1 Corinthiaid 7
7
Priodas a bywyd di‐briod: Cwlwm priodas.
1Yn awr am y pethau yr ysgrifenasoch#7:1 attaf A D F G. [Tr.] La.; gad. א B C Ti. Al. WH. Diw.: Da#7:1 Kalon, da, gweddus, iawn. Yn kalos y mae prydferthwch yn unedig â daioni. Dywedir (Gen 2:18), ‘Nid da bod dyn ei hunan,’ ond y mae y credadyn yn wahanol iawn i Adda. Y mae wedi ei uno â Christ, ac y mae yr Arglwydd yn cyflawni ei bersonoliaeth. Gweler Ioan 10:11; 1 Cor 7:26; 2 Cor 11:2; Rhuf 7:4; Eph 5:28–33; Heb 13:4. i ddyn na chyffyrddo â gwraig. 2Ond o herwydd putteindra#7:2 Yn y rhif lluosog, yr arferiadau o butteindra., bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. 3Taled y gŵr i'r wraig yr#7:3 Yr hyn sydd ddyledus [y ddyled] א A B C D F G Brnd.; dyledus ewyllys da K L. hyn sydd ddyledus: a'r un modd hefyd y wraig i'r gŵr. 4Nid gan y wraig y mae awdurdod ar ei chorph ei hun, ond gan y gŵr; a'r un modd hefyd nid gan y gŵr y mae awdurdod ar ei gorph ei hun, ond gan y wraig. 5Na cham‐attaliwch#7:5 Na chedwch yn ol, nac amddifadwch [eich gilydd]. oddiwrth eich gilydd, oddi eithr o gydsyniad dros dymhor, fel y galloch gael hamdden#7:5 Scholazô, gorphwys oddiwrth ludded, cael hamdden, bod yn rhydd; yna, ymroddi i. i#7:5 I ympryd a K L.; gad. א A B C D Brnd. weddi#7:5 Ar dir beirniadaeth y mae ‘ympryd’ i gael ei adael allan yma, ac yn Mat 17:21; Act 10:30; ac, yn debygol yn Marc 9:29. Dygwyd ef i mewn mewn oes feudwyol., ac fel y byddoch#7:5 Byddoch א A B C D Brnd.; deuwch K L P. drachefn ynghyd#7:5 Llyth., yn [ar] yr un lle., fel na themtio Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd#7:5 Akrasia [o akratês, un nad yw yn feistr arno ei hun], diffyg ymgadw, methiant mewn hunan‐lywodraeth, anniweirdeb., 6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd mewn ffordd o oddefiad#7:6 Suggnomê [o'r ferf cyduno, yna, maddeu], cyd‐ddygiad, caniatad, rhyddid. ‘Nid wyf yn dywedyd hyn fel pe buasai yn rheol ddidor, ond fel cynghor o werth dan yr amgylchiadau.’ ac nid mewn ffordd o orchymyn. 7Eithr#7:7 Eithr א A C D F G Brnd.; canys B K L P. mi a ewyllysiwn fod pob dyn fel mi fy hun#7:7 Y mae yn amlwg oddiwrth y geiriau hyn nad oedd Paul yn briod, a'r un mor amlwg nad oedd yn weddw.. Eithr pob un sydd ganddo ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, un yn wir fel hyn, ac arall fel hynny. 8Ac yr wyf yn dywedyd wrth y rhai di‐briod#7:8 Hynny yw, o'r ddau ryw; yn ol eraill o'r rhyw gwrrywaidd. Cyfeirir at ‘y morwynion’ nes ym mlaen [ad. 25, &c.] a'r gwragedd gweddwon: Da iddynt ped arhosent fel myfi. 9Eithr os na allant ymgadw, priodent: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
Priodas rhwng credinwyr ac eraill.
10Ac i'r rhai priod yr wyf yn gorchymyn#7:10 Paraggellô, gorchymyn; efallai yma, trosglwyddo. — nid myfi, ond yr Arglwydd#7:10 Nid eiddo Paul, yr Apostol ysprydoledig, ond eiddo Crist oedd y gorchymyn hwn, yr hwn a roddodd yn nyddiau ei gnawd (Marc 10:9; Mat 5:32; 19:9; Luc 16:18). — Na ymwahaned gwraig oddiwrth ei gŵr 11(ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi a'i gŵr); a gŵr, na ollynged ymaith ei wraig#7:11 Nid oes anghen ychwanegu ‘ond o herwydd godineb,’ oblegyd nid oedd i'w ystyried yn bosibl mewn cyfundeb Cristionogol.. 12Eithr wrth y lleill#7:12 Llyth., y gweddill. yr wyf fi yn dywedyd, nid yr Arglwydd#7:12 Nid oedd yr Arglwydd wedi gadael gorchymyn., Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn cytuno i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith: 13a gwraig sydd ganddi ŵr digred, ac yntau yn cytuno i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr. 14Canys y mae y gŵr digred wedi ei sancteiddio#7:14 Nid fel person, ond fel gwr. Y mae priodas o Ddwyfol ordeiniad, ac y mae y gwr er ei fod yn ddigred, wedi ei chydnabod. Nid sancteiddrwydd yr Efengyl a olygir. O dan y Gyfraith ystyrid pethau yn o gystal a phersonau yn sanctaidd pan ddefnyddid hwy i'r amcanion y bwriadwyd hwynt; ac y mae perthynasau a sefyllfaoedd bywyd wedi eu sancteiddio pan y maent yn ddadganiad o osodiadau Duw. Pa beth bynnag oedd colliadau y gwr a'r wraig, yr oeddynt wedi cydnabod y drefn, ac yn hyn gwnaethant yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ef. Yr oedd eu hundeb yn un cyfreithlon, ac felly nid oedd eu plant yn ‘aflan.’ yn y wraig, a'r wraig ddigred wedi ei sancteiddio yn y brawd#7:14 Brawd א A B C D Brnd.: pe amgen, yn wir eich plant fyddent aflan, eithr yn awr sanctaidd ydynt. 15Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth#7:15 Llyth., wedi ei gaethiwo. yn y cyfryw amgylchiadau#7:15 Neu, yn y cyfryw bethau, faterion.: ond mewn heddwch y mae Duw wedi ein galw ni#7:15 Ni B D F G Tr. Al. Diw.; chwi א A C K WH. Ti.. 16Canys pa fodd y gwyddost, O wraig, os achubi di dy wr? neu pa fodd y gwyddost, O wr, os achubi di dy wraig#7:16 Gwel yr hen esbonwyr yma reswm dros i'r credadyn i aros gyda'r digred, mewn gobaith y byddai yn ei ennill; ond y mae y rhan fwyaf o esbonwyr diweddar yn gweled yma reswm dros ymadael. Er mwyn heddwch gwell ymadael, canys nid yw y credadyn yn sicr y gall ennill yr annghredadyn, &c.?
Ynghylch y sefyllfa o enwaediad ac o gaethwasiaeth.
17Yn unig, fel y mae yr Arglwydd#7:17 Yr Arglwydd א A B C D, &c., Brnd. wedi rhannu i bob un, fel y mae Duw#7:17 Duw א A B C D Brnd. wedi galw pob un, felly rhodied. Ac felly yr wyf yn ordeinio yr holl eglwysi. 18Ai wedi ei enwaedu y galwyd neb? nac ymgeisied fod yn ddienwaededig#7:18 Llyth., na thynner ym mlaen, gan gyfeirio at ymdrech rhai Iuddewon i wneyd i ffwrdd ag arwydd yr enwaediad, oblegyd yr oeddynt yn agored i wawd y byd, ac erledigaeth eu gelynion.. Ai mewn dienwaediad y mae neb wedi ei alw? nac enwaeder arno. 19Yr enwaediad nid yw ddim, a'r dienwaediad nid yw ddim; ond cadw#7:19 Llyth., cadwraeth. Gwel Gal 5:6; 6:15. gorchymynion Duw. 20Pob un yn yr alwedigaeth#7:20 Defnyddir klêsis, yn y T.N., nid am alwedigaeth fydol, ond am alwad Duw i Deyrnas Crist. yn yr hon y galwyd ef, yn hon arhosed. 21Ai yn gaethwas y'th alwyd? Na ofala#7:21 Llyth., na fydded yn ofal i ti.: os hefyd#7:21 Rhoddir dau ystyr hollol wahanol i'r frawddeg, sef, (1) ‘Hyd y nod pe gellit gael dy ryddid, aros yn hytrach yn gaethwas.’ Dywedir mai ystyr briodol ei kai yw, ‘hyd y nod,’ ‘er’; fod yr Apostol yn cefnogi aros yn yr un sefyllfa; fod adnod 22 yn ffafriol i'r deongliad hyn, &c. (2) ‘Ond os gelli ddyfod yn rhydd, gwna ddefnydd o'th ryddid.’ Y mae y frawddeg ‘yn hytrach gwna ddefnydd’ — ‘manteisia ar y cyfleusdra’ — yn ffafr hyn; y mae yn unol â dysgeidiaeth y T.N. yn gyffredinol, ac eiddo Paul yn neillduol (Philemon 21). Y mae y gair cyfagos rhydd, ‘rhyddid’ yn fwy naturiol ar ol ‘defnydd,’ na'r gair sydd ym mhell o'r blaen ‘caethwas.’ y gelli ddyfod yn rhydd, yn hytrach gwna ddefnydd o hynny. 22Canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, pan yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd yr hwn a alwyd pan yn rhydd, caethwas Crist ydyw. 23Er gwerth y'ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion#7:23 Yn enwedig i arweinwyr yr ymraniadau yn Corinth (2 Cor 11:20).. 24Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyn arhosed gyda Duw.
Achos y gwyryfon.
25Yn awr, ynghylch y gwyryfon#7:25 Nid pobl ieuainc o'r ddau ryw (Dad 14:4), ond merched., nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd; ond barn#7:25 Y mae yr Apostol yn gwahaniaethu yn eglur rhwng ysprydoliaeth Apostolaidd a barn addfed credadyn. yr wyf yn roddi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn. 26Am hynny yr wyf yn tybied fod hyn yn dda o achos yr angenrhaid presennol, gan ei bod yn dda i ddyn fod felly#7:26 Adnod dywell. Y mae wedi ei chyfieithu mewn amrywiol ffyrdd. Dywed rhai ei bod fel cyfansoddiad yn annghywir. Credwn (gyda Godet) y rhydd yr uchod gyfieithiad cywir, ‘Gan ei bod yn dda i ddyn aros yn ddi‐briod ym mhob sefyllfa, y mae yn sicr o fod yn dda iddo yn yr angenrhaid presennol,’ neu yn ol eraill, ‘yn y gorthrymder sydd ar ddyfod.’. 27A ydwyt yn rhwym i wraig? Na chais ollyngiad. A ydwyt yn rhydd oddiwrth wraig? Na chais wraig. 28Ac os priodi hefyd, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: er hynny blinder yn y cnawd a gä y cyfryw rai: eithr yr wyf yn eich arbed chwi. 29A hynny yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr, y mae y tymhor wedi ei gyfyngu#7:29 Sustellein, tynnu ynghyd, cyfyngu, byrhâu [tynnu yr hwyliau i lawr, gwasgu ynghyd, beichglymmu]. Defnyddia Paul kairos, amser o ran ei gymmeriad ac nid ei barhâd, yna tymhor, cyfleusdra. Edrycha ar yr oll o saf‐bwynt Dyfodiad Crist. Y mae Ymgnawdoliad Crist a'i Ail‐ddyfodiad fel dau derfyn, ac i'r credadyn sydd yn dysgwyl yr olaf y mae yr amser wedi ei fyrhâu. ‘Yr awr ddiweddaf’ ydyw (1 Ioan 2:18)., fel o hyn allan#7:29 Neu, ‘Y mae y tymhor wedi ei gyfyngu o hyn allan, fel y bydd,’ &c. y bydd y rhai sydd â gwragedd ganddynt megys pe byddent hebddynt; 30a'r rhai a wylant megys heb wylo; a'r rhai a lawenhânt megys heb lawenhâu; a'r rhai a brynant megys heb ddal#7:30 Katecho, cadw yn ol, dal yn ddyogel, cadw gafael ar. meddiant yn dŷn; 31a'r rhai a ddefnyddiant y byd#7:31 hwn K L P; gad. א A B C D &c. Brnd. megys heb ei or‐ddefnyddio#7:31 Katachraomai, defnyddio yn fawr, yn llawn, yn ormodol, difa trwy ddefnyddio [yma a 9:18]., canys y mae dull#7:31 Sefyllfa allanol, ac felly gyfnewidiol pethau. y byd hwn yn myned heibio. 32A mi a ddymunwn i chwi fod yn ddibryder. Yr hwn sydd yn ddi‐briod sydd bryderus#7:32 Y mae ganddo fantais i ofalu am bethau yr Arglwydd. am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd: 33eithr yr hwn a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y boddlona ei wraig; ac y mae efe wedi ei rannu#7:33 Felly yr attalnoda Neander, Hofmann, Edwards, Lachmann, Westcott a Hort, Tregelles, &c. Yr oedd y gwr o ran ei bryder a'i ofalon wedi ei rannu, ac felly yn analluog i roddi yr oll o hono ei hun i Dduw. Eraill (Chrysostom, Luther, Mosheim, Meyer, Tischendorf, &c.) a ddarllenant, ‘Ac y mae gwahaniaeth rhwng y wraig [briod] a'r wyryf: yr hon sydd ddi‐briod sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, &c.. 34A'r#7:34 Y testyn B P Tr. WH.; [y mae gwahaniaeth] rhwng y, wraig a'r wyryf, yr hon sydd ddi‐briod D F G Ti. Al. Diw.; y wraig yr hon sydd ddi‐briod a'r wyryf yr hon sydd ddi‐briod א A F. wraig sydd ddi‐briod a'r wyryf sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn y corph ac yn yr Yspryd hefyd; ond yr hon a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y gall foddloni ei gŵr. 35A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er lleshâd i chwi eich hunain; nid fel y bwriwyf fagl#7:35 Brochos, byddag, cwlwm rhededog [S. noose] yr hwn a deflid am gyrn, &c. anifeiliaid gwylltion er eu dal neu eu dwyn o dan reolaeth. Meddwl yr Apostol yw, ‘Nid wyf am wneyd caeth‐weision o honoch.’ Nid wyf am daflu byddag gorfodaeth am danoch. Nid wyf am gaethiwo ar eich rhyddid i briodi,’ &c. am danoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd#7:35 To euschêmon, yr hyn sydd berffaith addas neu weddaidd. ‘Diniweidrwydd naturiol wedi ei ddyrchafu i sancteiddrwydd dysglaer drwy undeb â Christ.’ — Godet. a dyfal-lynu#7:35 Euparedron, [A א B D F G; prosedron L, euprosedron K]. Llyth., eistedd yn ymyl yn dda; yna, gweini yn ofalus ar, eistedd yn ymyl i wrando, talu sylw, &c.; rhoddi hunan i fyny yn hollol i, fel Mair yn Bethania. wrth yr Arglwydd heb gythrudd#7:35 Aperispastôs, llyth., heb dynnu mewn gwahanol gyfeiriadau, heb gythrudd, heb groes‐dyniad [‘Eithr Martha oedd drafferthus,’ Luc 10:40].. 36Ond os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd at y wyryf, os bydd o oedran addfed#7:36 Nid yn gymmaint ‘dros flodau ei hoedran,’ ag ‘o lawn oedran.’ Cyfeirir yn yr adnod at dâd neu warchodwr yr eneth. Yr ‘ymddygiad anweddaidd’ oedd ei hattal i briodi, gan yr ystyrid morwyndod parhâol yn fynych yn warth., a bod angenrhaid gwneuthur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodent. 37Ond yr hwn sydd yn sefyll yn gadarn yn ei galon, heb angenrhaid arno, ond sydd ganddo awdurdod ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynnodd hyn yn ei galon ei hun, i warchod dros ei wyryf ei hun, efe a wna yn dda. 38Ac felly y mae yr hwn sydd yn rhoddi ei wyryf ei hun yn briod yn gwneuthur yn dda; a gwna yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod yn well.
Ynghylch gwragedd gweddwon.
39Y mae gwraig yn rhwym#7:39 Wrth y gyfraith F G; gad. א A B D Brnd. tra fyddo byw ei gŵr; ond o bydd ei gŵr wedi huno#7:39 Yn yr angau., y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn unig yn yr Arglwydd. 40Ond dedwyddach yw os erys fel y mae, yn ol fy marn i: ac yr wyf yn tybied fod gennyf hefyd Yspryd Duw.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 7: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.