1 Corinthiaid 6
6
Ymgyfreithio mewn llysoedd paganaidd.
1A feiddia un o honoch, a chanddo fater#6:1 Neu gynghaws, yr hyn yw ystyr pragma mewn iaith gyfreithiol. yn erbyn y llall#6:1 Llyth., yr un gwahanol, y blaid arall, yr amddiffynydd. ymgyfreithio o flaen y rhai annghyfiawn#6:1 Gair wedi ei fenthycia o ieithyddiaeth Iuddewig. Gelwid yr Israeliad ffyddlon yn ddyn cyfiawn. Defnyddir y gair yma i ddangos y gwrthuni i Gristionogion i ymgyfreithio yn llysoedd paganiaid annghyfiawn., ac nid o flaen y saint? 2Neu#6:2 Neu A B C D F G Brnd. oni wyddoch#6:2 Dygwydda y frawddeg ddeg o weithiau yn yr Epistol. y barna#6:2 Nid (1) y gwna eu bywyd gondemnio y byd, neu (2) y byddant yn farnwyr mewn llysoedd daearol pan fydd wedi ei Gristioneiddo, ond (3) yn y Farn olaf, gyda Christ (Dad 20:4). Rhai a gyfieithant y ferf yn y presennol ‘yn barnu,’ ond gwell y dyfodol. y saint y byd? Ac os bernir y byd o'ch blaen#6:2 Llyth., ‘ynoch chwi’; yn ol rhai, yn eich personau sancteiddiedig, y rhai fyddant yn rheol cyfiawnder perffaith. chwi, a ydych chwi yn annheilwng i eistedd mewn barn#6:2 Llyth., annheilwng o'r llysoedd lleiaf. Golyga kritêrion, y rheol wrth yr hon y bernir (Plato, &c.); yna llys barn, lle y bernir, neu y rhai a gyfansoddant y llys. Ni olyga y mater a fernir, y peth i'w benderfynnu. ar y pethau mwyaf dibwys? 3Oni wyddoch y barnwn ni angelion#6:3 Nid ‘yr angelion,’ rhai o natur angelaidd. Yn fwyaf tebyg, angelion drwg. Y mae angelion i farnu dynion, a dynion angelion., heb#6:3 Mèti ge, heb ddim yn wir. Yma yn unig yn y T.N. ddweyd dim yn wir am bethau y bywyd hwn? 4Os oes gennych gan hynny lysoedd#6:4 Llyth., annheilwng o'r llysoedd lleiaf. Golyga kritêrion, y rheol wrth yr hon y bernir (Plato, &c.); yna llys barn, lle y bernir, neu y rhai a gyfansoddant y llys. Ni olyga y mater a fernir, y peth i'w benderfynnu. perthynol i bethau y bywyd hwn, y rhai a gyfrifir yn ddim yn yr eglwys, gosodwch y rhai hyn drostynt#6:4 Llawer (Meyer, de Wette, Rückert, &c.) a ystyriant yr adnod yn ofyniad.. 5Er eich cywilydd yr wyf yn llefaru wrthych. Ai felly nad oes yn eich mysg neb doeth, yr hwn a all benderfynnu rhwng brodyr#6:5 Llyth., rhwng brawd [a brawd]., 6ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny o flaen annghredinwyr? 7Am#6:7 Am hynny A B C [Tr.] Al. WH. Diw.; gad. א D Ti. hynny, yn wir, y mae ar unwaith#6:7 Edê, weithian, yn barod, yna, ar unwaith. yn ddios#6:7 Holôs, gwel ad. 1, yn hollol, yn ddios, i'r eithaf, ‘o dan bob amgylchiad.’ yn ddiffyg#6:7 Hêttêma (o hêttôn, llai), lleihad; yna gorchfygiad (Es 31:8), colled. ‘Y mae cynghaws, pa un a ennillir neu beidio, yn golled.’ ynoch#6:7 Ynoch [en humin] F G; i chwi; gad. א A B C D Brnd. fod gennych gwynion cyfraith ym mysg eich hunain. Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef eich cam‐golledu? 8Ond yn wir#6:8 Alla, na, ond yn wir. yr ydych chwi yn gwneuthur cam ac yn cam‐golledu, a hynny, eich brodyr. 9Neu ai ni wyddoch na fydd i annghyfiawnion etifeddu Teyrnas Dduw? Na thwyller#6:9 ‘Na arweinier chwi ar gyfeiliorn.’ chwi; ni chaiff na phutteinwyr, nac eilun‐addolwyr, na godinebwyr, na masweddwyr#6:9 Malakos, meddal (i'r cyffyrddiad), mwythus, masweddus, rhai sydd yn byw ‘yn fras.’, na gwrryw‐gydwyr#6:9 Neu, Sodomiaid., 10na lladron, na chybyddion#6:10 Neu, rhai trachwantus (5:10, 11)., na meddwon, na difenwyr, na threiswyr, etifeddu Teyrnas Dduw. 11A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchasoch#6:11 Y mae y ferf apelousasthe yn y llais canolog. Cyfeiria at fedydd, pan y rhoddodd y credadyn ei hun i fyny i wasanaeth Crist. Yr oedd ganddo ran yn yr ordinhâd. Y mae y ddwy weithred arall yn y goddefol, gan mai gwaith Duw yn arbennigol ydynt. Y mae ‘a sanctteiddiwyd’ yn dynodi y weithred ddechreuol o gyssegriad i Dduw. Enwir hon yn gyntaf, oblegyd pwysleisia yr Apostol y gwahaniaeth rhwng yr hen fywyd a'r bywyd newydd. Cyfiawnhâd trwy ffydd a olygir yn yr olaf. ymaith eich pechodau, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhâwyd, yn enw yr Arglwydd Iesu Grist#6:11 Grist א B C; gad. D L., ac yn Yspryd ein Duw ni.
Y bywyd newydd yn annghydweddol âg anniweirdeb.
12Pob peth sydd gyfreithlawn#6:12 Neu, o fewn fy ngallu, yn ganiatâol, agored, posibl. i mi, ond nid yw pob peth yn addas#6:12 Neu, yn llesol, buddiol, cyfaddas.. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim#6:12 Neu, gan neb.. 13Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddiddymma hwn a hwythau. Eithr nid yw y corph#6:13 Y mae y corph i Grist, er fod y bol i'r bwydydd. i butteindra, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corph. 14Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd#6:14 Cyfyd א C E K L; sydd yn ein cyfodi A D P Q; a'n cyfododd B. ninnau trwy ei allu ef#6:14 Sef Crist.. 15Oni wyddoch fod eich cyrph yn aelodau Crist#6:15 Y mae y corph nid yn unig yn gymhwys i Grist ond yn unedig â Christ.? a gymmeraf fi ymaith gan hynny aelodau Crist, a'u gwneyd yn aelodau puttain? na wneler byth! 16Neu, oni wyddoch fod yr hwn a unir#6:16 Kollômenos, glynu, ymgyssylltu â, gludio, asiô, uno. â phuttain yn un corph? Canys y ddau, medd efe#6:16 Adda, neu Moses, neu Duw, neu yr Ysgrythyr., a fyddant un cnawd. 17Ond yr hwn a unir#6:17 Kollômenos, glynu, ymgyssylltu â, gludio, asiô, uno. â'r Arglwydd, un Yspryd yw. 18Ffowch oddiwrth butteindra. Pob pechod a wnelo dyn, tu allan#6:18 Y mae meddwdod, &c., i raddau tuallan i'r corph, yn enwedig mewn cyferbyniad i butteindra. i'r corph y mae; ond yr hwn sydd yn putteinio sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun. 19Neu, oni wyddoch fod eich corph yn Gyssegr yr Yspryd Glân yr hwn sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw? ac nid ydych yn eiddoch eich hunain, 20canys â gwerth y'ch prynwyd; gogoneddwch Dduw gan hynny yn eich corph.#6:20 Ac yn eich yspryd, y rhai sydd eiddo Duw K L P.; gad. א A B C D E F G Brnd.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 6: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.