1 Corinthiaid 4
4
Barn dyn yn ofer: Crist yr unig Farnwr.
1Felly cyfrifed dyn nyni megys gweinidogion#4:1 Hupêretês, llyth., is‐rwyfwr, yna, gwas, swyddog. Dengys y gair ochr lafurfawr y weinidogaeth. Crist, a goruchwylwyr#4:1 Oikonomos, un a osodasid ar dŷ, i ofalu am y bwydydd, i arolygu ei drefniadau, &c. Dengys y gair gyfrifoldeb y weinidogaeth. dirgeledigaethau#4:1 Parotôadau Duw ar gyfer iachawdwriaeth, a guddiwyd oddiwrth y byd, ond a amlygir yn yr Efengyl. Duw. 2A#4:2 Hôde א A B C D Brnd.; ho de [loipon], ond yr hyn [yng ngweddill], &c. hyn felly#4:2 Hôde, yma, yn y lle hwn. Golyga yma, ‘yn y mater hwn,’ ‘dan yr amgylchiadau hyn,’ ‘gan fod pethau felly,’ yr unig beth a geisir yw ffyddlondeb. Lachmann a rydd yr attalnod ar ol hode, ‘dirgeledigaethau Duw yma.’ Alford a rydd yr ystyr ‘yma,’ ar y ddaear., ym mhellach, y mae yn ofynol#4:2 Ceisir [y mae yn ofynol] B L Brnd.; ceisiwch א A C D. mewn goruchwylwyr gael un yn ffyddlawn. 3Eithr i mi y mae o'r pwys lleiaf i gael fy ngosod ar brawf gennych chwi neu gan lys#4:3 Llyth., ddydd dynol. Cymharer y Lladin diem dicere, y Saesneg, daysman, ‘eiriolwr’ (Job 9:33). Y mae dydd barn y byd yn wrthgyferbyniol i ddydd yr Arglwydd (Es 13:6; Joel 1:15). dynol; na, nid wyf yn gosod fy hun ar brawf#4:3 Anakrinô, gweler 2:14.. 4Canys nid wyf yn ymwybodol o ddim yn erbyn fy hun#4:4 Neu, o ddim bai ynof fy hun. Arfer y gydwybod yw cyhuddo. ‘Nid wyf yn ymwybodol o ddim ynof fy hun.’; etto, nid trwy hyn yr wyf wedi fy nghyfiawnhâu; eithr yr hwn sydd yn fy mhrofi i yw yr Arglwydd#4:4 Nid cydwybod sydd yn cyfiawnhâu, ond Crist, trwy ffydd; nid cydwybod sydd i fod yn farnwr, ond Crist.. 5Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a ddwg i'r goleu bethau dirgel y tywyllwch, ac a wna yn amlwg fwriadau y calonnau; ac yna y bydd i bob un ei glod oddiwrth Dduw.
Y gwahaniaeth rhwng y Corinthiaid hunan‐foddog a'r Apostolion isel‐frydig.
6Yn awr y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais trwy ddull ffugyrol#4:6 Metaschematizô, newid y ffugyr, trawsffurfio (Phil 3:21). Yr oedd y schema yn ddyfais areithyddol, yn yr hon y cuddiai y llefarwr enwau personau drwy aralleg neu enwau ffugiol, &c. Meddwl Paul felly yw, ‘Yr wyf wedi cymhwyso y rhybuddion hyn i mi fy hun ac Apollos, ond y maent yn gymhwysiadol i bob dysgawdwr Cristionogol arall.’ Gesyd allan wirionedd am y weinidogaeth yn gyffredinol, pan lefara, am resymmau digonol, am dano ei hun ac Apollos yn unig. attaf fy hun ac Apollos, er eich mwyn chwi, fel ynom ni y dysgoch beidio#4:6 Neu, y wireb neu ddiareb: ‘Dim tu hwnt y pethau a ysgrifennwyd.’ Yr oedd hwn, yn ddiamheu, yn ddywediad cyffredinol, gan gyfeirio at yr Hen Destament. myned#4:6 Na synier C; gad. א A B D F G Brnd. tuhwnt y#4:6 Y peth [yr hyn] D F G.; y pethau א A B C Brnd. pethau a ysgrifennwyd, fel na byddo un o honoch yn ymchwyddo ar ran y naill yn erbyn y llall. 7Canys pwy sydd yn peri gwahaniaeth#4:7 Llyth., pwy sydd yn dy wahanu di? Yn ol rhai (1) ‘Pwy sydd yn gwneyd i ti dorri ymaith oddi wrth eraill, gan fod yn bleidiwr dall a rhagfarnllyd’? (2) ‘Pwy roddodd i ti ragoriaeth, doniau na roddwyd i eraill’? Os felly, yr atteb yw Duw; (3) ‘Pwy a wnaeth wahaniaeth rhyngot ti ac eraill’? Nid oes gwahaniaeth ond yn dy ddychymmyg balch dy hun; (4) ‘Pwy a wnaeth y gwahaniaeth rhyngot ti,’ y Corinthiad balch a hunanol, a ni yr Apostolion, y rhai ydym yn dyoddef caledi ac yn arwain bywyd llafurfawr? rhyngot ti ac eraill? a pha beth sydd gennyt ar nas derbyniaist? ond, yn wir, os derbyn wnaethost, paham yr wyt yn ymffrostio megys pe buasit heb dderbyn? 8Eisoes yr ydych chwi wedi eich gor‐ddigoni#4:8 Kekoresmenoi, wedi eich llenwi, diwallu, gan ddangos hollol hunan‐foddhâd (ffugyr o fwytta i orddigonedd). Gweler Deut 31:20, a 32:15., eisoes yr ymgyfoethogasoch, ar wahân#4:8 Rhai a roddant y brawddegau yn ffurf gofyniadau, ‘A ydych eisoes,’ &c. â ni chwi aethoch yn frenhinoedd#4:8 Nid ‘heb ein cydweithrediad,’ ond ‘am danom ni, yr ydym mewn angen, caledi, llafur.’. Ac o na baech yn wir yn frenhinoedd fel y caem ninnau hefyd fod yn frenhinoedd gyda chwi. 9Canys yr wyf yn tybied fod Duw yn ein harddangos#4:9 Apodeiknumi, arddangos yn gyhoeddus, dwyn allan o flaen y cyhoedd. Cyfeiriad diamheuol at garcharorion, &c. a ddygid allan yn yr amchwareufa i ymladd â llewod a bwystfilod eraill. ni yr Apostolion yn gyhoeddus yn olaf#4:9 Fel i beri y difyrwch pennaf., fel rhai wedi eu dedfrydu i farwolaeth: oblegyd nyni a wnaethpwyd yn ddrych#4:9 Theatron, man lle y cynhelid yr ornest gampau, neu yr arddangosid y chwareuon dramayddol, neu y dygid ymlaen y gwaith cyhoeddus. Yma golyga, nid y lle, na'r edrychwyr, na'r rhai a gymmerent ran, ond yr olygfa, y syn‐ddrych; felly o'r un ystyr a theama. i'r byd, i angylion ac hefyd i ddynion#4:9 Golyga kosmos, y byd, y bydysawd, yr hwn a rennir yma i angylion a dynion. Angylion da a olygir, canys ni ddefnyddir y gair wrtho ei hun am angylion drwg (11:10; 1 Tim 5:21).. 10Yr ydym ni yn ffyliaid Crist, ond yr ydych chwi yn ddoethion#4:10 Phronimoi, rhai call, pwyllog, deallus. yng Nghrist; yr ydym ni yn weiniaid, ond yr ydych chwi yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygedig; 11hyd y nod yr awr hon yr ydym mewn newyn a syched, ac yn fyr o ddillad, ac yn cael ein dyrnodio#4:11 Kolaphizô, o kolaphos, dwrn., ac heb drigle sefydlog#4:11 Astateô [yma yn unig yn y T.N.], o astatos, ansefydlog. Defnyddir y gair am dreigliad y tonnau. Yr oedd erledigaethau a theithiau cennadol yn cyfrif am hyn. gennym; 12ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylaw ein hunain#4:12 Gweler Act 18:3; 20:34. Yr oedd y ‘llafurio,’ ‘yr ymboeni,’ yn dangos ei ludded; ‘y gweithio,’ ei wirfoddolrwydd.; pan y'n difenwir#4:12 Loidoreô, difenwi (un yn ei wyneb), sarhâu, gwarthruddo., yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn dyoddef yn amyneddgar#4:12 Anechomai, dal i fyny dan, goddef, ymarferyd hunan‐lywodraeth.; 13pan y'n enllibir, yr ydym yn ymbilio#4:13 Parakaleô, nid cynghori na gweddio yw yr ystyr yma, ond attolygu ar yr enllibwyr i adael eu drygioni; ceisio eu darbwyllo, eu hatteb yn dawel a charedig.; fel ysgubion#4:13 Perikatharmata, o perikathairo, glanhau o amgylch, felly y budreddi, ysgarthion a symmudir; felly dynodai yr hyn a ddirmygid, ac a deflid ymaith, yna personau gwael a diwerth. Defnyddid y gair am droseddwyr y rhai yn amser pla, newyn, &c. a roddid i farwolaeth fel iawn i gymmodi y duwiau. y byd y gwnaethpwyd ni a sorod#4:13 Peripsema. Tra y golyga perikatharma, budreddi a gesglir wrth ysgubo o amgylch yr ystafell, golyga peripsêma y budreddi a symmudir oddiwrth greadur, ysgarthion, sorod. pob dim hyd yn awr.
Cynghorion a rhybuddion tadol.
14Nid gan eich cywilyddio#4:14 Entrepô, troi un yn ol arno ei hun, cywilyddio. yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn; eithr eich cynghori#4:14 Noutheteô, dwyn y meddwl yn ol i'w le, cynghori, rhybuddio. yr wyf fel fy mhlant anwyl. 15Canys pe byddai i chwi ddeng mil o warchodwyr#4:15 Paidagôgos, llyth., arweinydd plentyn; fel rheol ym mhlith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid y caethwas a ofalai am y plant, gan edrych ar ol eu haddysg foreuol a'u moesau. Yr oedd yn fwy o warcheidwad nag o athraw. Yr oedd yn llym yn ei ddysgyblaeth. Felly gelwir y gyfraith yn paidagogos, yn ein harwain at, neu ein parotoi i Grist. yng Nghrist, etto nid oes i chwi nemawr o dadau; canys yng Nghrist Iesu trwy yr efengyl y cenhedlais i chwi. 16Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi, byddwch efelychwyr i mi. 17O herwydd hyn yr anfonais Timotheus attoch, yr hwn yw fy mhlentyn anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist#4:17 Yng Nghrist A B L P Tr. Al. Diw. Yng Nghrist Iesu א C La. Ti., hyd y nod fel ag yr wyf yn dysgu ym mhob man ym mhob eglwys. 18Yn awr, y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i yn dyfod attoch chwi; 19eithr mi a ddeuaf attoch yn fuan, os yr Arglwydd a'i myn; a deuaf i wybod, nid ymadrodd y rhai chwyddedig, ond eu gallu. 20Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu. 21Beth a fynnwch chwi, ai dyfod o honof attoch chwi â#4:21 Llyth., mewn; a fynnwch i mi ddyfod fel gwarchodwr neu athraw, neu ynte fel tâd? gwialen, ynte mewn cariad, ac yspryd addfwynder?
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 4: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.