1 Corinthiaid 3
3
Pleidyddiaeth y Corinthiaid yn rhwystr i'r Efengyl.
1A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai ysprydol, eithr wrth fel rhai o#3:1 O gnawd (sarkinois) א A B C D Brnd.; cnawdol (sarkikois) F G. gnawd#3:1 Dynoda sarkinos sylwedd a natur dyn fel creadur syrthiedig, a sarkikos, cnawdol, ei dueddiadau llygredig: sarkinos, o gnawd, S. Fleshy, Llad. carneus; sarkikos, S. fleshly, carnal, Llad. carnalis. Fel y mae y baban yn fwy o gnawd nag o ddeall, felly yr oedd y Corinthiaid. Bu yr Apostol ddeunaw mis yn eu plith. Ar adeg eu dychweliad at Grist, yr oeddynt yn fychain eu hamgyffrediad. Ni ddefnyddir sarkikos yn yr awduron clasurol, o herwydd fod y ffaith a gyflëa yn absennol; hwn yw y gair cyffredin yn y T.N., megys wrth fabanod yng Nghrist. 2Mi a'ch porthais#3:2 Llyth., diodais. chwi â llaeth, nid â bwyd sylweddol; canys nid oeddech etto yn gryfion#3:2 Defnyddir dunamai yn fynych yn yr ystyr bod yn gryf, yn alluog, yn y LXX, Jer 5:4; 38:5; Salm 128:2.; na, nid ydych hyd y nod yn awr yn gryfion#3:2 Defnyddir dunamai yn fynych yn yr ystyr bod yn gryf, yn alluog, yn y LXX, Jer 5:4; 38:5; Salm 128:2., 3canys yr ydych etto yn gnawdol#3:3 Sarkikois, gwel nodiad ad. 1.: canys tra y mae yn eich plith chwi eiddigedd#3:3 Zêlos, poethder, fynychaf yn y T.N. mewn ystyr anffafriol, eiddigedd o'r hwn y cyfyd eris, cynnen, ymrysson: phthonos yw cenfigen. Y mae eiddigedd yn y meddwl, cynhen mewn geiriau, a dichostasiai, ymbleidiau, mewn gweithredoedd. a chynnen#3:3 Dichostasiai, ac ymbleidiau D F G; gad. א A B C Brnd., onid ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ol dyn#3:3 Neu, yn ol dull dynion.? 4Canys pan ddywed un, Myfi wyf eiddo Paul; ac arall#3:4 Llyth., un gwahanol., Myfi wyf eiddo Apollos, onid dynion#3:4 Dynion א A B C D F G Brnd.; cnawdol L P. ydych?
Yr hyn yw gweinidogion yr Efengyl.
5Pa#3:5 Pa beth א A B; Brnd.; pwy C D F G. Hefyd Apollos o flaen Paul yn א A B C D F G &c. beth gan hynny yw Apollos? a#3:5 Pa beth א A B; Brnd.; pwy C D F G. Hefyd Apollos o flaen Paul yn א A B C D F G &c. pha beth yw Paul? Gweinidogion#3:5 Diakonos, un a gyflawna orchymyn un arall (felly, gwas), ac a bwysleisia ei weithgarwch, fel y gwna doulos, caethwas, ei israddoldeb, a therapôn ei wirfoddolrwydd (Heb 3:5).#3:5 Gad. ond yn yr oll ond C. drwy y rhai y credasoch: a phob un fel y rhoddodd yr Arglwydd iddo. 6Myfi a blennais#3:6 Act 18:1–8.; Apollos a ddyfrhâodd#3:6 Act 18:27.; eithr Duw oedd yn rhoddi y cynnydd. 7Felly ynte nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cynnydd. 8Etto, yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un peth#3:8 Offerynnau yw y gweinidogion, a rhannau o'r un peiriant, yn cymmeryd rhan yn yr un gwaith. Ni ddylai fod annghydfod rhwng y plannwr a'r dyfrhâwr. ydynt: ond pob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun. 9Canys cydweithwyr#3:9 Nid, cydweithwyr Duw, yn yr ystyr o gydweithio yn ei wasanaeth; ond y mae efe yn gydweithiwr â ni. Gweler Rhuf 16:3; Phil 1:24. Cyflëa y frawddeg ymddybyniaeth ar Dduw a chydweithrediad âg ef. â Duw ydym ni: amaethdir#3:9 Geôrgion, maes neu dir i'w drin neu wrteithio. Duw, adeiladwaith Duw ydych chwi.
Y gwir sylfaen, a'r pwysigrwydd o iawn adeiladu.
10Yn ol gras#3:10 Llyth., y gras neillduol a rad‐roddwyd i Paul. Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen‐adeiladydd#3:10 Architektôn, pen‐adeiladydd, pen‐saer, yn yr ystyr o arolygydd gwaith. Paul oedd hwn. Duw oedd y cynllunydd. Yma yn unig yn y T.N. medrus#3:10 Sophos, medrus, cywrain, doeth. myfi a osodais sylfaen; ac y mae arall yn adeiladu arno: ond edryched pob un pa fodd y mae yn adeiladu arni. 11Canys sylfaen arall ni all neb ei osod heb law yr un a osodwyd#3:11 Keimenos, yn gorwedd, yn osodedig. Y mae yr Apostol megys yn cywiro ei hun. Yr oedd y sylfaen yn gorwedd yn barod, megys o'i ewyllys ei hun. Gwel Es 28:16., yr hwn yw Iesu Grist#3:11 Nid yr athrawiaeth am dano, ond ei berson Dwyfol; ‘y Crist hanesyddol’ yw y sylfaen.. 12Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur#3:12 Y gwir ddarlleniad yw y bychanig, chrusion, argurion, darn o aur, o arian., arian#3:12 Y gwir ddarlleniad yw y bychanig, chrusion, argurion, darn o aur, o arian., meini gwerthfawr#3:12 Palasdai y Dwyrain a wnaed yn fynych yn ysblenydd gan farmor, alabastr, iasper, &c. Dynoda y defnyddiau uchod, nid yn unig (1) yr athrawiaethau a bregethir, neu yn gymmaint (2) y gwahanol ddosparthiadau o aelodau, drwg a da, ond ffrwyth yr addysg a'r fuchedd, yr athrawiaeth yn ymgorphoredig yn y bywyd crefyddol. (Dad 21:18, 19). Yr adeilad yw yr Eglwys fel tyst i'r gwirionedd, ac fel ymgorphoriad o hono., coed, gwair, sofl, 13gwaith pob un a ddaw i'r amlwg; canys y dydd#3:13 Nid ‘amser a ddengys’ neu ‘ddydd cystudd,’ ond ‘dydd Crist,’ y Farn (1:8; 5:5; 2 Petr 3:10; 1 Thess 5:2, 4). a'i gwna yn eglur, canys mewn tân y mae yn cael ei ddadguddio; a gwaith pob un pa fath ydyw, y tân ei#3:13 Ei hun A B C Brnd.; gad. א D E L. hun a brawf. 14Os yw gwaith neb yn aros, yr hwn a oruwch‐adeiladodd efe, efe a dderbyn wobr#3:14 Neu, daliad.. 15Os gwaith neb a losgir i'r llawr#3:15 Katakaiô, llosgi yn hollol, i lawr (2 Petr 3:10)., efe a golledir#3:15 Zemioô, gwneyd niwed, achosi colled; yma, ‘efe a golledir o'i wobr,’ ‘efe a ddirwyir o'i dal.’ Gweler Ex 21:22; Deut 22:19, LXX.: eithr efe ei hun a achubir, ond felly megys trwy dân#3:15 H.y., fel un yn dianc allan o'i dŷ sydd ar dân. Ffugyrol yw yr oll o'r termau a ddefnyddir, felly y tân. Nid oes yma sail i Burdan y Pabyddion. Yr ystyr yw y cä yr adeiladydd gwael ei achub am iddo adeiladu ar y sylfaen iawn, er nad yw ei waith ei hun o un gwerth. Nid tân i buro sydd yma, ond tân a goleu y Farn yn profi gwaith dyn, ac yn dangos ei werth. Nid trwy dân y cymmer achubiaeth y gweithiwr le, ond yn wyneb y tân..
Teml Dduw: cosp eu dinystrwyr.
16Oni wyddoch mai Cyssegr#3:16 Gwel nodiad, Mat 23:16. Duw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch? 17Os oes neb yn dinystrio#3:17 Phtheirô, dinystrio, dyfetha yw y prif ystyr mewn Groeg clasurol. Yn ol yr Iuddewon yr oedd yr hwn a halogai y Deml yn dinystrio y Deml. Marwolaeth dymhorol oedd y gosp am niweidio neu halogi y Cyssegr. (Ex 28:43) Cyssegr Duw, hwnnw Duw a ddinystria#3:17 Phtheirô, dinystrio, dyfetha yw y prif ystyr mewn Groeg clasurol. Yn ol yr Iuddewon yr oedd yr hwn a halogai y Deml yn dinystrio y Deml. Marwolaeth dymhorol oedd y gosp am niweidio neu halogi y Cyssegr. (Ex 28:43); oblegyd Cyssegr Duw sydd sanctaidd, a'r cyfryw ydych chwi. 18Na thwylled neb ei hun. Od oes neb yn tybied ei fod yn ddoeth yn eich mysg yn y byd#3:18 Neu, oes, (ansicr, gyfnewidiol, bechadurus). hwn, aed yn ffol, fel yr elo yn ddoeth#3:18 Neu (yn ol Luther, Hofmann, Godet), ‘Od oes … yn eich mysg, aed yn ffol yn y byd hwn, fel’ &c., 19Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, —
Yr hwn sydd yn gafaelu#3:19 Drasomenos [o drax, dwrn], cau y dwrn ar, gafaelu yn dyn, crafangu. yn y doethion yn eu cyfrwysdra#3:19 Panourgia, y gallu neu y duedd i wneuthur pob peth mewn ffordd ddrwg, i gyrhaedd yr amcan mewn golwg, cynllwyn, cyfrwysdra.#Job 5:13.
20A thrachefn,
Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau#3:20 Dialogismoi, ymresymiadau tufewnol, yn wastad mewn ystyr anffafriol yn y T.N. y doethion, mai ofer ydynt#Salm 94:11, LXX.
21Mewn canlyniad, na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi: 22pa un bynnag ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai y byd#3:22 Nid aion, y byd drwg, mewn ystyr foesol, ond kosmos, y byd gweledig fel creadigaeth Duw dan reolaeth ei ewyllys, lle y cymmer pethau le yn ol ei ragluniaeth, a'r hwn yn wir a berthyn i'r saint fel ei etifeddion (Rhuf 4:13; 8:28)., ai bywyd#3:22 Zoê, y bywyd uwchaf; psuchê, y bywyd anifeilaidd, daearol; bios, buchedd, y modd yr ydym yn byw yn y byd., ai angau#3:22 Y mae angau yn wasanaethgar i'r credadyn. Y mae yn arwain i fyd a bywyd gwell, trwy fod y Cristion yn cael goruchafiaeth arno., ai pethau presennol#3:22 Llyth., pethau sydd ar ddygwydd., ai pethau i ddyfod: pob peth sydd eiddoch chwi; 23a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw#3:23 Nid yn ei ddyndod ond yn ei bersonoliaeth Ddwyfol. Y mae israddoldeb o fewn cylch y Duwdod. Y mae Crist yn Dduw, ond hefyd yn Nuw. Gweler Ioan 17:7, 8, 21–23..
ที่ได้เลือกล่าสุด:
1 Corinthiaid 3: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.