1 Corinthiaid 5
5
Y godinebwr a'i ddysgyblaeth.
1Adroddir#5:1 Llyth., clywir. yn ddios#5:1 Holôs, yn hollol. Rhoddir i'r gair amryw ystyron yma, megys (1) hyd y nod, (2) yn gyffredin, (3) ‘adroddir fod putteindra yn gyffredin yn eich plith,’ (4) yn gyffredinol, (5) yn ddios, heb amheuaeth. Gweler 6:7; 15:29; Mat 5:34. fod putteindra#5:1 Porneia, llosgach (incest, putteindra); moicheia, godineb. yn eich plith, a chyfryw butteindra ar nad yw#5:1 A enwir, gad. א A B C D F G Brnd. hyd y nod ym mysg y Cenhedloedd, fod gan un o honoch wraig ei dâd#5:1 Gweler Lef 18:8.. 2Ac yr ydych wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch#5:2 Golyga pentheo arddangosiad allanol o ofid a galar tufewnol, ‘ymwisgo mewn galar‐wisg.’ yn hytrach, fel y cymmerid o'ch canol yr hwn a wnaeth y weithred hon#5:2 Rhai a roddant yr adnod yn ffurf gofyniad, ‘A ydych,’ &c.. 3Canys myfi yn wir, yn#5:3 Fel (hôs) F G; gad. א A B C D Brnd. absennol yn y corph, ond yn bresennol yn yr yspryd, wyf eisoes wedi barnu, fel pe bawn bresennol, yr hwn yn y fath fodd a weithredodd hyn, 4yn enw ein#5:4 Ein, gad. א A. Harglwydd Iesu#5:4 Grist F G; gad. א A B D P Brnd. wedi ymgynnull o honoch ynghyd a'm hyspryd innau#5:4 Wedi ei wisgo âg awdurdod Crist., gyda gallu ein Harglwydd Iesu#5:4 Grist F G; gad. א A B D P Brnd. 5draddodi y cyfryw un i Satan#5:5 Nid yn gyfystyr âg esgymmuniad. Gallai yr eglwys esgymmuno heb bresennoldeb yspryd yr Apostol. Yr oedd yn cynnwys cystudd corphorol. Y mae Satan yn achosi clefydau, &c. (Luc 13:6; 2 Cor 12:7). Gwel gosp Ananias a Sapphira, Elymas, &c. (Act 5:1; 13:8). er dinystyr y cnawd#5:5 Nid ‘cnawd’ yn gymmaint yn ei ystyr foesol, ond ‘cnawd’ fel defnydd ei gorph. Cafodd ei gospi yn ei gorph (2 Cor 2:6). Y mae dyoddef yn y cnawd yn angenrheidiol er lladd chwantau y cnawd yr hwn a berthyn i'r dyn allanol. ‘Byw yn y cnawd’ (Phil 1:22). Y cnawd sydd i'w ddinystrio, nid y corph yn ei gyfanrwydd., fel yr achubir yr yspryd yn nydd yr Arglwydd Iesu#5:5 Gwell cyssylltu ‘ymgynnull’ ac ‘yn enw,’ &c., a ‘thraddodi’ a ‘gallu ein Harglwydd.’#5:5 Iesu א A D Ti. Tr. Diw.; Iesu Grist A D F G; gad. Iesu Grist B Al. WH.. 6Nid da eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio yr holl dalp? 7Certhwch#5:7 Cyfeiriad at y Pasc: “Y dydd cyntaf y bwriwch y surdoes allan o'ch tai” (Ex 12:15). allan yr hen lefain fel y byddoch yn dalp newydd, megys yr ydych yn ddilefeinllyd#5:7 ‘Yn ol eich proffes,’ yr hyn yw y Cristion mewn meddyl‐ddrych.. Canys ein Pasc#5:7 ‘Gwledd y myned heibio,’ yna, Oen y Pasc (Marc 14:12). ni hefyd a aberthwyd#5:7 Drosom L P; gad. א A B C D Brnd., sef Crist; 8mewn canlyniad, cadwn ŵyl, nid â hen lefain malais#5:8 Golyga kakia, drygioni, natur neu sefyllfa lygredig, tuedd ddrwg, tra y dynoda ponêria, ymarferiad drwg; y cyntaf, yr hyn sydd ddrwg ynddo ei hun, yr ail, yr hyn sydd niweidiol i eraill. a drygioni#5:8 Golyga kakia, drygioni, natur neu sefyllfa lygredig, tuedd ddrwg, tra y dynoda ponêria, ymarferiad drwg; y cyntaf, yr hyn sydd ddrwg ynddo ei hun, yr ail, yr hyn sydd niweidiol i eraill., ond â bara croyw purdeb#5:8 Eilikrineia, efallai o eilê, goleuni yr haul, a krinô, barnu; yr hyn a fernir yng ngoleu yr haul, yna purdeb, tryloewder, didwylledd, diffuantrwydd, gonestrwydd, yr argyhoeddiadau yn cael eu cario allan yn yr ymarweddiad, yr allanol a'r tufewnol yn cyfatteb. a gwirionedd.
Cynghorion i gadw rhag cwmni anfoesol.
9Ysgrifennais#5:9 Yr oedd Paul a'r Corinthiaid wedi bod mewn gohebiaeth (7:1; 2 Cor 7:8). attoch yn y llythyr na chyd‐ymgymmysgech â phutteinwyr; — 10nid na chyd— gymmysgech o gwbl â phutteinwyr y byd hwn, neu y rhai trachwantus#5:10 Pleonektês, un yn chwennych cael rhagor, yn enwedig o'r hyn a berthyn i eraill, gan ei gymmeryd yn bennaf trwy dwyll. a threisgar#5:10 Harpax, treisgar, crib‐ddeiliog, yr hwn a ddyg eiddo eraill trwy drais., neu eilun‐addolwyr, oblegyd yna byddai rhaid i chwi fyned allan o'r byd#5:10 Rhai a ddeonglant, ‘nid wyf yn llefaru o gwbl am butteinwyr,’ &c.; 11ond yn awr#5:11 Yn awr rhesymegol, nid tymhorol, ‘dan yr amgylchiadau presennol.’, yr wyf yn ysgrifennu#5:11 Llyth., ysgrifennais, yr Aorist epistolaidd. attoch i beidio ag ymgymmysgu, os bydd neb a enwir yn frawd yn butteiniwr, neu yn drachwantus, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddwyn, neu yn dreisgar; gyda'r cyfryw un na ddim cymmaint a bwytta. 12Canys beth sydd gyda mi i wneyd a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Symmudwch#5:13 Llyth., cymmerwch ymaith. ymaith yr un drygionus#5:13 Nid ‘y Diafol’ (Calvin), ond y troseddwr yn Eglwys Corinth. Cymhwysiad y gorchymyn yn Deut 17:7; ‘yr un drygionus,’ niweidiol i'r eglwys. o'ch plith eich hunain.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 5: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.