Actau 26
26
Ymddiffyniad Paul o flaen Agrippa a Ffestus.
1Ac Agrippa#26:1 Agrippa, o herwydd ei urddas ei hun a moesgarwch Ffestus, a lywyddai. a ddywedodd wrth Paul, Caniateir#26:1 Golyga y ferf yn yr awduron clasurol, ymddiried; yn y T.N. caniatâu. i ti lefaru am#26:1 am danat [peri] א A C E Ti. Tr. Al.: drosot [huper] B L WH. Diw. danat dy hun. Yna Paul, gan estyn ei law#26:1 Efallai, y llaw am yr hon yr oedd y gadwyn (ad 29). Estynodd ei law, nid i gael dystawrwydd (12:17), ond i ddangos ei ddifrifoldeb a'i benderfyniad i amddiffyn y gwirionedd., a wnaeth ymddiffyniad#26:1 Yr un ferf ag yn 19:33; 24:10. Golyga yn llyth: llefaru ymaith, yna, llefaru er osgoi cosp, felly, ateb, ymddiffyn.:
2Am yr holl bethau o'r rhai y'm cyhuddir gan Iuddewon#26:2 Enwir hwynt ganddo bedair gwaith yn adnodau 2–7. Arferai hunaniaethu ei hun â hwynt (23:6), ond yn awr ymddydola oddiwrthynt., O Frenhin Agrippa, tybiwyf#26:2 llyth: yr wyf wedi meddwl. fy hun yn ddedwydd pan ar fedr gwneyd ymddiffyniad ger dy fron di heddyw; 3yn enwedig gan dy fod di yn gydnabyddus#26:3 Yr oedd wedi ei addysgu yn ofalus gan ei dâd yn y defodau Iuddewig, ac yr oedd yn gyfarwydd â'r prophwydoliaethau a manylion y Gyfraith. Efe oedd Llywodraethwr a Cheidwad y Deml. Hwn oedd pumed Ymddiffyniad Paul. Yr oedd wedi gwneuthur dau o flaen Iuddewon, a dau o flaen Cenhedloedd (21:39, 40; 22:30; 24:1; 25:6, 7). Yn awr, y tro olaf, saif megys o flaen y byd, Cenhedlig ac Iuddewig, fel y cynrychiolid ef gan Agrippa a Ffestus. â'r holl ddefodau ac hefyd a'r cwestiynau sydd yn mhlith yr Iuddewon; o herwydd paham yr wyf yn deisyf arnat fy ngwrando yn amyneddgar. 4Fy muchedd#26:4 Biôsis [Yma yn unig yn y T.N. Nid yw yn yr awduron clasurol], ymarweddiad, buchedd. yn wir gan hyny o'm mebyd, yr hon fu o'r dechreuad yn mhlith fy nghenedl ac yn Jerusalem, a wyr yr holl Iuddewon#26:4 Er ei eni yn Tarsus, symudodd yn fore i Jerusalem, efallai, er mwynhau manteision yr Ysgolion Rabbinaidd. Dywedodd yn 22:3 iddo gael ei ‘ddwyn i fyny yn y Ddinas hon.’, 5gan fy adwaen o'r blaen o'r cychwyn, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y blaid#26:5 hairésis, sect, plaid, yn ddiweddarach, heresi, cyfeiliornad. fanylaf#26:5 Gair a ddefnyddir yn fynych gan Josephus am Sect y Phariseaid. o'n Crefydd#26:5 Crefydd yn ei hallanolion, defodau, seremoniau, arferion, &c. Gweler Iago 1:26, 27; Col 2:18. Yn y LXX. defnyddir y gair am addoliad delwau. y bu'm fyw yn Pharisead. 6Ac yn awr am#26:6 llyth: ar, ar sail, ar gyfrif y gobaith a gynyrchir gan yr Addewid. obaith yr Addewid#26:6 Nid yr Adgyfodiad, ond holl Addewid Duw a wireddir ac a ategir gan yr Adgyfodiad. Yma y Messia a'i Deyrnas. Am dano Ef yr oedd yr holl genedl yn disgwyl. a wnaed i'n Tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i'm barnu; 7i'r hon Addewid y mae ein Deuddeg‐Llwyth#26:7 Deuddeg‐Llwyth, un gair cyfansawdd yn y gwreiddiol. Ychydig o gyfeiriadau geir yn y T.N. at y gwahanol lwythau (gweler Luc 2:36; Iago 1:1; Dad 7:4–8). Er mai dau lwyth a enwir fel wedi dychwelyd o'r Caethiwed, eto yr oedd llawer yn perthyn i lwythau eraill yn eu plith (Ezra 1:5; 6:17, &c.); ac ni chafodd yr oll o'r Deg eu caethgludo. Y mae Paul yn apelio oddiwrth Iuddewon Jerusalem at ddisgwyliad Iuddewon y byd, ac y mae disgwyliad yr oll yn reswm cryf dros ei gredo ei hun., gan wasanaethu Duw mewn dyfalwch#26:7 llwyrfrydigrwydd, dyfal‐barhâd, taerineb, difrifoldeb. nos a dydd, yn gobeithio dyfod#26:7 dyfod o hyd, cyrhaedd, goddiweddyd.. Am y gobaith hwn y'm cyhuddir gan Iuddewon#26:7 Nid gan yr holl genedl, ‘y Deuddeg llwyth,’ ond gan blaid neu unigolion. ‘Y mae yr holl genedl yn dyheu am Ddyfodiad y Messia; y mae prawfion di‐ymwad ei fod wedi dyfod; eto fe’m cyhuddir am bregethu hyny: y fath anghysondeb’!, O#26:7 gan Iuddewon, O Frenhin א B C E Brnd. Frenhin. 8Paham#26:8 Rhai a ddarllenant (Beza, Griesbach, Lange, Conybeare, Alexander, &c.) ‘Beth! a fernir yn anghredadwy yn eich plith os,’ &c.? Ond ni ddefnyddir ti, ‘paham,’ yn y modd hyn yn y T.N. Gweler Rhuf 3:3; Phil 1:18. Y mae y Cyfieithiad yn y Testyn yn fwy cydweddol a'r amgylchiad ac a thawelwch meddwl Paul. y bernir yn anghredadwy yn eich plith chwi#26:8 yn bwysleisiol, ‘y rhai sydd yn disgwyl am y fath bethau mawrion, ac yn gwybod am fwriadau a gallu Duw.’ os yw Duw yn cyfodi y meirw? 9Myfi yn wir a dybiais ynof#26:9 llyth: a dybiais i mi fy hun. fy hun y dylaswn wneuthur#26:9 weithredu, cario allan, cyflawnu (praxai). llawer o bethau yn wrthwynebol i Enw Iesu y Nazarëad#26:9 Neu, o Nazareth; enw dynol a gwahanieithol Crist. Defnyddia Paul yr enw yma o saf‐bwynt ei fywyd a'i ymddygiad cyn ei Droedigaeth, pan nad ystyriai ‘y Nazaread’ y Messia.. 10Yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem: a llawer o'r Saint#26:10 Gweler 9:13, 32, 41. Gwna Paul amddiffyn cymeriad y Cristionogion fel rhai sanctaidd o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr. Y mae hefyd yn y gair gyfaddefiad o'i gamsyniad cyntefig. hefyd a gauais i i fyny mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch‐offeiriaid; a phan yn cael eu rhoddi i farwolaeth#26:10 llyth: eu cymeryd ymaith. Stephan oedd yr unig ferthyr y rhoddir hanes am ei farwolaeth, ond yn ddiameu, darfu i lawer eraill gael eu lladd., mi a roddais bleidlais#26:10 llyth: dygais bleidlais. Nid yw yn debygol fod Paul yn aelod o'r Sanhedrin, er ei fod yn debygol o deulu cyfrifol. Yr oedd aelodau y Cynghor o deuluoedd urddasol ac yn briod ac yn benau teuluoedd; ac nid yw yn debygol fod Paul yn feddianol ar y cymhwysder olaf. Ystyr y frawddeg yma yw, fod Paul yn cydsynio â dyfarniad yr Awdurdodau, ac yn egniol yn ei ymosodiadau ar y ‘Saint.’ yn eu herbyn. 11A thrwy#26:11 llyth: ar hyd, ar hyd a lled. yr holl Synagogau#26:11 yn benaf yn Jerusalem. yn fynych yr oeddwn yn eu cospi#26:11 dial, cospi, yn gyffredin trwy fflangellu, Mat 10:17; 23:34; Marc 13:9., ac yn eu gorfodi#26:11 Neu cymhell, ymdrechu gwneyd. Dynoda yr amser a ddefnyddir yma ymdrech Saul i gael y dysgyblion i gablu Crist. Yr hyn a allodd ef, efe a'i gwnaeth. Deugain mlynedd ar ol hyn, gwnawd ymdrech, yn ol tystiolaeth Pliny, i ddarbwyllo Cristionogion Bithynia i wneyd yr un peth; ond arosasant yn ddiysgog yn eu ffydd a'u teyrngarwch. i gablu; a chan fod yn ynfyd dros ben yn eu herbyn, yr oeddwn yn eu herlid hyd y nod i ddinasoedd tu allan#26:11 Neu, dyeithr, estronol, pellenig; cyfeirir at ddinasoedd tu allan i Balestina. Yr oedd gan Paul Gommissiwn i Damascus a lleoedd eraill, pan y torwyd ei fywyd erledigaethus yn fyr. i'n gwlad. 12A thra wrth#26:12 llyth: Ac yn y pethau hyn, hyny yw, tra yn nghanol y gwaith o erlid, &c. y pethau hyn, a myfi yn myned i Damascus gydag awdurdod a chommissiwn#26:12 Neu, ganiatad, genad. Gweler y ferf, adnod 1. yr#26:12 oddiwrth C; gad. א A B E Brnd. Arch‐offeiriaid#26:12 Efallai prif offeiriaid y 24 dydd‐gylch, y rhai oeddent aelodau o'r Sanhedrin., 13ar#26:13 Dyma y trydydd hanes a gawn am Droedigaeth Paul; y ddau arall ydynt yn 9:3–9 a 22:6–12. Gweler y nodiadau yno. Y pethau a enwir yma yn arbenig, ac na cheir yno ydynt: (1) dysglaerdeb y goleuni, ‘tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul’; (2) fod Paul a'i gymdeithion wedi syrthio; (3) fod Crist wedi llefaru wrth Paul yn yr Hebraeg; (4) y ddiareb, ‘Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau,’ oblegyd ni cheir hi yn y llaw‐ysgrifau goreu yn yr adroddiadau eraill. ganol dydd#26:13 Nid oedd modd camsynied y dygwyddiad goruwch‐naturiol. yn y ffordd y gwelais, O Frenhin, Oleuni o'r Nef, tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul#26:13 Yr oedd gogoniant Crist pan yn ymddangos i Paul yn ysplenydd. Pa mor ddysglaer fydd pan y daw yn ei Ail‐Ddyfodiad! Ei gysgod ef yw y goleuni sydd gyda ni yn awr., yn dysglaerio o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn myned gyda mi. 14A phan yr oeddem oll wedi syrthio ar y ddaear, clywais lais yn#26:14 yn dywedyd wrthyf א A B C Brnd.; llefaru wrthyf ac yn dywedyd L. dywedyd wrthyf yn y briod‐iaith Hebraeg#26:14 Nid oedd Paul yn llefaru yn yr Hebraeg wrth Agrippa. Hebraeg (Aramaeg) oedd iaith Crist, ac iaith enedigol Paul. Hon hefyd oedd iaith ei ail‐enedigaeth. Gweler 22:7., Saul#26:14 Y mae enw Saul yn ei ffurf Hebreig (Saoul) yn y tri adroddiad., Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled i ti wingo yn erbyn y symbylau#26:14 Yma yn unig, yn y tri adroddiad, y rhoddir y ddiareb hon. Ceir hi mewn ysgrifeniadau Groeg a Lladin o eiddo Pindar, Æschylus, Euripides, Terence, a Plautus. Y mae ynddi gyfeiriad at yr ych afreolus yn cicio yn erbyn y swmbwl, ac felly yn clwyfo ei hun yn waeth. Y wers yw, ei bod nid yn unig yn ofer ond hefyd yn niweidiol a pheryglus i erlid canlynwyr Iesu Grist.. 15A minau a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd#26:15 Arglwydd א A B C E Brnd.; gad. H. a ddywedodd, Myfi yw#26:15 llyth: wyf; ‘Ydwyf yr hwn ydwyf.’ Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn ei erlid. 16Eithr cyfod i fyny, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod#26:16 penodi, gosod, dewis yn bwyllog a gofalus. Yr un ferf ag yn 22:14. yn wâs#26:16 hupêretês: llyth: is‐rwyfwr, yna, gwas, gweinidog. ac yn dyst#26:16 gwas i wneuthur gwaith neillduol, mewn canlyniad i gael gweledigaethau a dadguddiadau penodol gan Dduw. Rhai a gafodd ar ol hyn yn Arabia (Gal 1:11–17), yn Jerusalem (23:11), ac mewn manau eraill (2 Cor 12:1–7). o'r pethau a welaist#26:16 Os mabwysiedir darlleniad B, pwysleisir yma y ffaith fod Paul wedi gweled Crist, ac felly yn meddianu un o anhebgorion Apostol. Erys Paul yn fynych gyda y rhagorfraint hon (1 Cor 9:1; 15:8, &c.).#26:16 o'r pethau [yn y rhai] y gwelaist fi B (C) WH. Diw.; gad. fi א A E L Ti. Tr. La., ac o'r pethau yr ymddangosaf#26:16 ‘o'r pethau a achosaf i ti eu gweled,’ Luther. Ond y mae y ferf yn y goddefol. i ti ynddynt; 17gan dy wared#26:17 Rhai a roddant yr ystyr o ddewis allan i'r ferf, ‘gan dy ddewis allan o blith y Bobl,’ &c., ond ni fuasai synwyr mewn ‘dewis Paul allan o blith y Cenhedloedd.’ Heblaw, ystyr ddieithriad y gair yn yr Actau yw ‘gwaredu allan’ (7:10, 34; 12:11; 23:27; gweler hefyd, Gal 1:4). Swn erledigaeth a glywodd Paul gyntaf yn ngeiriau Crist. Adnewyddodd y dadganiad a wnaeth pan ar y ddaear, ‘Yn y byd gorthrymder a gewch, eithr cymerwch gysur,’ &c. oddiwrth y Bobl#26:17 enw neillduol Israel (laos: ‘y Bobl Etholedig.’) ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai#26:17 Nid yn unig y Cenhedloedd, ond pobl Israel hefyd. yr wyf Fi#26:17 Fi א A B C Brnd.; yr awrhon [nun] Test. Derb. yn dy anfon di#26:17 Y mae yma gyfuniad o Benarglwyddiaeth hollol a Gras digonol yr Arglwydd. Yr oedd yn rhaid i Saul i syrthio, cyn y gallasai Paul gael ei godi i sefyll ar ei draed. Sicrhaodd ein Harglwydd yn gyntaf ufydd‐dod perffaith, ac yna wasanaeth anmhrisiadwy., 18i agoryd eu llygaid, fel y troant#26:18 Neu, fel y troer hwynt, ond gwell fel uchod (3:26; 14:15; 15:36). o dywyllwch#26:18 o gyfeiliornad ac anwybodaeth i wirionedd a sancteiddrwydd. i oleuni, ac o awdurdod#26:18 Neu, gallu, llywodraeth. Satan yw Brenhin ‘Teyrnas y Tywyllwch.’ Ni ddywedir ‘i awdurdod Duw,’ ond y mae y perthynas rhwng y dychweledigion a Duw yn llawer agosach na'r berthynas a'r Diafol. Y maent i gael eu dwyn i undeb a chymdeithas ag ef. Teyrnfradwr yw Satan, ond Noddwr a Chyfaill yw Duw. Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran#26:18 llyth: coelbren, yna, cyfran, etifeddiaeth. yn mhlith y rhai Sancteiddiedig, trwy ffydd#26:18 Cysyllter ‘ffydd’ a ‘derbyniont,’ ‘fel y derbyniont trwy ffydd.’ Llaw Ffydd sydd i dderbyn yr holl fendithion sydd gan Dduw i roddi i'r enaid. yr hon sydd ynof Fi#26:18 Ni lefarwyd yr oll o'r geiriau hyn wrth Paul ar y ffordd i Damascus, ond rhydd yr Apostol grynodeb o'r hyn a ddywedwyd wrtho yno, a thrwy Ananias, ac yn y Deml.. 19O ganlyniad, ni fu'm anufydd#26:19 Y mae galwad effeithiol Duw ac ufydd‐dod gwirfoddol dyn yn gymdeithion hyfryd ar lwybrau uniawn bwriadau Duw. Nid yw Gras yn dystrywio Rhydd Ewyllys, ond yn ei gwneuthur yn rhydd mewn gwirionedd. i'r weledigaeth nefol: 20eithr i'r rhai yn Damascus yn gyntaf, a Jerusalem, a thrwy holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd#26:20 Rhydd yn fyr hanes ei weinidogaeth hyd yr adeg bresenol. Nid oes yma wrth‐ddywediad i Gal 1:22. Rhydd Paul ei waith yn mhlith yr Iuddewon yn flaenaf, ac yna yn mysg y Cenhedloedd. y traethais y dylent edifarhâu a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch#26:20 Y mae yma adlais o bregethu y Bedyddiwr (Mat 3:8). Yr un yw yspryd ac ymgais yr Efengyl yn ngwawr foreuol ei chyhoeddiad gan Ioan, ag yn entyrch ei goleuni yn ngweinidogaeth Apostol y Cenhedloedd. Yr oedd y gweithredoedd i fod yn arwydd o'u hedifeirwch ac yn brawfion o'u troedigaeth at Dduw.. 21O achos y pethau hyn, Iuddewon a'm daliasant yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd#26:21 Yr un gair ag yn 5:30; ‘gosod dwylaw ar,’ yna, lladd, ‘gosod i farwolaeth â'u dwylaw eu hunain’ (21:31).. 22Am hyny, wedi cael y cymhorth#26:22 epikouria, help, cynorthwy, ymgeledd, cyfnerth; y cymhorth a rydd un sydd mewn cyfathrach neu gynghrair ag arall. Yr oedd Duw mewn cynghrair a Phaul. Yr oedd efe a Rhagluniaeth y Nef mewn cyfathrach. Gwaredodd Duw ef trwy Lysias a Ffelix a Ffestus o afaelion ei elynion. Gweision Duw oedd y rhai hyn, gan fod yn offerynau i ofalu am dano hyd nes y cyrhaeddai Rhufain, yn ol ei ddymuniad ei hun a threfniad yr Arglwydd. y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll#26:22 heb niwaid, yn ddigryn, ac yn ddiberygl., gan#26:22 gan dystiolaethu [marturomenos] א A B Brnd.; gan gael tystiolaeth gan [marturoumenos] E. dystiolaethu#26:22 Dyma y darlleniad yn ol y llaw‐ysgrifau goreu. Nid meddwl Paul yw fod ‘bach a mawr’ yn dwyn tystiolaeth ffafriol i'w waith, ond ei fod ef yn tystiolaethu i bawb mai yr Iesu oedd y Crist. i fach a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na'r pethau a ddywedasai y Prophwydi a Moses#26:22 gan bwysleisio fod Cristionogaeth yn gyflawniad y Grefydd Iuddewig. fel ar fedr dyfod i ben: 23fod#26:23 llyth: os (oedd). y Crist i ddyoddef#26:23 pathêtos, ‘darostyngedig i ddyoddef,’ ‘un yn gallu dyoddef.’ Llyth: ‘a oedd y Crist yn ddyoddefus.’ Gwadai yr Iuddewon hyn, (gweler Ioan 12:34). Collasant olwg ar ei ddyoddefaint fel y darluniwyd ef yn yr Hen Destament (Esai 53 &c.). Y mae ‘dyoddef’ yma yn gyfystyr a ‘marw.’ Gweler Luc 24:44–47., a'i fod Ef y cyntaf#26:23 Efe oedd ‘blaenffrwyth y rhai a hunasant’ (1 Cor 15:20, 23). Efe a ddygodd ‘fywyd ac anllygredigaeth i oleuni.’ Daeth pawb eraill a adgyfodwyd o'i flaen yn ol i'r un ochr o afon marwolaeth ag yr aethant i lawr; ond aeth Crist drwy ei thonau garwaf yn union i randir anfarwoldeb, ac nis gall farw mwy., trwy Adgyfodiad y Meirw, i gyhoeddi goleuni#26:23 gan gynwys holl fendithion yr Efengyl, addysg, dedwyddwch, sancteiddrwydd, &c. i'r Bobl ac i'r Cenhedloedd#26:23 Nid oedd yr Iuddew wedi ‘breuddwydio’ am ‘etholedigaeth’ y Cenhedloedd gan Dduw, er fod cyfeiriadau amlwg a diamwys at hyny yn mhrophwydoliaethau yr Hen Destament (gweler Esaiah 9:2; 42:16; 60:2). hefyd.
Ffestus yn syrthio yn fyr mewn barn, ac Agrippa mewn crefydd.
24Ac fel yr oedd efe yn y modd hyn#26:24 llyth: Ac fel yr oedd efe yn ymddiffyn ei hun [â'r] pethau hyn; fel yr oedd Paul yn dwyn yn mlaen ei resymau a'i ddadleuon dros yr hyn yr oedd yn ei gredu. yn ymddiffyn ei hun, Ffestus a ddywed a llef uchel#26:24 Ffestus oedd yn ‘colli arno ei hun’ ac ‘allan o bwyll.’ Yr oedd Paul yn dawel a hunan‐feddianol yn ei gadwynau, tra yr oedd y Rhaglaw yn gyffroedig ar ei orsedd., Anmhwyllo#26:24 Nid yw y gair yn dynodi ‘ynfydrwydd,’ ‘gwallgofrwydd,’ yn yr ystyr fod un wedi myned allan yn hollol o'i synwyrau, ond defnyddir ef am frwdfrydwyr, penboethwyr, rhai yn dal ac yn cyhoeddi golygiadau neu ddamcaniaethau dyeithr, allan o ffordd y cyffredin. Defnyddiai'r Groegiaid y gair am rai athronyddion. Gweler hefyd Ioan 7:15. ydwyt, Paul; y mae dy fawr ddysg#26:24 ‘dy wybodaeth o lenyddiaeth,’ yn enwedig yr Ysgrythyrau Iuddewig. Gwybodaeth ar dân oedd pregethu yr Apostol i'r bobl a'i ymddiffyniad o flaen yr awdurdodau. yn dy droi i anmhwylledd. 25Ond Paul#26:25 Paul א A B E Brnd.; gad. HL. a ddywed, Nid wyf yn anmhwyllo, Ardderchocaf#26:25 Yr oedd iaith Paul yn foesgar ac yn gref ac eglur; cydnabyddai safle y Rhaglaw a dangosai barch i'w swydd (gweler 24:3, 7). Nid yw gwallgofiaid yn defnyddio enwau a theitlau o barch. Ffestus, eithr geiriau#26:25 neu, bethau, sylweddau, ymadroddion. gwirionedd a sobrwydd#26:25 sôphrosunê, iachusrwydd meddwl, iawn‐bwylledd, hunan‐feddiant; gair hollol wrth‐gyferbyniol i mania, anmhwylledd. Y mae gwirionedd yn cyfeirio at ffeithiau, sobrwydd at iawn‐bwylledd yr Apostol. yr wyf yn eu llefaru allan#26:25 hyny yw, yn rymus, eglur, hyglyw; yr un gair ag yn 2:4, gair y Pentecost: yr oedd y dylanwad yn arosol.. 26Canys gŵyr#26:26 epistatai, ‘y mae yn gydnabyddus.’ y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf yn llefaru yn hyf#26:26 gan fod mewn hyfder, rhyddid (gweler 9:27, 29; 13:46; 14:3; 18:26; 19:8).: canys yr wyf yn argyhoeddedig#26:26 llyth: darbwylledig, ‘yn cael fy mherswadio.’ nad oes dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; canys nid mewn congl y gwnaed hyn#26:26 Nid yn gymaint troedigaeth Paul â Marwolaeth ac yn enwedig Adgyfodiad Crist. Yn Jerusalem, ar yr Wyl, yn ngwydd y miloedd y rhoddwyd Ef i farwolaeth, ac yr oedd Ei Adgyfodiad wedi ei wireddu gan brawfion di‐ymwad. Felly hefyd Droedigaeth yr Apostol; cymerodd le ganol dydd, clywodd eraill y llais, a gwelsant y gogoniant goruwch‐naturiol. Cyfeiliornad sydd yn ymlechu mewn conglau tywyll. Yr Iuddewon oedd wedi gwneyd cynllwynion yn y conglau yn y nos i'w osod i farwolaeth (23:16; 25:3).. 27A ydwyt yn credu, O Frenhin Agrippa, y Prophwydi? Gwn dy fod yn credu#26:27 Yr oedd Agrippa wedi ei ddwyn i fyny yn y Grefydd Iuddewig; ac yr oedd hefyd yn awyddus i foddloni y Genedl ac i fod yn dderbyniol gan y Bobl. Felly etyb Paul ei ofyniad ei hun; oblegyd gwyddai na wnelai Agrippa roddi atebiad gwahanol. Hefyd, yr oedd yr ateb yn cynwys, o anghenrheidrwydd, grediniaeth yn y Messia, am yr hwn yr ysgrifenodd y Prophwydi. Diamheu y bwriadai Paul ymresymu yn mhellach ar y cynsail hyn, ond atelir ef yn ei ymadrodd gan y brenhin.. 28Ac Agrippa a#26:28 a ddywedodd E H L; gad. א A B Brnd. ddywedodd wrth Paul, Gydag ychydig#26:28 Rhai a gyfieithant ‘o fewn ychydig,’ ‘yn mron’ [Llad. propemodum, Beza], ond ni cheir enghraifft o'r ystyr hyn. Eraill a ddarllenant ‘mewn ychydig,’ hyny yw, ‘i ryw fesur,’ ‘i raddau,’ fel pe buasai Paul wedi gwneuthur argraff ar feddwl Agrippa. Eraill: ‘mewn ychydig o amser’; ‘os gwnei barhâu i lefaru, byddi yn sicr o'm hargyhoeddi.’ Eraill: ‘gydag ychydig ymdrech’ neu ‘lafur,’ ac y mae yr adnod nesaf yn ffafriol i'r darlleniad hwn. Cawn yma fwy o wawd‐iaith nag o ddifrifoldeb. Diamheu i Agrippa deimlo fod Paul yn rhy eofn a beiddgar i ateb drosto ef, a'i fod yn cymeryd yn ganiataol yr hyn na ddylai, fel pe y dywedasai, ‘Yr wyt yn meddwl nad oes genyt ond ychydig o waith i'm darbwyllo i fod yr hyn wyt ti. Yr wyt yn camsynied. Y mae gagendor mawr rhyngom. Y mae bod yn Iuddew proffesedig a Christion proffesedig yn wahanol iawn i'w gilydd. Yr wyf yn gweled dy fwriad. Yr wyt am brofi fy mod neu y dylwn fod yr hyn ydwyt ti. Arbed dy drafferth. Y mae yn ddigon i ti ymddiffyn dy hun heb gymeryd yr ymosodol. A'm gwneuthur i yn Gristion! Enw a roddwyd gan elynion i'r sect (11:26) y perthyni iddi, ac a gasheir gan Iuddewon. Y mae yn anmhosibl meddwl, wrth ystyried ei eiriau a'i ymddygiad, fod Agrippa dan argyhoeddiad. Ystyriai Paul fel crefyddwr penboeth, a'i fod wedi myned ‘dros y terfynau’ yn ei ymdrech i'w resu ef o'i du. ti a fynit fy narbwyllo#26:28 llyth: yr wyt yn darbwyllo, perswadio. Yr ystyr yma yw, ‘yr wyt yn ymdrechu fy mherswadio,’ yr wyt am fy argyhoeddi fel ag i'm gwneuthur yn Gristion.’ Gweler y berfau yn Ioan 10:32 ‘yn fy llabyddio’; Ioan 13:6 ‘a ydwyt yn bwriadu golchi’; Mat 3:14, ‘Yr oedd Ioan am warafun’; Luc 1:59, ‘Yr oeddent am ei alw, Zacharias.’ fel i'm gwneuthur#26:28 gwneuthur א A B. La. Ti. Tr. WH. Diw.; i fod E H L. i yn Gristion! 29Eithr Paul a ddywed#26:29 Y mae y ferf, yr hon a adewir allan mor fynych yn yr hanes yn dangos meddwl cyffrous a byw yr hanesydd.#26:29 a ddywed H L.; gad. א A B., Mi a ddymunwn gan Dduw, pa un bynag ai gydag ychydig neu gyda llawer#26:29 o ymdrech, yni, llafur; o waith darbwyllo. Megalô [ymdrech] fawr yw darlleniad א A B Brnd.; ac nid pollô ‘llawer’ ‘amryfal.’ Nid oedd yr Apostol yn ystyried unrhyw aberth neu ymdrech yn ormod i enill dynion i wybodaeth achubol o Grist., ddyfod nid yn unig tydi, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddyw#26:29 Neu ‘ddyfod heddyw yn gyfryw ag yr wyf fi.’, yn gyfryw ag yr wyf fi, ond y rhwymau#26:29 Yr oedd y carcharor yn rhydd, a'r brenhin ac eraill yn rhwymau caethiwed. hyn. 30A#26:30 Cyfododd y Brenhin yn ddisymwth cyn gorphen o Paul ei ymddiffyniad. Yr oedd yn argyhoeddedig o ddiniweidrwydd yr Apostol, ond nid o Ddwyfoldeb Cristionogaeth. Methodd ‘sefyll ei dir.’ Efe oedd y condemniedig, a Phaul oedd yr erlynydd. Nid oedd ynddo ddigon o wroldeb i wrando i'r terfyn. Ofnai fod rhagor o ymadroddion a chyfeiriad personol ynddynt ar gael eu llefaru. Daeth Agrippa i wrando y damcanedigol, ond aeth Paul i'r ymarferol. Yr oedd apêl wedi ei gyfeirio ato ef, a meddyliai, efallai, fod tro ei chwaer Bernice ar ddyfod, yr hon oedd yn byw mewn anlladrwydd fel ei chwaer Drusilla.#26:30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn H L.; gad. א A B Brnd. chyfododd y Brenhin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai#26:30 Y prif‐swyddogion a phrif‐ddinaswyr Cesarea. oedd yn eistedd gyda hwynt: 31ac wedi ymneillduo, llefarasent wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau neu rwymau#26:31 Nid yw barn ffafriol am y pregethwr yn arwain i dderbyniad o'i genadwri. Dyma ddedfryd y brenhin Iuddewig a'r Rhaglaw Rhufeinig am fywyd a buchedd Paul.. 32Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yn rhydd, pe na fuasai iddo apelio at Cesar#26:32 Ymweled a Rhufain oedd ei ddymuniad ef ac arfaethiad Duw..
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Actau 26: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.