynebu#27:15 llyth: edrych yn llygad, neu yn ngwyneb. Dywedir fod llygad yn cael ei baentio yn fynych ar ben blaen y llongau gynt, ond y mae ‘llygad y gwynt’ yn ddywediad cyffredin yn mhlith gwahanol genhedloedd. y gwynt, ni a roisom i fyny#27:15 ein hunain, neu, yn hytrach, y llong., ac a yrwyd#27:15 llyth: a ddygwyd, a gariwyd yn mlaen. o'i flaen. 16Ac wedi rhedeg dan ryw ynys fechan a elwir Cauda#27:16 Ynys fechan ar lan ddeheuol Creta, ac i'r de‐orllewin o Benryn Matala. Ysgrifenid yr enw yn gyffredin Cauda yn y ganrif gyntaf, a Clauaa yn yr ail.#27:16 Cauda B La. Tr. WH. Diw.; Clauda א A H L Ti., gydag anhawsder y buom alluog i sicrhau#27:16 llyth: i feistroli. Yr oedd y bâdau yn glymedig wrth y llong, ac yn cael eu tynu ganddi trwy y dwfr; ond mewn tymestl yr oeddent mewn perygl o gael eu golchi ymaith; felly mor gynted ag y daethant i gysgod Cauda, gwnaethant ymdrech i godi y bâd a'i sicrhâu ar y bwrdd. y bâd; 17ac wedi ei godi i fyny, hwy a ddefnyddiasant gynorthwyon#27:17 sef, rhaffau, cadwynau, &c., y rhai a rwymid am y llong; felly golygir yma, croesdynu taclau y llong er mwyn eu gwneuthur yn dynach a'u cadw yn gryfion. Gwnelid hyn yn fynych yn yr hen amseroedd. Gwnaeth y Cadben George Back hyn pan yn dychwelyd o dueddau Pegwn y Gogledd., gan wregysu y llong oddi dani; ac yn ofni y bwrid hwynt ar y Syrtis#27:17 Nid enw cyffredin, sugn‐draeth, ond priodol, Y Syrtis. Yr oedd dau draethell neu le bas o'r enw, sef y Syrtis Mwyaf a'r Syrtis Lleiaf. Yr oeddent mewn perygl o redeg ar y blaenaf. Y mae hwn rhwng Tripoli a Barca, yn Affrica, i'r de‐orllewin i Creta. Gelwir ef yn awr Llynclyn Sidra., hwy a ostyngasant y ger#27:17 skeuos, llestr, offeryn; yma, yr hyn a berthynai i'r llong, fel rhaffau, hwyliau, &c., sef, yn debygol, yr hwyl‐lath fawr a'r hwyl fawr yn gysylltiedig a hi., ac felly a yrwyd yn mlaen. 18A ni yn cael ein blino yn enbyd gan y dymhestl#27:18 Cheimazo [o cheima, tywydd ystormus, gauaf], blino á thymhestl, taflu gan donau, &c., ‘A ni yn cael ein taflu gan y tonau, y dymhestl,’ &c., tranoeth hwy a ysgafnhasant y llong#27:18 llyth: hwy a wnaethant dafliad allan. Gweler Jonah 1:5. Y mae y ferf yn yr amser anmherffaith, ‘hwy a ddechreuasant wneyd tafliad allan.’ Yr oedd llwyth y llong, yn ddiamheu, yn gynwysedig o yd. Y mae yr ymadrodd yma yn wahanol i'r un yn ad 38.; 19a'r trydydd dydd hwy#27:19 hwy a fwriasant א A B C Brnd.; ni a fwriasom H L. a fwriasant allan â'u dwylaw eu hunain daclau#27:19 dodrefn, cludlwythi y teithwyr, &c. y llong. 20A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am ddyddiau lawer, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnom, o hyny allan pob gobaith o'n cadw a ddygwyd ymaith#27:20 llyth: a ddygwyd ymaith o amgylch, fel nad oedd gobaith mewn unrhyw gyfeiriad. Yr oedd yn ddu ar dde ac aswy. Y mae yn debygol fod y llong wedi ymagenu a bod y dwfr yn gyflym redeg iddi. Awgrymir hyn gan iddynt ysgafnhâu y llwyth dro ar ol tro.. 21Ac wedi bod lawer o amser heb ymborth#27:21 Neu, a hir [llawer o] ympryd wedi bod o'r aechreu., yna y safodd#27:21 Neu, a gymerodd ei safle, fel eu cynghorwr a'u capten. Paul yn eu canol, ac a ddywedodd, O wyr, Yr oedd yn wir yn anghenrheidiol#27:21 Neu, dylasech. i chwi ufyddhâu#27:21 ufyddhau i lywodraethwr, rhoi ffordd i awdurdod. Yr oedd Paul wedi llefaru fel ei Feistr fel ‘un ag awdurdod ganddo.’ i mi, a pheidio morio o Creta, ac felly osgoi#27:21 llyth: enill; ond defnyddir y gair weithiau yn yr ystyr o osgoi, ymgadw, neu dianc rhag colled, niwed, &c. y rhyfyg#27:21 gweler adnod 10. Amryw a gyfieithant hubris, ‘rhyferthwy,’ ‘ffyrnigrwydd’ yr ystorm. a'r golled hon. 22Ac yr awrhon#27:22 ‘dan yr amgylchiadau presenol.’ Er iddynt wrthod ei gynghor blaenorol, eto parhâ i wneyd yr hyn a all er eu lles. Rhaid dyfal‐barhâu gyda'r gwaith o achub. yr wyf yn eich anog#27:22 Yr un ferf ag yn ad 9, cymeradwyo, cynghori. i fod yn galonog#27:22 llyth: o feddwl da, ‘yr wyf yn eich anog i gymeryd calon.’: canys ni fydd dim colled#27:22 llyth: tafliad allan, gwrthodiad, fel pe buasai y dymhestl a'r môr, fel dialyddion y Goruwch‐naturiol, yn ‘bwrw allan’ neu yn ‘gwrthod’ iddynt eu bywydau. am einioes#27:22 Yn y Porthladdoedd Prydferth dywedodd Paul y byddai colled o fywyd yn ogystal ag o'r llwyth. Yno llefarai fel dyn sylwgar, gan ddamcanu yr hyn oedd debygol i ddygwydd; ond yma llefara fel cenad Duw, yr hwn oedd wedi cael dadguddiad diamwys o'r hyn oedd bwriad y Nefoedd. yn eich plith ond am y llong. 23Canys safodd yn fy ymyl#27:23 Yn debygol, nid mewn breuddwyd, ond mewn gweledigaeth eglur. Safodd yr Angel yn ei ymyl. Nid drychiolaeth ydoedd, ond ffaith sylweddol. y nos hon angel y Duw#27:23 Llefarai Paul wrth baganiaid, ac felly yr oedd yn anghenrheidiol iddo lefaru yn eglur mai nid cenad eu duwiau hwy, megys Mercuri, ydoedd, ond cenad ei Dduw, a'r unig Dduw. yr Hwn a'm pïau#27:23 Dyma'r deffiniad byraf a chyflawnaf o wir grefydd. Y mae bywyd ac ymarweddiad yn ogystal a chredo yn y geiriau., a'r Hwn yr wyf yn ei wasanaethu#27:23 Neu addoli, fel yn Rhuf 1:9. Y mae gwasanaeth ac addoliad yn toddi i'w gilydd. Yr oedd y morwyr a'r teithwyr wedi bod yn lygad‐dystion o arferiad yr Apostol i addoli. Ni esgeulusai hyn yn ngwydd y byd, gan osod ei lamp dan lestr. Mor debyg oedd iaith Jonah i eiddo Paul (Jon 1:9), ond mor wahanol ei ymddygiad!, 24gan ddywedyd, Nac ofna#27:24 Yr un ymadrodd a phan yr ymddangosodd yr Arglwydd iddo yn Corinth., Paul: rhaid i ti sefyll ger bron Cesar#27:24 Ac felly nid oedd i gael ei golli yn y llong‐ddrylliad. Yr oedd wedi apelio at Cesar; yr oedd hyn mewn canlyniad i gymhelliad Duw, ac felly yr oedd ei fywyd yn ddyogel. (Gweler 11:28; 17:7; 25:8–12; 26:32). Ystyrir 2 Tim 4:16, 17, fel yn cyfeirio at ymddangosiad Paul o flaen Nero; — y fath gyfarfyddiad!: ac wele, y mae Duw wedi rhoddi#27:24 ‘wedi rhoddi yn rhad, fel ffafr.’ Yr oedd Paul wedi bod yn gweddïo am arbediad bywydau ei gyd‐deithwyr. Wele ateb i'w weddi. Arbedir y llawer er mwyn yr un. Arbedasid miloedd annuwiol Sodom er mwyn deg o ddynion duwiol. Mor ddyledus yw y byd i weision Duw, ac eto nid yw yn gweled ac yn cydnabod hyny. i ti yr holl rai sydd yn hwylio gyda thi. 25Mewn canlyniad, O wyr, ymgalonogwch, canys yr wyf yn credu i Dduw#27:25 Nid oedd cenadwri yr Angel ond cenadwri Duw. mai felly y bydd yn ol y modd#27:25 Y mae ffydd ddiysgog yn wastad yn cael ei gwobrwyo. y dywedwyd i mi. 26Ac ar ryw ynys y mae yn rhaid#27:26 Yn ol cynllun a bwriad Duw. Nid yw y dymhestl ond yn gwneyd ei arch. Nid yn unig dadguddiwyd i Paul ffaith, ond hefyd modd eu gwaredigaeth. ein bwrw allan.
27A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg#27:27 wedi ymadael o'r Porthladdoedd Prydferth., a ni yn cael ein gyru#27:27 llyth: yn cael ein dwyn [cario] trwy. Yr oedd y gwynt o wahanol gyfeiriadau; felly nid yn gymaint ‘yn ol a blaen’ ag ‘yma ac acw.’ yma ac acw yn Adria#27:27 Nid yw Adria yma i gael ei gyfyngu i'r hyn a olygir yn bresenol wrth y Môr Adriaidd, sef Llynclyn Venice, ond estynai o Groeg a'r Ital i Affrica. Efe ydoedd y rhan ganolog o For y Canoldir rhwng Sicily a Groeg., tua haner nos yr oedd y morwyr yn lled‐dybied eu bod yn neshâu at ryw wlad#27:27 llyth: fod rhyw wlad yn neshau atynt. Ymddengys y tir fel yn neshâu at y llong, pan y mae yr olaf yn gwneyd am y blaenaf. Nis gallent weled, ond lled debyg y clywent y tonau yn tori ar y làn. Cymharer yr adroddiad a roddir gan Josephus am ei fordaith beryglus i Rufain, pan yr oedd 600 ar y bwrdd. (Ei Fywyd, pen 3).; 28ac wedi plymio hwy a'i cawsant yn ugain gwrhyd#27:28 o chwe' troedfedd, sef hyd breichiau dyn pan yn estynedig. Llyth: ‘hwy a gawsant ugain gwrhyd’ (o ddwfr).: ac wedi myned ychydig pellach#27:28 llyth: ac wedi sefyll ar wahan ychydig., a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bumtheg gwrhyd#27:28 Y mae Machwy St. Paul yn Malta yn cyfateb yn hollol i'r fan a ddesgrifir yma.. 29A chan ofni rhag dygwydd i ni syrthio ar hyd lleoedd geirwon#27:29 neu, lleoedd creigog neu creigiau., hwy a fwriasant allan bedair angor#27:29 Yr oedd llongau mawrion yn cario llawer o angorau. Enwa Athenaeus un ag wyth angor yn perthyn iddi. Llefara Cesar am longau a phedwar, (Bell. Civ. 1:25). Yr oedd yr angorau gynt yn llai o lawer mewn maintioli na'r rhai presenol. o'r pen ol#27:29 Fel rheol, angorid o'r pen blaen, ond yr oedd gollwng yr angorau o'r pen ol a thuedd i gadw y llestr yn fwy sefydlog pan yr oedd yn rhedeg o flaen y gwynt. Yn Mrwydr Copenhagen angorodd Arglwydd Nelson yr un modd wedi darllen y bennod hon y boreu hyny., ac yr oeddent yn dymuno ei myned hi yn ddydd. 30A'r llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i waered i'r môr, mewn rhith fel ar fedr estyn allan angorau o'r pen blaen#27:30 fel ag i sicrhau diysgogrwydd yr oll o'r llong, yn mlaen ac yn ol; ond sicrhau y bád, ac nid y llong oedd eu hamcan. Yr oedd eu rhagrith yn gwneuthur eu hunangarwch yn dduach., 31dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwyr, Oni erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig#27:31 Yr oedd Duw wedi ordeinio y moddion yn ogystal â'r waredigaeth. Yr oedd anghen y morwyr i achub y llong. Y mae Duw yn defnyddio dynion galluog yn, a chyfarwydd a'r, gwaith.. 32Yna y milwyr a dorasant ymaith raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymaith#27:32 Enghraifft o ddylanwad Paul ar y Rhufeinwyr. Gwrthodasant ei gynghor ar y cyntaf (ad 11), ond yn awr efe yw ‘capten’ yr oll.. 33Ac hyd nes oedd y dydd ar fedr dyfod#27:33 Hyny yw, bu Paul yn cynghori tra yr oedd y nos yn parhâu. Adeg gweithio fyddai toriad y dydd., yr oedd Paul yn anog pawb#27:33 hapantas ‘pawb gyda'u gilydd,’ ‘pawb oll.’ gyda'u gilydd i gyfranogi o luniaeth, gan ddywedyd, Hwn yw y pedwerydd diwrnod ar ddeg yr ydych yn disgwyl#27:33 i'r dymhestl dawelu. ac yn parhau heb fwyd, heb gymeryd dim#27:33 Hyny yw, heb gymeryd bwyd yn ei bryd, ac heb gyfranogi ond o ychydig. Yr oedd ofn a phryder wedi tynu ymaith archwaeth at fwyd.. 34Am hyny yr wyf yn eich anog i gyfranogi o luniaeth, canys hyn sydd er eich dyogelwch#27:34 neu, gwaredigaeth. Yr oedd eisieu yni a nerth pan ddelai y dydd er sicrhâu eu dyogelwch.: canys blewyn o ben un o honoch#27:34 Ymadrodd diarebol am ddyogelwch perffaith. ‘Ni syrth’ geir yn yr Hen Destament. (2 Sam 14:11; 1 Br 1:52). Y mae yr Apostol yn adnewyddu addewid ei Feistr (Luc 21:18). ni#27:34 ni chollir א A B C Brnd.; ni syrth H L. chollir. 35Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a chymeryd bara, efe a ddiolchodd i Dduw yn eu gwydd hwynt oll, ac wedi ei dori efe a ddechreuodd fwyta#27:35 Y mae yn rhoddi esiampl yn ogystal a chynghor. Ni chawn ef yma yn cadw ‘Swper yr Arglwydd,’ ond, yn ol ei arfer, yn diolch i Dduw am ei fwyd, ac yn ei gydnabod am ei ddaioni. Gwnelai bob peth yn grefyddol. Yr oedd pob pryd o fwyd yn ‘gymun’ iddo ef. Yn ‘mhob dim’ diolchai. Nid oedd brys, nac ofn gwatwaredd y bydol a'r paganaidd, na'r perygl oedd yn eu bygwth, yn newid dim ar arferiad yr Apostol. Gweler 1 Tim 4:3–5.. 36A hwy oll wedi dyfod yn galonog, hwy eu hunain hefyd a gymerasant luniaeth. 37Ac yr oeddem yn y llong, yr holl eneidiau, yn ddau#27:37 Felly א C H L Brnd.; ynghylch un‐ar‐bumtheg a thri‐ugain B. cant ac un‐ar‐bumtheg a thri‐ugain. 38Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant#27:38 Nid yr un frawddeg ag yn ad 18, ond yma defnyddir y term morwrol arferol am ysgafnhâu y llong. Defnyddir yr amser anmherffaith: ‘hwy a aethant i ysgafnhâu,’ ‘a ddechreuasant ysgafnhâu.’ y llong, gan fwrw allan y gwenith#27:38 Nid y bwyd oeddent wedi ei ddarparu yn y llong, ond y llwyth. Nid oedd y blaenaf yn fawr. Llong ydoedd o Alexandria i Rufain, a chawsai y Ddinas Amherodrol ei chyflenwad o wenith yn benaf o'r Aipht. i'r môr. 39A phan aeth hi yn ddydd nid oeddent yn adnabod y tir#27:39 Yr oedd Machwy St. Paul yn mhell o borthladd enwog Malta. Nid yw yn debygol fod y morwyr o Alexandria wedi gweled o'r blaen yr ochr hon i'r ynys.: ond hwy a ganfuant ryw gilfach#27:39 llyth: mynwes; yna, cilfa, cysgodfa, ceugant, cilfach. a thraeth#27:39 Aigialos, traeth o dywod, traeth llyfn a gwastad, yn rhydd o greigiau a cherig: ac felly yn wahanol i aktê (gweler 21:5; Mat 13:2). iddi, i'r hon y cynghorasant, os gallent, wthio y llong. 40A chan fwrw ymaith#27:40 llyth: gan godi o amgylch, hyny yw, eu tori ymaith, ac yna eu gollwng i'r môr, fel heb fod mwyach o un defnydd, ac hefyd fel ysgafnhâd i'r llong. yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y môr, gan ollwng ar yr un pryd rwymau y llywiau#27:40 Yr oedd gan y llongau mwyaf ddau lyw, un o bob ochr yn y tu ol, o'r un ffurf a rhwyf. Cylymid y ddau wrth eu gilydd gan rwymau er eu cadw yn eu lle. Yr oedd y llywiau wedi eu codi a'u sicrhau gan y rhwymau pan yr angorwyd; ond yn awr llaeswyd y rhwymau, ac felly gollyngwyd y llywiau i'w lleoedd, er mwyn eu defnyddio i roddi cyfeiriad i'r llong tu ag at y traeth.: A chan godi y flaenhwyl#27:40 artemón. Ni ddefnyddir y gair mewn un man arall; eto, y mae ei ystyr yn amlwg. Ni olyga yr hwyl fawr, ond yr hwyl fechan, y flaen‐hwyl. Y mae hwyl fechan a Duw yn ddigon i ddwyn y llong i dir. i'r awel#27:40 llyth: i'r chwythiad, h.y., i'r gwynt, i'r awel., hwy a gyfeiriasant#27:40 llyth: a ddaliasant i lawr, hyny yw, a lywiasant y llong trwy ddal y llyw i lawr. at y traeth. 41Ond wedi syrthio i le deufôr‐gyfarfod#27:41 Yn Machwy St. Paul y mae ynys fechan o'r enw Salmonetta, yr hon a wahanir oddiwrth y tir gan feinfôr o tua chan llath o led. Hwn a dybir oedd y ‘lle deufôr‐gyfarfod’ a nodir yma. Rhai a gymerant y geiriau yn yr ystyr o ‘le yr oedd môr bob ochr iddo.’ Gellir defnyddio y gair am ddwfr yn uno dau fôr fel y Bosphorus yn ogystal a thir fel Culdir Corinth., hwy a redasant y llong#27:41 naus yma ac nid ploion, yr hwn a ddefnyddir 13 o weithiau yn y Bennod hon. Hwn yw yr unig fan y defnyddir naus yn y T.N. Ac y mae yn awgrymiadol. Yr oedd y llong o'r blaen yn ploion, un yn hwylio (plein); ond yn awr y mae yr hwyliau a'r angorau a'r oll wedi eu colli, ac nid ydyw bellach ond naus, rhywbeth i nofio (nein), os gall wneyd hyny. i dir; a'r pen blaen a darawodd#27:41 neu, a lynodd (yn y tywod). ac a arosodd yn ddiysgog, ond y pen ol a ymddatodai#27:41 a ddechreuodd fyned yn ddarnau ‘gan nerth y tonau.’ gan ruthr y tonau#27:41 y tonau C; gad. א A B.. 42A chynllun y milwyr#27:42 Yr oedd y milwyr Rhufeinig yn atebol am gadw y carcharorion yn ddyogel. Marwolaeth oedd y gosp os methid yn hyn. Yr oedd y milwyr wedi cynllunio hyn yn eu plith eu hunain heb yn wybod i'r Canwriad. Ei ‘cynllwyn’ hwy ac nid ei ‘gynllun’ ef ydoedd. Mor anniolchgar oeddent ar ol gweled eu bod hwy yn ddyledus i Paul am eu dyogelwch! ydoedd lladd y carcharorion rhag i neb o honynt, trwy nofio allan, ddianc. 43Ond y Canwriad, yn dymuno cadw#27:43 llyth: cadw trwy, yn hollol, cadw yn ddyogel. Paul, a'u rhwystrodd yn eu dymuniad#27:43 llyth: a rwystrodd iddynt eu dymuniad neu eu hamoan.; ac a archodd i bawb a fedrai nofio ymfwrw#27:43 llyth: ymaith. i'r môr, a myned yn gyntaf i'r tir; 44ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar bethau o'r llong#27:44 Yr oedd Paul wedi bod mewn pedair llong‐ddrylliad cyn hyn, 2 Cor 11:25. Yr oedd, fel ei Feistr, yn fawr fel dyoddefydd yn ogystal ag fel gweithiwr.. Ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddyogel i'r tir#27:44 Yn ol y sicrhâd a roddwyd i Paul yn ad 24, er yr holl beryglon oddiwrth (1) yr ystorm, (2) y morwyr, ad 30, (3) y milwyr, ad 42. Rhai yn ddiamheu, a ddygwyd i dir dyogelwch ysprydol. Daethant trwy y dymhestl o'r Porthladdoedd Prydferth, ac efallai iddynt gyrhaedd y Porthladd Prydferthaf a'r ‘Hafan Ddymunol’ trwy yr ystorm hon dan gyfarwyddyd ac arweiniad Paul. Yr oedd i'r llong hon ei pherchenog a'i llywydd (ad 11). Perchenog y bywyd‐fâd ysprydol yw Crist, a'r Capten yn awr ydoedd Paul, a thrwy y Meistr a'i Was cyrhaeddodd rhai Fachwy y Bywyd Newydd yn ddyogel.’.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Actau 27: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.