โลโก้แอพพระคัมภีร์
ไอคอนค้นหา

1 Corinthiaid 8

8
Ynghylch bwytta yr hyn a offrymmid i eilunod: nid gwybodaeth ond cariad yw y rheol.
1Yn awr ynghylch y pethau a aberthir i eilunod: Ni a wyddom fod gan bawb o honom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn chwyddo, ond y mae cariad#8:1 Defnyddir agapê yn y LXX., ond nid yn yr awduron clasurol. Golyga eros gariad a gyfyd o ddymuniad, chwant, &c., a philia, yn bennaf, gariad daearol, megys rhwng cyfeillion, &c. Golyga agapê y cariad puraf, uwchaf, megys cariad Duw at ddyn, a chariad y credadyn at ei Geidwad. Daw o agamai, edmygu, parchu. “Ganwyd agapê ym mynwes crefydd ddadguddiedig.” — Trench. yn adeiladu. 2Os oes neb yn tybied ei fod yn#8:2 Egnokenai, gwybod [trwy sylwadaeth, hyfforddiad, ymgydnabyddiaeth], &c. א A B D E F G Brnd.; eidenai, gwybod [fel ffaith] J K. gwybod dim, ni ŵyr hyd yn hyn fel y dylai wybod; 3ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw#8:3 Hwnnw, nid Duw (Evans), ond y dyn sydd yn caru Duw. a adweinir#8:3 Llyth., y mae wedi ei adwaen. Y mae cael ein hadwaen gan Dduw yn cynnwys mwy nag ein bod ni yn ei adwaen ef. Y mae fod y brenin yn adnabod y deiliad yn cynnwys mwy o ragorfreintiau na bod y deiliad yn adnabod y brenin. Cariad dyn a'i dyg o fewn cylch adnabyddiaeth gymmeradwyol Duw. ganddo Ef. 4Ynghylch bwytta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, yr ydym yn gwybod nad oes eilun#8:4 Sef eilun‐dduw, yr hyn oedd yn cyfatteb i syniadau yr addolwyr, fel Jupiter, Apollo, &c. Nid oedd iddynt fodolaeth wirioneddol. yn y byd, ac nad oes Duw#8:4 Arall K L.; gad. א A B D F G Brnd. ond un. 5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear#8:5 Sef holl gylch eilun‐addoliaeth y paganiaid., hyd y nod felly mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer#8:5 Nid yn unig mewn dychymmyg, ond hefyd mewn bodolaeth wrthrychol. Nid oes duwiau yn wir yn cyfatteb i syniadau yr eilun‐addolwyr; er hynny, y mae bodau drwg ysprydol yn bodoli, ar y rhai y rhoddir yr enwau ‘duwiau’ ac ‘arglwyddi.’ Tu cefn i addoliad y duwiau gwag y mae y Diafol a'i gythreuliaid ‘wrth eu gwaith’; ‘Ond y pethau y mae y Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu,’ 10:20. Felly, a oes rhyddid i fwytta bwyd a aberthwyd i eilunod? Oes, oblegyd nid oes eilun neu dduw arall yn bodoli. Ar y llaw arall, nid oes rhyddid i eistedd a chydfwytta yn nhemlau'r eilunod, oblegyd y mae yna fodau drwg yn bodoli, pen y rhai yw y Diafol, tâd a gwir wrthrych eilun‐addoliaeth. Gwel Deut 10:17; Jos 22:22; Dan 2:47., 6etto i ni un Duw sydd, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau erddo#8:6 Y mae y byd o Dduw, a'r Eglwys i Dduw. Y mae y bydysawd wedi dyfod oddiwrtho, a'r Eglwys yn dychwelyd atto. ef; ac un Arglwydd, Iesu Grist, trwy#8:6 Er mwyn B. yr hwn y mae pob peth#8:6 Yn y Greadigaeth, Rhuf 11:36; Ioan 1:3., a ninnau#8:6 Yn y Brynedigaeth. trwyddo ef. 7Ond nid yw y wybodaeth ym mhawb#8:7 Neu, gan bawb., eithr rhai trwy eu hymgynefino#8:7 Arferiad [ymgynnefiniad, sunêtheia], א A B Brnd. ond Al.; cydwybod [suneidêsei] D E F G Al. hyd yn awr â'r eilun, a fwyttânt beth fel wedi ei aberthu i eilun#8:7 Yr oedd eu hir arferiad, cyn eu troedigaeth, yn eu tueddu i ystyried yr eilun fel yn bodoli mewn gwirionedd.; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir#8:7 Yn adnod 1 dywed yr Apostol fod y wybodaeth gan bawb. Mewn damcaniaeth y mae, ond nid yn weithredol. Y mae ofergoeledd yn fynych yn gymmysgedig â gwir grediniaeth.. 8Yn awr, ni wna bwyd ein cyflwyno#8:8 Neu, cymmeradwyo; neu, yn hytrach, ein dwyn o flaen Duw i dderbyn cymmeradwyaeth neu gerydd. Defnyddir y ferf yn fynych i ddynodi cyflwyno aberthau (Rhuf 12:1; 6:13, &c.). Rhai llaw‐ysgrifau a roddant y presennol, ac eraill (y goreu) yr amser dyfodol. i Dduw; os#8:8 Os … helaethrwydd, felly A B Tr. WH. Al. Diw.; os ydym yn bwytta, nid ydym mewn helaethrwydd, nac, os nad ydym yn bwytta, mewn eisieu א D E G Ti. nad ydym yn bwytta, nid ydym mewn eisieu; nac, os ydym yn bwytta, mewn helaethrwydd#8:8 Os … helaethrwydd, felly A B Tr. WH. Al. Diw.; os ydym yn bwytta, nid ydym mewn helaethrwydd, nac, os nad ydym yn bwytta, mewn eisieu א D E G Ti.. 9Ond edrychwch rhag mewn modd i'ch hawl‐fraint#8:9 Exousia, awdurdod, gallu, hawl, rhyddid. fyned yn dramgwydd#8:9 Proskomma, yr hyn y tarewir y traed yn ei erbyn, maen‐tramgwydd. i'r gweiniaid. 10Canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth gennyt yn eistedd i fwytta#8:10 Llyth., yn lled‐orwedd, yn ol arferiad y Dwyrain. yn nheml yr eilun, oni fydd i'w gydwybod ef, ac efe yn wan, ymhyfhâu#8:10 Llyth., ei hadeiladu i fyny, ei chadarnhâu. Defnyddir ef fel gwarth‐air yma, ‘Wele adeiladaeth ardderchog! Y dyn goleuedig yn peri adeiladaeth (yn hytrach, distryw) y credadyn gwan’! fel ag i fwytta y pethau a aberthwyd i eilunod? 11Canys#8:11 Canys א B Brnd.; ac F G. derfydd am y gwan trwy#8:11 Llyth., yn, ‘trwy wneyd ymdrech i gyfrannogi o'th wybodaeth.’ dy wybodaeth di, — y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw#8:11 Nid gofyniad, ond dadganiad difrifol. Bu Crist farw, ond ni wna y dyn goleuedig yr aberth lleiaf er mwyn ei frawd.! 12Eithr pan yr ydych felly yn pechu yn erbyn eich brodyr, a chlwyfo#8:12 Llyth., taro, curo. eu cydwybod a hi yn wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist. 13Gan hynny, os bwyd bair dramgwydd i'm brawd, ni fwyttâf fi gig o gwbl yn dragywydd, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

1 Corinthiaid 8: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้